Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen NODYN BRIFFIO COVID-19 – GWNEWCH EICH RHAN, ARHOSWCH YN GRYF A DALIWCH ATI
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > NODYN BRIFFIO COVID-19 – GWNEWCH EICH RHAN, ARHOSWCH YN GRYF A DALIWCH ATI
ArallY cyngor

NODYN BRIFFIO COVID-19 – GWNEWCH EICH RHAN, ARHOSWCH YN GRYF A DALIWCH ATI

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 11, 2021 11:36 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Covid-19
RHANNU

Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch

Mae pethau wedi gwella rhywfaint, ond yn Wrecsam y mae’r cyfraddau uchaf o’r coronafeirws yng Nghymru gyfan (660.5 achos am bob 100k o bobl ar sail saith diwrnod treigl).

Cynnwys
  • Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch
  • Apwyntiadau brechu – peidiwch â ffonio’ch meddyg teulu
      • Peidiwch â mynd dros ben llestri ar ôl ichi gael eich brechu
      • Cyflwyno’r brechlyn yn Wrecsam
  • Rhifau ein stori Covid
  • Lefelau coronafeirws yn eich ardal chi
  • Ysgolion a dysgu o bell
  • Dyma sy’n rhaid inni i gyd ei wneud
  • Diolch
  • Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Yr amrywiolyn newydd sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion newydd yng ngogledd Cymru erbyn hyn ond, diolch byth, nid oes achosion o amrywiolion De Affrica a Brasil.

Mae pobl o bob oedran yn dal i fynd yn sâl, mae rhai’n marw, ac mae’n gwasanaethau iechyd lleol yn dal o dan bwysau aruthrol.

Mae’r neges yn dal yn syml:

Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch chi – ac ar bawb yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw.

Byddwch yn hynod ofalus, byddwch yn hynod ystyriol, a pheidiwch â chymysgu â phobl o aelwydydd eraill – y tu mewn na’r tu allan.

Apwyntiadau brechu – peidiwch â ffonio’ch meddyg teulu

Pan ddaw eich tro chi i gael y brechlyn, fe gysylltir â chi i drefnu apwyntiad.

Peidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu neu’ch ysbyty lleol i holi am apwyntiad cyn hynny. Byddwch yn cael gwybod pan ddaw eich tro chi.

Mae ein gwasanaethau iechyd eisoes o dan bwysau aruthrol, ac mae’n rhaid inni roi amser a lle iddynt ganolbwyntio ar gyflwyno’r rhaglen frechu anferth hon.

Mae ein Rhaglen Frechu COVID-19 yn awr yn mynd rhagddi. Mae pobl yn cael eu gwahodd i ganolfannau brechu a meddygfeydd i gael eu brechlyn yn nhrefn y grwpiau blaenoriaeth a ddynodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio 🔗 https://t.co/R0YIeq7mMx pic.twitter.com/GSemOJgF1W

— Betsi Cadwaladr (@BetsiCadwaladr) January 21, 2021

Cofiwch fod Llywodraeth Cymru’n bwriadu brechu:

• Trigolion a staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, pobl dros 70 oed, a phobl sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, erbyn canol mis Chwefror.
• Pobl dros 50 oed erbyn y gwanwyn.
• Pob oedolyn arall erbyn yr hydref.

Peidiwch â mynd dros ben llestri ar ôl ichi gael eich brechu

Ar ôl ichi gael eich brechu, bydd angen ichi fod yn hynod ofalus o hyd, a bydd raid ichi gadw at yr holl gyfyngiadau a’r canllawiau sydd mewn grym yng Nghymru.

Ni fyddwch wedi’ch diogelu yn syth (mae’r brechlyn yn cymryd amser i weithio) ac fe allai fod yn bosibl ichi ddal a lledaenu’r feirws o hyd.

Felly peidiwch â mynd dros ben llestri a meddwl y gallwch anwybyddu’r holl gyngor a’r cyfyngiadau diogelwch unwaith ichi gael eich brechu.

Daliwch ati i fod yn hynod ofalus, a chadwch at y rheolau – hyd yn oed ar ôl ichi gael eich brechu.

Cyflwyno’r brechlyn yn Wrecsam

Mae staff a thrigolion cartrefi gofal yn Wrecsam yn dal i gael eu brechu. Hyd yn hyn, mae dros 67% o drigolion a 46% o staff wedi cael eu brechu.

Ddydd Mawrth, Ionawr 26, bydd canolfan frechu’n dechrau gweithredu yng Nghanolfan Catrin Finch.

Bydd hyn yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno’r rhaglen frechu yn Wrecsam, ar y cyd â meddygfeydd lleol.

Gallwch ddarllen mwy am gyflwyno’r rhaglen frechu ar wefan y bwrdd iechyd lleol.

Rhifau ein stori Covid

Mae’r fideo isod yn dangos y nifer o achosion coronafeirws yn Wrecsam ers dechrau’r pandemig.

Cymerwch funud i’w gwylio…

Achosion Covid ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ers dechrau'r pandemig pic.twitter.com/laLlgxfslS

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) January 22, 2021

Lefelau coronafeirws yn eich ardal chi

Mae’r niferoedd yn y rhan fwyaf o ardaloedd Wrecsam wedi gwella ers dechrau’r wythnos hon, ond mae’r ffigurau’n dal yn uchel iawn.

Yr ardaloedd lle mae mwy na 700 o achosion am bob 100k o bobl yw:

• Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd, 1,198 achos
• Y Waun a Dyffryn Ceiriog, 972 achos
• Parc Caia, 896 achos
• Gorllewin Wrecsam, 888 achos
• Hermitage a Whitegate, 811 achos
• Gogledd y dref, y Brifysgol a Rhosddu, 743 achos
• Acton a Maesydre, 732 achos

Yn Wrecsam, mae’r feirws yn dal i wneud ei ffordd i gartrefi pobl ac yn lledaenu rhwng aelodau o deuluoedd, yn bennaf.

Mae hefyd yn bresennol mewn rhai cartrefi gofal, gweithleoedd, yr ysbyty a’r carchar.

Ysgolion a dysgu o bell

Fel yng ngweddill Cymru, mae ysgolion yn Wrecsam yn dal i gynnig darpariaeth dysgu o bell i’w disgyblion.

Os na fydd lefelau’r feirws yn gostwng yn sylweddol, bydd hyn yn parhau tan hanner tymor Chwefror.

Dyma sy’n rhaid inni i gyd ei wneud

Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch chi – ac ar bawb yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw.

Daliwch ati i gadw at y cyfyngiadau sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd a:

• Pheidiwch â chymysgu â phobl o aelwydydd eraill (y tu mewn na’r tu allan).
• Peidiwch â theithio heblaw am at ddibenion hanfodol, megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.

Arhoswch yn gryf a daliwch ati.

Diolch

Mae delio â glaw llifeiriol a llifogydd yn ddigon anodd ar y gorau, ond yn anos fyth yn ystod pandemig.

Felly diolch o galon i bawb — yn cynnwys staff y cyngor, y gwasanaethau brys, ein partneriaid mewn asiantaethau eraill, a’n cymunedau – am gynorthwyo Wrecsam i oroesi cyfnod anodd.

Gallwch ddarllen mwy am Storm Christoph, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd, drwy ddilyn Heddlu Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Wrecsam ar Twitter.

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

• Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – diweddariadau am y brechlyn (gogledd Cymru)
• Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
• Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol

Rhannu
Erthygl flaenorol Lighting the Darkness…remember Holocaust Day with a candle this year Goleuo’r Tywyllwch…nodwch Ddiwrnod yr Holocost gyda channwyll eleni
Erthygl nesaf Bangor on Dee from the air Gwaith adfer yn mynd rhagddo ym Mangor Is-Coed yn dilyn llifogydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English