Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i’r tenantiaid hyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i’r tenantiaid hyn
Pobl a lleY cyngor

anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i’r tenantiaid hyn

Diweddarwyd diwethaf: 2017/12/29 at 5:58 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i'r tenantiaid hyn
RHANNU

Mae tenantiaid y Cyngor yn Nhir y Capel wedi cael rhai anrhegion ychwanegol i’w mwynhau eleni!

Cynnwys
Anrhegion tymhorol i’r tenantiaidCam mawr ymlaen ar gyfer tai cyngorRydym yn dod â chartrefi i fyny i safon uwch nag erioed o’r blaen

Mae eu cartrefi wedi cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd fel rhan o’n prosiect mawr i wella tai.

Mae’r gwaith wedi’i wneud i sicrhau ein bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.

Fel bob eiddo sy’n derbyn y gwaith hwn, cafodd tenantiaid amrywiaeth o liwiau a dyluniadau i’w dewis ar gyfer eu ceginau a’u hystafelloedd ymolchi newydd. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn edrych yn union fel oedd tenantiaid wedi ei ddymuno.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i'r tenantiaid hynAnrhegion tymhorol i’r tenantiaid

Fel anrheg Nadolig ychwanegol , rhoddwyd tair basged, wedi’i bacio gyda nwyddau Nadoligaidd, i’r tenantiaid gan y contractwyr oedd yn gwneud y gwaith, ‘Novus Property Solutions’.

Bydd y basgedi yn cael eu defnyddio ar gyfer raffl Nadolig Tir y Capel, a bydd yr elw yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgareddau ac ymweliadau i’r tenantiaid.

Dywedodd tenant Tir Y Capel, Barry Cupit: “Rwy’n falch iawn gyda’r gwelliannau. Maen nhw wedi ailgynllunio’r gegin felly mae’n fwy agored nag yr oedd o’r blaen ac mae o ansawdd da. Mae’r ystafell ymolchi yn edrych yn wych hefyd. Yn anffodus, nes i ddim ennill y rhwystrau yn ein raffl!”

anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i'r tenantiaid hyn
anrhegion nadolig i orffen gwelliannau tai i'r tenantiaid hyn

Cam mawr ymlaen ar gyfer tai cyngor

Dywedodd yr Aelod Lleol dros Llai, y Cynghorydd Bryan Apsley: “Rydw i wrth fy modd bod tenantiaid y Cyngor yn Llai nawr yn gweld manteision y prosiect gwelliannau i dai. Mae sawl eiddo wedi cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd ac mae gwaith megis atgyweirio’r to, ac inswleiddio’r wal allanol wedi cael ei wneud hefyd.

“Mae’r gwahaniaeth i’r eiddo yn anhygoel wrth i chi edrych o gwmpas y strydoedd. Rydym wedi gwneud cam mawr ymlaen gydag ansawdd a chyflwr tai y Cyngor yn yr ardal hon sy’n galonogol iawn.”

Dywedodd Cyd Gynghorydd Llai, y Cynghorydd Robert Walsh, “Mae gosod cegin ac ystafell ymolchi newydd yn gallu tarfu ar bobl ond mae’n waith hanfodol sydd angen cael ei wneud ac rydw i’n falch o weld bod gymaint o’n tenantiaid wedi derbyn y cynnig i foderneiddio eu cartrefi a’u gwneud yn barod at y dyfodol.

“Rydym wedi cynnal llawer o waith yma yn Llai ac nid ydym wedi gorffen eto, ond mae’n galonogol iawn gweld ansawdd y gwaith gwelliannau sydd wedi cael ei gynnal a’r gwahaniaeth mae hyn wedi gwneud i’n heiddo ac i’n tenantiaid.”

Rydym yn dod â chartrefi i fyny i safon uwch nag erioed o’r blaen

Mae Tai’r Cyngor ar draws y Bwrdeistref Sirol yn derbyn pob math o waith gwelliannau mewnol ac allanol, yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd lle bu angen, i sicrhau ein bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020.

Mae buddsoddiad £56.4m, y swm mwyaf erioed, yn y gwaith gwella yn 2017/18. Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr £7.5m y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i’w cefnogi i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae miloedd o eiddo nawr wedi derbyn gwaith gwelliannau hanfodol ac rydw i’n falch iawn o weld ein bod ar y trywydd cywir i fodloni’r safonau. Ein amcan yw sicrhau bod ein tenantiaid yn gallu byw mewn cartrefi sy’n ddiogel, deniadol, cyfforddus ac yn barod at y dyfodol.

“Rydym wedi gwneud gwaith mawr i gyrraedd y cam hwn ond rydw i’n falch iawn gyda’n cynnydd a gydag ansawdd y gwaith sydd wedi cael ei wneud. Rydym yn gwella safon y tai mae’r ansawdd yn well nag erioed, ac mae hynny’n newyddion gwych i’n tenantiaid.”Cewch ragor o wybodaeth am Safon Ansawdd Tai Cymru ar ein gwefan

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol yr anrhegion ewyllys da a gafodd y tenantiaid hyn yn gwenu y Nadolig hwn yr anrhegion ewyllys da a gafodd y tenantiaid hyn yn gwenu y Nadolig hwn
Erthygl nesaf Cynghorau’r Gogledd yn lansio Cynnig Twf fydd yn golygu llawer o filiynau o bunnoedd i Ogledd Cymru Cynghorau’r Gogledd yn lansio Cynnig Twf fydd yn golygu llawer o filiynau o bunnoedd i Ogledd Cymru

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

David Ebsworth
DigwyddiadauPobl a lle

Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol

Ionawr 20, 2026
Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English