Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl Wyddoniaeth Darganfod – dewch i weld beth sydd ar y gweill
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wellbeing hub
Digwyddiad Atal Cwympiadau
Pobl a lle
Glyndwr National Park
Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig
Arall Pobl a lle
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gŵyl Wyddoniaeth Darganfod – dewch i weld beth sydd ar y gweill
Y cyngor

Gŵyl Wyddoniaeth Darganfod – dewch i weld beth sydd ar y gweill

Diweddarwyd diwethaf: 2022/07/21 at 3:16 PM
Rhannu
Darllen 11 funud
Darganfod
RHANNU

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Darganfod yn digwydd ar 6 a 7 Awst ac eleni mae rhestr gyffrous o weithgareddau i’r holl deulu gymryd rhan ynddynt a mwynhau.

Cynnwys
Canolfan  Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! Dydd SadwrnCanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! Dydd SulTŷ Pawb Dydd SadwrnTŷ Pawb Dydd SulYellow and Blue Dydd SadwrnStryd Henblas Dydd Sadwrn

Bydd y weithgareddau’n digwydd yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!, Tŷ Pawb, Yellow and Blue a Stryd Henblas.

Edrychwch isod i weld beth sydd ‘mlaen, ymhle, a phryd. ???? ????

Mae tocynnau unigol yn £8.50, neu docynnau teulu yn £30.00 am 4. Mae tocynnau ar gael rŵan

Neu ymweld â www.xplorescience.co.uk

Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon

Canolfan  Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! Dydd Sadwrn

Gwneud eich Paent eich hun Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 10am – 4pm. Mwynhewch y gweithdy rhyngweithiol hwn i ddysgu am y deunyddiau a phrosesau ar gyfer gwneud paent dyfrlliw fel yr hen feistri! Mae’r artist Wendy Connelly yn dangos rhai o’r egwyddorion gwyddonol wrth greu paent. Gan ddefnyddio cynhwysion bob dydd sydd yn y tŷ, dewch i ddarganfod sut i wneud eich paent eich hunain.

Sioe Malu Gronynnau Dydd Sadwrn – 11am, 1pm a 3pm. Yn y sioe hynod o ryngweithiol hwn, byddwch yn dysgu sut i reoli systemau LHC gan ddefnyddio eich ffonau/dyfeisiau clyfar eich hunain (dewch â nhw gyda chi). Chi sy’n rheoli. Chi yw’r gwyddonwyr. Mae dyfodol gwyddoniaeth yn dibynnu arnoch chi! Diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality.

Robotiaid EV3 Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydeinig Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 10am – 4pm. Gallwch chi helpu i siapio ein dyfodol: Dysgwch am robotiaid a gwelwch sut maent yn cael eu rhaglennu gan ddefnyddio Lego EV3. Mae’n weithdy rhyngweithiol sy’n berffaith i bawb gymryd rhan. Diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality.

Profiad Efelychu Gyrru Dydd Sadwrn a Dydd Sul 9.30am – 11am, 12.30pm – 2pm a 3.30pm i 5pm. Ydych chi erioed wedi bod eisiau gyrru cerbyd nwyddau trwm? Ydych chi erioed wedi gweld combein yn mynd i fyny ac i lawr cae a meddwl fod hynny’n edrych yn hwyl? Wel, rŵan gallwch roi cynnig arni. Dewch i roi cynnig ar efelychwyr gradd proffesiynol, wedi’i ariannu gan Gymunedau am Waith, mae’n gyfle i fynd tu ôl i lyw cerbydau MAWR. Diolch i hyfforddiant Gatewen.

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! Dydd Sul

Y Sioe Platinwm – 11am, 1pm a 3pm. Rydym ni oll wedi clywed sôn am blatinwm eleni – ond beth yw platinwm?  Yn y sioe wyddoniaeth hwn i deulu, byddwch yn darganfod popeth nad oeddech yn gwybod am blatinwm. O bweru’r dyfodol i gadw’r aer yn lân, mae mwy i’r metel hwn na welwch chi yn y lle cyntaf. Diolch i Lyan Packaging.

Gwneud eich Paent eich hun Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 10am – 4pm. Mwynhewch y gweithdy rhyngweithiol hwn i ddysgu am y deunyddiau a phrosesau ar gyfer gwneud paent dyfrlliw fel yr hen feistri! Mae’r artist Wendy Connelly yn dangos rhai o’r egwyddorion gwyddonol wrth greu paent. Gan ddefnyddio cynhwysion bob dydd sydd yn y tŷ, dewch i ddarganfod sut i wneud eich paent eich hunain.

Profiad Efelychu Gyrru Dydd Sadwrn a Dydd Sul 9.30am – 11am, 12.30pm – 2pm a 3.30pm i 5pm. Ydych chi erioed wedi bod eisiau gyrru cerbyd nwyddau trwm? Ydych chi erioed wedi gweld combein yn mynd i fyny ac i lawr cae a meddwl fod hynny’n edrych yn hwyl? Wel, rŵan gallwch roi cynnig arni. Dewch i roi cynnig ar efelychwyr gradd proffesiynol, wedi’i ariannu gan Gymunedau am Waith, mae’n gyfle i fynd tu ôl i lyw cerbydau MAWR. Diolch i hyfforddiant Gatewen.

Robotiaid EV3 Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydeinig Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 10am – 4pm. Gallwch chi helpu i siapio ein dyfodol: Dysgwch am robotiaid a gwelwch sut maent yn cael eu rhaglennu gan ddefnyddio Lego EV3. Mae’n weithdy rhyngweithiol sy’n berffaith i bawb gymryd rhan. Diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality.

Profiad Efelychu Gyrru Dydd Sadwrn a Dydd Sul 9.30am – 11am, 12.30pm – 2pm a 3.30pm i 5pm. Ydych chi erioed wedi bod eisiau gyrru cerbyd nwyddau trwm? Ydych chi erioed wedi gweld combein yn mynd i fyny ac i lawr cae a meddwl fod hynny’n edrych yn hwyl? Wel, rŵan gallwch roi cynnig arni. Dewch i roi cynnig ar efelychwyr gradd proffesiynol, wedi’i ariannu gan Gymunedau am Waith, mae’n gyfle i fynd tu ôl i lyw cerbydau MAWR. Diolch i hyfforddiant Gatewen.

Tŷ Pawb Dydd Sadwrn

Cloddio’n Ddwfn Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 10am – 1.30pm. Ydych chi erioed wedi meddwl beth sydd o dan eich traed? Pa fath o rymoedd allai greu’r Himalayas? Sut ydym ni’n gwybod pa mor dal yw dinosor? Byddwn yn cloddio’n ddwfn am yr atebion i’r cwestiynau hyn yn ein sioe newydd sbon am fyd Daeareg!

Animeiddiad Lego G2G Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 11am – 1pm a 2pm – 4pm. I ddathlu’r ŵyl yn dod â Gwyddoniaeth, Technoleg, Maths a Chelf ynghyd, bydd G2G yn rhoi cyfle i chi adeiladu eich set a chymeriadau eich hunain i wneud ffilm animeiddiad byr.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddefnyddio Lego i adeiladu beth bynnag allwch chi ei ddychmygu.

Y Sioe NONsens Dydd Sadwrn – hanner dydd – 3.30pm. Ydych chi’n meddwl eich bod yn gweld hefo’ch llygaid a blasu gyda’ch tafod? Ydych chi’n gwybod pam eich bod yn benysgafn wrth droelli? Faint o synhwyrau sydd gennych chi? Byddwch yn barod i gael eich synnu a’ch rhyfeddu gan rithiau gweledol i archwilio eich ymennydd, wrth i ni ddarganfod nad yw eich synhwyrau mor syml ag y maent yn ymddangos.

MakeCode: Gemau Arcêd Dydd Sadwrn – 11.00am a 14.30pm. Dewch i greu eich gêm arcêd eich hunain gyda Technocamps! Cewch eich ysbrydoli gan Asteroids, Pacman, Galaga a gemau eraill yn y gweithdy rhyngweithiol hwn.

TinkerCAD: Modelu 3D Dydd Sadwrn – 10.00am a 13.30pm. Mae dyfodol dylunio ar Gyfrifiadur, dewch i roi cynnig arni gyda Technocamps. Yn y gweithdy rhyngweithio hwn, dyluniwch eich gwrthrych gwych a rhyfedd eich hun.

Makey Makey: Rheolydd Gemau o sbwriel Dydd Sadwrn – 12.30pm a 16.00pm. Os ydych chi eisiau chwarae gemau rhaid i chi gael rhyw fath o reolydd. Yn y gweithdy hwn, beth allwn ni ei ddefnyddio fel rheolydd?  Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn dewch i greu eich rheolydd eich hunain o eitemau’r cartref.

Tŷ Pawb Dydd Sul

Y Sioe Gwstard Ffrwydrol Dydd Sul – 11.30am – 1.30pm.  Ar ôl galw mawr, mae’r cyfathrebwr gwyddoniaeth, Ian Russell yn ôl, gyda’r sioe wyddoniaeth ‘Cwstard Ffrwydrol’ ar gyfer pob oed. Sioe arbennig, bywiog a doniol sy’n rhannu mwy o arbrofion nac allwch chi eu cofio.

Sioe Cromen Sêr Dydd Sul – Drwy’r dydd. Dewch i ymuno â ni yn ein planetariwm gwynt newydd sbon wrth i ni deithio ar draws y bydysawd, gan stopio ar hyd y ffordd yn yr Haul, y Lleuad, planedau a sêr! Mae’n gyfle i weld rhyfeddodau awyr y nos yn ystod y dydd! Diolch i Magellan Aerospace.

Cloddio’n Ddwfn Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 10am – 1.30pm. Ydych chi erioed wedi meddwl beth sydd o dan eich traed? Pa fath o rymoedd allai greu’r Himalayas? Sut ydym ni’n gwybod pa mor dal yw dinosor? Byddwn yn cloddio’n ddwfn am yr atebion i’r cwestiynau hyn yn ein sioe newydd sbon am fyd Daeareg!

Animeiddiad Lego G2G Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 11am – 1pm a 2pm – 4pm. I ddathlu’r ŵyl yn dod â Gwyddoniaeth, Technoleg, Maths a Chelf ynghyd, bydd G2G yn rhoi cyfle i chi adeiladu eich set a chymeriadau eich hunain i wneud ffilm animeiddiad byr.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddefnyddio Lego i adeiladu beth bynnag allwch chi ei ddychmygu.

Yellow and Blue Dydd Sadwrn

Creu Sleim Dydd Sadwrn a Dydd Sul – 10am – hanner dydd a 1pm – 3pm. Ewch ati i greu hylifau rhyfedd! Y sleim hyn yw’r deunyddiau mwyaf od ar y blaned! Dewiswch eich lliw, arogl a gwead ac yna ewch a’ch cread sleim adref gyda chi. Diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality.

Stryd Henblas Dydd Sadwrn

Hwyl Swigod Dydd Sadwrn a Dydd Sul – hanner dydd a 3pm. Gall un o’r strwythurau mwyaf anhygoel ar y ddaear gael ei wneud gyda dim byd mwy cymhleth na dŵr a sebon ac ychydig o wynt.  Dewch i ymuno â ni ar Stryd Henblas ar gyfer hwyl gyda swigod. Ceisiwch wneud y swigen mwyaf posibl! Diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality.

Mae tocynnau ar gael rŵan

Neu ewch i www.xplorescience.co.uk

Cofrestrwch rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] Cofrestrwch rŵan
[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol children's arts and craft equipment Cymorth gyda chostau gofal plant ar gyfer rhieni plant 3 i 4 oed sy’n gweithio
Erthygl nesaf Ty Pawb Yn cyflwyno Canllaw Gweithgareddau Gwyliau’r Haf Tŷ Pawb!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wellbeing hub
Digwyddiad Atal Cwympiadau
Pobl a lle Medi 16, 2025
Glyndwr National Park
Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig
Arall Pobl a lle Medi 16, 2025
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 15, 2025
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor Medi 15, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

foster wales
Pobl a lleY cyngor

Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?

Medi 15, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y cyngor

Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd

Medi 11, 2025
Ty Pawb
Pobl a lleY cyngor

Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m

Medi 11, 2025
Wrexham Guildhall
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf

Medi 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English