Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyhoeddi Arddangosfa Gelf Gyntaf Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyhoeddi Arddangosfa Gelf Gyntaf Tŷ Pawb
Pobl a lleY cyngor

Cyhoeddi Arddangosfa Gelf Gyntaf Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 8, 2018 2:54 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cyhoeddi Arddangosfa Gelf Gyntaf Tŷ Pawb
RHANNU

Bydd Tŷ Pawb, y cyfleuster celfyddydau, marchnadoedd a chymunedol newydd gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi’i leoli yng nghanol Wrecsam, yn agor ar gyfer dathliadau Ddydd Llun Pawb ar 2 Ebrill.

Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi’r arddangosfa gyntaf, a fydd yn lansio rhaglen dreigl o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol i’w cynnal yn Nhŷ Pawb.

Bydd yr arddangosfa Ai’r Ddaear yw Hon? i’w gweld yn Nhŷ Pawb rhwng 2 Ebrill a 24 Mehefin.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Bydd yr arddangosfa, sy’n cynnwys gwaith gan ddeg o artistiaid gwahanol, yn archwilio beth allai ein planed edrych fel yn y dyfodol, gyda ffocws cryf ar newidiadau amgylcheddol ac ecolegol. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith celf sy’n canolbwyntio’n benodol ar Wrecsam, yn ogystal â gweithiau eraill sy’n canolbwyntio ar themâu  byd-eang.

Bydd Ai’r Ddaear yw Hon? yn apelio at unigolion sydd â diddordeb mewn ffuglen-wyddonol a’r amgylchedd.

Ond rydym yn awyddus i ddenu unrhyw un sydd â diddordeb mewn celfyddydau yn Wrecsam, ac unrhyw un sydd wedi dangos diddordeb yn Nhŷ Pawb yn ystod ei ddatblygiad, gan y bydd yr arddangosfa hefyd yn gyfle delfrydol i arddangos  galluoedd yr oriel a’r gofodau celf newydd.

“Carreg filltir bwysig iawn”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Bydd Ai’r Ddaear yw Hon yn nodi carreg filltir bwysig iawn yn hanes celfyddydol Wrecsam, rydym wedi bod yn gweithio tuag at y foment hon am nifer o flynyddoedd.

“Yn bwysicach fyth, fe fydd yr arddangosfa yn ddathliad ar gyfer Wrecsam i gyd a dylid ymfalchïo ynddi wrth i ni agor drysau Tŷ Pawb i’r byd.

“Mae hon yn arddangosfa uchelgeisiol yn llawn gweithiau cyfoes, bydd yn arddangos yr orielau ardderchog newydd wrth fynd i’r afael â phryderon cyfoes a phwysig. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Tŷ Pawb i drafod materion cymdeithasol a dinesig drwy gelfyddydau gweledol.

Yn dilyn Ai’r Ddaear yw Hon?, bydd Tŷ Pawb yn arddangos arddangosfa deithiol o Gasgliad y Cyngor Celfyddydau.

Yn dilyn yr arddangosfeydd hyn, yn ddiweddarach yn 2018, bydd Agored Wrecsam yn dychwelyd, ar y cyd â Phrosiect THIS, i orielau Tŷ Pawb a Undegun.

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”]DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Sesiynau golff i ferched yn dechrau fory (09.01.18) Sesiynau golff i ferched yn dechrau fory (09.01.18)
Erthygl nesaf Ymgynghoriad ar godi tâl parcio ar ddeiliaid Bathodynnau Glas ac ymwelwyr i Barciau Gwledig i fynd yn ei flaen Ymgynghoriad ar godi tâl parcio ar ddeiliaid Bathodynnau Glas ac ymwelwyr i Barciau Gwledig i fynd yn ei flaen

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English