Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 0 o 6am yfory, 7 Awst 2021
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 0 o 6am yfory, 7 Awst 2021
Y cyngor

Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 0 o 6am yfory, 7 Awst 2021

Diweddarwyd diwethaf: 2021/08/06 at 1:04 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 0 o 6am yfory, 7 Awst 2021
RHANNU

Wrth i’r penwythnos agosáu mae’n newyddion da iawn y byddwn wedi symud i Lefel Rhybudd 0 ar ôl  6am bore ‘fory (07.08.21). Mae hyn yn golygu:

Cynnwys
Llyfrgelloedd a Chanolfannau Adnoddau CymunedolBrechlynnauY diweddaraf ar frechiadau ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oedCyngor i’r rhai sy’n ansicr ynghylch y brechlyn COVID-19Os oes gennych symptomau mae’n rhaid i chi hunanynysu o hyd“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cael y brechlyn”
  • Diwedd ar y cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl all gyfarfod dan do, yn cynnwys mewn tai preifat, llefydd cyhoeddus a digwyddiadau
  • Caiff pob busnes ac eiddo agor, yn cynnwys clybiau nos
  • Dylai pobl barhau i weithio gartref ble bynnag bosibl
  • Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol heblaw mewn eiddo lletygarwch.  Bydd hyn yn cael ei gadw dan adolygiad.
  • Ni fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, plant a phobl ifanc o dan 18 oed ac unigolion sy’n cymryd rhan mewn treialon brechu hunanynysu os ydynt wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am y feirws.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Bydd rhai cyfyngiadau pwysig yn aros yn eu lle ac mae’n rhaid i ni i gyd gofio er bod nifer y profion positif, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau yn ymddangos fel pe baent yn disgyn neu’n gwastatau, mae Covid-19 yn bresennol ym mhob cymuned yma yn Wrecsam a bod angen i ni fod yn ofalus o hyd.

  • Bydd hyblygrwydd o ran pellter cymdeithasol ac mae’n rhaid i fusnesau a sefydliadau fod ag Asesiadau Risg priodol yn eu lle
  • Bydd yn rhaid parhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb ar gludiant cyhoeddus yn cynnwys bysus, trenau a thacsis felly cofiwch fynd ag un efo chi pan fyddwch yn mynd allan.

Llyfrgelloedd a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol

Am y tro bydd y mesurau Covid-19 presennol yn aros yn eu lle yn ein holl lyfrgelloedd a’n canolfannau adnoddau cymunedol er mwyn rhoi cyfle i staff edrych ar y canllawiau newydd a gweld sut y gallant ddatgloi’n ddiogel ar gyfer defnyddwyr a chymunedau.

Brechlynnau

Diolch i bawb sydd wedi dod ymlaen am y brechlyn; rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol yn Wrecsam ac mae nifer y bobl sy’n cael eu dos cyntaf a’u hail ddos yn parhau i godi ochr yn ochr â’r niferoedd ar draws Gogledd Cymru.

Mae bron i 85 y cant o oedolion cymwys yng #NgogleddCymru naill ai wedi cael eu brechu'n llawn. Rydym wedi bod yn cynllunio manwl ar gyfer ymgyrch #brechlyn atgyfnerthu rhag #COVID19, a fydd yn dechrau ym mis Medi. ????https://t.co/Na1neDykl4 pic.twitter.com/QCTUgNFXnM

— Betsi Cadwaladr (@BetsiCadwaladr) August 4, 2021

Os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf neu eich ail ddos gwnewch apwyntiad cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau y cewch y pigiad atgyfnerthu yn barod am fisoedd y gaeaf.

Gallwch wneud apwyntiad yma neu galwch i mewn i ganolfan Catrin Finch ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Y diweddaraf ar frechiadau ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed

Yn unol â gweinyddiaethau cenedlaethol eraill yn y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cyngor diweddaraf y JCVI a diolchodd iddynt am eu harbenigedd a’u barn ystyriol ar faterion mor bwysig.

Byddwn yn cefnogi’r GIG gydag unrhyw drefniadau angenrheidiol i frechu pob unigolyn ifanc 16 ac 17 oed cyn gynted â phosib yn unol â chyngor y JCVI

Cyngor i’r rhai sy’n ansicr ynghylch y brechlyn COVID-19

Os oes gennych unrhyw bryderon am gael y brechlyn, os gwnewch chi drefnu apwyntiad ar-lein  neu fynd i un o’r sesiynau galw heibio, bydd staff yn rhoi amser i drafod eich pryderon gyda chi er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus am dderbyn y brechlyn ai peidio.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy a chyfredol am y brechlyn COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Os oes gennych symptomau mae’n rhaid i chi hunanynysu o hyd

Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein cymunedau’n ddiogel mae’n bwysig hunanynysu os oes gennych chi symptomau a threfnu prawf PCR. Gallwch wneud hyn ar lein.

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cael y brechlyn”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam:  “Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd dros yr ychydig fisoedd nesaf ac ni fyddai wedi bod yn bosibl symud i Lefel Rhybudd 0 heb gefnogaeth aruthrol pawb yng Nghymru ac wrth gwrs yma yn Wrecsam.

“Mae’r rhaglen frechu yn parhau i fod yn llwyddiant ond heb gydweithrediad pawb fe allem fod mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw,  felly diolch o galon i bob un ohonoch sydd wedi cael eich brechu.

“Er hynny  nid yw’r siwrnai wedi bod yn un heb ei cholledion ac mae’n rhaid i ni gofio am y rhai a fu farw oherwydd Covid-19 a’r teuluoedd a’r ffrindiau sy’n dal i alaru amdanynt.

“Dylem barhau i fod yn wyliadwrus wrth i ni fyw ein bywydau o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau yn sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd.”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol PCC Penodi Aelodau Cyfetholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Erthygl nesaf Text scam warning Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad daliad treth y cyngor yn dwyll

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor Awst 30, 2025
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 29, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English