Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hanes y siwtces coll a’r llyfr llyfrgell
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hanes y siwtces coll a’r llyfr llyfrgell
Pobl a lleY cyngor

Hanes y siwtces coll a’r llyfr llyfrgell

Diweddarwyd diwethaf: 2022/06/30 at 11:31 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Lost luggage
RHANNU

Yn 2022 bydd adeilad llyfrgell Wrecsam yn dathlu hanner can mlynedd.

I baratoi ar gyfer y dathliadau rydym ni wedi bod yn gofyn i bobl anfon straeon, eitemau a phethau cofiadwy eraill atom ni – a dyma un stori wych y mae’n rhaid i ni ei rhannu, diolch i Bethan Rogers.

Os collasoch chi eich bagiau erioed, yna rydych chi’n gwybod yn iawn sut deimlad ydi hi i ofni na chewch chi byth eich eiddo yn ôl.

A feddylioch chi erioed y gall llyfrgell ddod i’r adwy? Thrawodd hynny erioed mo Bethan… ond dyma sut y cafodd Bethan a’i bag eu haduno ar ôl iddi ei golli ar y trên o Wrecsam i Gaerdydd.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

“Roeddwn i’n mynd i Gaerdydd am y noson ac yn teithio ar y trên. Rhoddais fy siwtces lliw arian ar y rhesel bagiau ac eistedd gerllaw.

“Wrth i ni adael un o’r gorsafoedd edrychais drwy’r ffenest a dw i’n cofio gweld dynes a meddwl ‘W, mae ganddi hi’r un bag â mi’ ond ychydig a wyddwn bryd hynny mai hwnnw oedd fy mag i!

“Pan oedd hi’n bryd i mi ddod oddi ar y trên doedd dim golwg o’m siwtces yn unman. Yr unig fag ar ôl oedd siwtces bach brown tebyg.

“Mi ddechreuais i gynhyrfu a mynd i ddweud wrth un o’r stiwardiaid. Dywedodd wrthyf am fynd at y ddesg a dweud bod fy mag wedi’i ddwyn. A dyna wnes i. Gan nad oedd gennyf fag, na phethau ymolchi a lensys cyswllt, mi es i’n ôl adref ar y trên.

“Trannoeth cefais alwad ffôn gan Lyfrgell Wrecsam. Gofynnodd y gweithiwr a oeddwn i wedi colli siwtces gan fod dynes garedig wedi mynd ag un i’r llyfrgell.

“Yn ffodus iawn roeddwn i wedi pacio fy llyfr llyfrgell, a phan sylweddolodd y ddynes ei bod hi wedi mynd â’r bag anghywir edrychodd y tu mewn a’i weld. Ffoniodd y ddynes y llyfrgell a dyma nhw wedyn yn edrych ar eu cofnodion.

“Dydw i byth yn gadael y tŷ heb lyfr a dydw i erioed wedi bod mor falch o fod yn aelod o lyfrgell Wrecsam ac yn ddarllenwr brwd!”

Os oes gennych chi stori, llun neu eitem sy’n gysylltiedig â llyfrgell Wrecsam, cofiwch roi gwybod i ni er mwyn i ni eu cynnwys yn ein dathliadau hanner can mlynedd yn nes ymlaen eleni. Cysylltwch â’r llyfrgell ar 01978 292090, library@wrexham.gov.uk neu galwch heibio i’ch llyfrgell leol.

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Football Museum £45,000 yn cael ei roi i ddatblygu Amgueddfa Bêl-droed yn Wrecsam ⚽
Erthygl nesaf Sheltered Housing Mae gennym lefydd gwag o fewn ein Cynlluniau Tai Gwarchod

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor Awst 30, 2025
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 29, 2025
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor Awst 27, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
DigwyddiadauPobl a lle

Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!

Awst 26, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English