Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ARTIST YN DATGELU EI BROSIECT CELF DIWEDDARAF SY’N DATHLU GOFALWYR MAETH LEDLED CYMRU
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > ARTIST YN DATGELU EI BROSIECT CELF DIWEDDARAF SY’N DATHLU GOFALWYR MAETH LEDLED CYMRU
Fideo

ARTIST YN DATGELU EI BROSIECT CELF DIWEDDARAF SY’N DATHLU GOFALWYR MAETH LEDLED CYMRU

Diweddarwyd diwethaf: Mai 17, 2021 1:25 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
RHANNU

Mae’r artist o Gymru, Nathan Wyburn, am ddenu sylw at waith gofalwyr maeth , wrth i adeiladau yn cynnwys Y Guildhall yn Wrecsam yn gael ei oleuo’n oren y Pythefnos Gofal Maeth hwn.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Cafodd llawer ohonom gefnogaeth ein teuluoedd a’n chyfeillion i’n cefnogi yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf, ond mae ar rai plant a phobl ifanc ar draws Cymru angen mwy o’r gefnogaeth hynny nag erioed o’r blaen.

Nawr, ar gychwyn Pythefnos Gofal Maeth – ymgyrch hybu ymwybyddiaeth a recriwtio cenedlaethol y Rhwydwaith Maethu (The Fostering Network) – mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i fwy o bobl yn Wrecsam i ystyried maethu.

Gyda thema eleni #PamRydymYnGofalu (#WhyWeCare), mae’r artist o Gymru, Nathan Wyburn, sy’n adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu celf, wedi llunio darn yn defnyddio goleuadau LED i helpu i ddangos sut gall unrhyw dŷ fod yn gartref diogel, llawn cariad.

Meddai Nathan, anfonwyd cerdd ataf yn trafod yr holl bethau mae gofalwyr maeth yn eu gwneud wrth ddarparu dyfodol mwy llewyrchus i blant ledled Cymru ac roeddwn am greu rhywbeth sy’n dathlu’r modd maent yn agor drysau eu cartrefi a’u calonnau.

“Dwi’n credu taw un o’r mythau mwyaf am faethu yw bod rhaid cael tŷ mawr a gardd fawr i fod yn ofalwr maeth – nid yw hynny’n wir.”

Ceir fideo treigl amser yn dangos y darn yn dod at ei gilydd gyda’r gerdd fel tros haen yn dangos sut mae cyd-destun y darn yn aneglur, “Ond pan gaiff y goleuadau eu cynnau ceir eglurder,” ychwanega Nathan.

ARTIST YN DATGELU EI BROSIECT CELF DIWEDDARAF SY’N DATHLU GOFALWYR MAETH LEDLED CYMRU

“Mae ymdeimlad o bosibilrwydd a phositifrwydd yn eglur!”

Nawr gofynnir i bobl ar draws Cymru ddangos eu cefnogaeth i Bythefnos Gofal Maeth trwy osod lamp yn eu ffenestr blaen ddydd iau nesaf (20fed Mai) i ‘daflu goleuni’ ar y gwaith a gyflawnir gan ofalwyr maeth awdurdodau lleol, ac i ddathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Bydd adeiladau ar draws Cymru hefyd wedi’u goleuo’n oren i gydnabod y gwaith anhygoel a gyflawnir.

gofalwyr maeth yn darparu cefnogaeth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc sy’n methu byw gyda’u teuluoedd genedigol.

Er bod nifer ohonom wedi bod yn anhapus am dreulio mwyafrif o’r llynedd wedi’n caethiwo yn ein cartrefi, ar gyfer rhai pobl ifanc gallant ond breuddwydio am gael ymdeimlad o ddiogelwch, diogeledd a chysur mae cartref yn ei roi. Gall ymddangos yn rhywbeth sydd allan o’u cyrraedd i rai plant a phobl ifanc.”

Mae angen cannoedd o deuluoedd maethu newydd bob blwyddyn yng Nghymru ar gyfer plant o bob oedran, ac yn benodol grwpiau o frodyr neu/a chwiorydd, plant hŷn a phobl ifanc a phlant ag anghenion ychwanegol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches.

Ceir nifer o gamdybiaethau ynghylch maethu

Er enghraifft, mae rhai pobl yn credu bod angen i chi fod mewn perthynas neu’n briod – neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun – ond nid yw hynny’n wir.

Un o’r pethau am faethu yw nad yw am newid y plant, mae’n golygu gadael iddynt fod eu hunain a’u helpu i ddarganfod pwy ydynt er mwyn ffynnu. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n dwyn profiadau bywyd a gwaith amrywiol i’r rôl.

Bydd gan nifer o bobl yn Gymru ystafelloedd sbâr a allai fod yn lloches, gan drawsnewid bywyd plant a sicrhau eu bod yn ffynnu.”

Bydd awdurdodau lleol yn rhannu cynnwys ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gydol Pythefnos Gofal Maethu i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant “Mae gennym gymuned ffantastig o ofalwyr maeth yma yn Wrecsam. Mae Pythefnos Gofal Maeth yn cymryd rhan i adnabyddi eu hymdrechion,  codi ymwybyddiaeth a gwirio camdybiaethau cyffredin gwmpas maethu.”

Os credwch y gallwch wneud gwahaniaeth trwy fod yn ofalwr maeth yn Wrecsam, ewch i:

https://www.wrecsam.gov.uk/service/gofal-cymdeithasol-i-blant/maethu

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

TAGGED:https://youtu.be/63rZPljBVGo
Rhannu
Erthygl flaenorol Caring for people. Gweithio tuag at fod yn gyngor cyfeillgar i ddementia
Erthygl nesaf Dog O Gofynnir i berchnogion cŵn fod yn feddylgar pan nad yw eu cŵn ar dennyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
FideoPobl a lle

Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol

Mawrth 6, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!

Mawrth 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English