Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Pasiant Cerddoriaeth Filwrol Gogledd Cymru yn dychwelyd ym mis Hydref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Pasiant Cerddoriaeth Filwrol Gogledd Cymru yn dychwelyd ym mis Hydref
ArallPobl a lle

Mae Pasiant Cerddoriaeth Filwrol Gogledd Cymru yn dychwelyd ym mis Hydref

Diweddarwyd diwethaf: Awst 12, 2022 1:54 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
North Wales Military Pageant
RHANNU

Byddwch yn barod i brofi’r holl wychder pan fydd strafagansa filwrol newydd Prydain yn dychwelyd i Goleg Iâl dydd Sadwrn 22 Hydref.

Wedi ei gyflwyno gan British International Tattoo, mae eu sioe “A Reel of Remembrance” yn dathlu 40 mlynedd ers Rhyfel Ynysoedd Falkland a dathlu Jiwbilî Platinwm EM Brenhines Elizabeth II. Yn ogystal bydd y digwyddiad yn dathlu llwyddiannau’r Gymanwlad.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Bydd yn daith gerddorol drwy bob degawd o deyrnasiad y Frenhines ac yn cynnwys:

  • Band Catrodol a Chorfflu’r Drymiau’r Cymry Brenhinol
  • Masgot Catrawd y Fyddin Brydeinig
  • Corfflu’r Drymiau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
  • Côr The Military Wives gyda pherfformiad arbennig o Sing gan Gary Barlow a Chôr y Gymanwlad.
  • Ava Gordon Butler, yr unawdydd, yn dod yn syth o berfformio’r brif ran yn Matilda The Musical a Fiona ifanc yn Shrek.
  • Peipiau a Drymiau The British International Tattoo
  • Côr a Cherddorfa Liverpool Concert
  • Arddangosfeydd Hyfforddiant Corfforol ac Ymarfer Milwrol
  • Batala Bangor yn cynrychioli’r Gymanwlad.
  • Emma May School of Irish Dance
  • Band Cadetiaid Môr Ellesmere Port a llawer mwy

Cyn y digwyddiad bydd arddangosiadau gan y tri Llu Arfog a dewis eang o stondinau a gweithgareddau i’r teulu cyfan ei fwynhau.

Drysau yn agor am 6.30. Tocynnau yn £20 ar gyfer plant dan 16 oed, a £25 i bawb dros 16 oed. Mynediad i gadair olwyn ar gael.

Gallwch ffonio’r Swyddfa Docynnau i brynu tocynnau ar – 0333 666 3366 neu ar-lein yma.

Dywedodd Gareth Butler, y trefnydd, “Rydym yn gyffrous iawn i ddod â’r digwyddiad yn ôl i Wrecsam ac wedi cynyddu’r nifer o docynnau sydd ar gael. Bydd yn noson i gofio ar gyfer yr Elusen Not Forgotten Veterans. Archebwch yn gynnar rhag i chi gael eich siomi.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, “Mae’r lluoedd arfog a cherddoriaeth yn agos iawn at fy nghalon. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr hyn sydd yn argoeli i fod yn noson wych o gerddoriaeth a dawns. Bydd y digwyddiad yn cynnwys y gorau o Brydain Fawr. Fel yr ydym yn nesau at Apêl Pabi’r Lleng Prydeinig a Sul y Cofio, mae hwn yn deyrnged deilwng i’n lluoedd arfog, ac rwyf yn gwybod y bydd llawer yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad a’r elusen”

Os na allwch fynychu’r digwyddiad ond eisiau cyfrannu, mae tudalen JustGiving wedi’i greu ar gyfer y digwyddiad yma.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Royal Welsh Y Cymry Brenhinol i arfer eu hawl i Orymdeithio trwy strydoedd Wrecsam – 3 Medi 2022
Erthygl nesaf Music Mae The Royston Club yn perfformio fel rhan o galendr o ddigwyddiadau prysur ym mis Medi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English