Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Seremoni Gloi ar gyfer yr Angel Cyllyll…bydd taith newydd yn cychwyn wedyn ar gyfer Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Young Carers Action Day 2026
Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Pobl a lle
Wrexham Ty Pawb
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb
Digwyddiadau Pobl a lle
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Seremoni Gloi ar gyfer yr Angel Cyllyll…bydd taith newydd yn cychwyn wedyn ar gyfer Wrecsam
Y cyngor

Seremoni Gloi ar gyfer yr Angel Cyllyll…bydd taith newydd yn cychwyn wedyn ar gyfer Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2022/10/24 at 12:43 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Knife Angel
RHANNU

Caiff aelodau o’r cyhoedd eu gwahodd i seremoni gloi yr Angel Cyllyll ddydd Mercher 26 Hydref am 6pm pan fydd y cerflun yn cael ei oleuo ac anogir y cyhoedd i ddod â chanhwyllau bach batri, cannwyll neu dortsh.

Fe fydd yna rai areithiau byr wrth waelod y cerflun sy’n edrych yn wych pan fo wedi’i oleuo.

Mae’r Angel Cyllyll wedi cael croeso mawr yn Wrecsam gyda llawer o unigolion a sefydliadau yn ymweld er mwyn gweld yr Angel. Fe ddaeth rhai grwpiau sydd wedi eu heffeithio gan droseddau â chyllyll ar ymweliad arbennig i ganol y ddinas i’w weld ac roedd llawer wedi eu cyffwrdd gan ei bresenoldeb.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Mae myfyrwyr o ysgolion uwchradd a Choleg Cambria hefyd wedi ymweld a chynhaliwyd gweithdai yn ymwneud â throseddau â chyllyll ac mae’r adborth ohonynt wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Mae’r Angel Cyllyll yn ein gadael ni ar 1 Tachwedd i ddechrau ar ei daith i Went, ond bydd stori Wrecsam yn parhau. Gwaddol parhaus yr Angel Cyllyll fydd ymgysylltiad parhaus sefydliadau partner, gan gynnwys yr heddlu a’r gwasanaethau ieuenctid, gyda phobl ifanc er mwyn sicrhau fod y sgwrs ynglŷn â throseddau â chyllyll yn parhau’n berthnasol a phriodol.

Yng nghampws Coleg Cambria ar Ffordd y Bers mae’r gwaith yn parhau ar ein Draig Gyllyll ein hunain sydd rhyw draean o’r ffordd i gael ei chwblhau ond mae eisoes dros 2 fedr. Caiff y Ddraig ei gwneud gan ddefnyddio arfau sydd wedi eu cyflwyno’n ddiogel mewn swyddfeydd heddlu fel rhan o ymgyrchoedd amnest rhanbarthol ac fe allant yn y pen draw gynnwys cyllyll a gyflwynwyd yn ystod ymweliad yr Angel Cyllyll.

Mae disgwyl i’r ddraig gael ei chwblhau yr haf nesaf ac i ddechrau fe fydd yn cael ei harddangos yn y campws.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Library Newyddion Llyfrgelloedd: Hwyl Hanner Tymor yr Hydref yn Llyfrgell Wrecsam
Erthygl nesaf British Military Tattoo 2022 “Digwyddiad arbennig tu hwnt” gan y Tatŵ Milwrol Prydeinig

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle Mawrth 11, 2026
Young Carers Action Day 2026
Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Pobl a lle Mawrth 10, 2026
Wrexham Ty Pawb
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English