Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen £22,000 i helpu Banc Bwyd Wrecsam ymestyn ei ddarpariaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > £22,000 i helpu Banc Bwyd Wrecsam ymestyn ei ddarpariaeth
Y cyngor

£22,000 i helpu Banc Bwyd Wrecsam ymestyn ei ddarpariaeth

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 8, 2022 9:07 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Fo
RHANNU

Dydd Mawrth gofynnir i’r Bwrdd Gweithredol gytuno ar gyllid o £22,000 i Fanc Bwyd Wrecsam.

Cynnwys
  • Sut mae’r Banc Bwyd yn gweithio
  • Mwy na Bwyd

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Grŵp Costau Byw, “Cafodd y grŵp gyflwyniad gan Fanc Bwyd Wrecsam yn ddiweddar oedd yn ddiddorol iawn ac yn dangos faint o gefnogaeth maent yn roi i bobl yn Wrecsam sy’n ei chael hi’n anodd gyda chostau byw.

“Maent yn gwneud llawer mwy na darparu cyflenwadau bwyd i bobl mewn angen a bydd y cyllid hwn yn eu helpu i ymestyn eu darpariaeth.

“Hoffwn ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr yn y Banc Bwyd sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.”

Dywedodd rheolwr Banc Bwyd Wrecsam, Sally Ellinson “Rydym yn hynod o ddiolchgar i gyngor Wrecsam am gynnig £22,000 i ni a fydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu parseli bwyd brys a chymorth i leddfu effaith yr ‘Argyfwng Costau Byw’ ar drigolion a chymunedau Wrecsam.

“Ein gweledigaeth yw ar gyfer Wrecsam ble mae gan bawb ddigon o arian i fforddio’r pethau hanfodol mewn bywyd a phan na fydd bellach angen Banc Bwyd Wrecsam, ond nes y daw’r diwrnod hwnnw rydym wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â’n sefydliadau partner a darparu bwyd ac eitemau hanfodol eraill i bobl leol sydd mewn angen.”

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Sut mae’r Banc Bwyd yn gweithio

Mae gweithwyr proffesiynol gofal fel ymwelwyr iechyd, swyddogion prawf, gweithwyr cymdeithasol a chanolfannau cyngor yn nodi pobl mewn argyfwng ac yn rhoi cod taleb banc bwyd iddynt. Mae hyn yn golygu y gallant dderbyn parsel banc bwyd yn cynnwys bwyd maethlon cytbwys, nad ydynt yn ddarfodus. Maent yn gweithio gydag oddeutu 180 asiant atgyfeirio yn Wrecsam.

Mae cleientiaid sy’n mynychu’r banc bwyd neu sy’n derbyn gwasanaeth danfon i’r cartref os ydynt yn cael anhawster cyrraedd un, hefyd yn derbyn cymorth a chyngor am ystod o wasanaethau cymorth y gallant gael mynediad iddynt am gymorth pellach.

Mwy na Bwyd

Mae gwirfoddolwyr yn y Banc Bwyd yn gallu llenwi ffurflenni a gwneud atgyfeiriadau uniongyrchol i bethau fel:

  • Talebau Sefydliad Banc Bwyd – i’w defnyddio ar gyfer mesuryddion nwy/trydan rhagdaliad.
  • Deunyddiau Babis – yn darparu basged Moses llawn o ddillad/blancedi/eitemau i fabi newydd.
  • Banc Babi – darparu eitemau mwy fel pram, crud, gatiau grisiau.
  • Cymunedau am Waith – darparu cymorth gyda sgiliau sylfaenol, ysgrifennu CV, ceisiadau am swydd, sgiliau cyfrifiadur, techneg cyfweliad, cymhelliant a hyder.
  • Rhaglen Adnabod Byddin yr Iachawdwriaeth – rhoi cefnogaeth i’r sawl sy’n gaeth (pedwar sesiwn).
  • Talebau Dechrau Iach

Mae’r cyllid yn rhan o gronfa £166,000 a nodwyd i’w ddefnyddio ar gyfer darparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i drigolion.

Mae’r Grŵp Costau Byw yn ystyriol o’r angen i weithredu ac felly yn cynnig nifer o ymyraethau uniongyrchol.   Argymhellion gan y Gweithgor Aelodau Trawsbleidiol i’r Bwrdd Gweithredol yw:

£22,000 – Banc Bwyd Wrecsam – cefnogi datblygu darpariaeth

  • £44,000 – Menter Mannau Cynnes.  Y Cyngor i sefydlu cynllun grant ar gyfer sefydliadau lleol i wneud cais am arian i ddarparu eu cynnig ‘Mannau Cynnes’, gall hyn gynnwys darparu prydau.  Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu a’u cymeradwyo neu eu gwrthod gan Grŵp Swyddogion CBSW ac adroddir i’r Gweithgor Argyfwng Costau Byw Aelodau Trawsbleidiol.
  • £60,000 – Canolfan Cyngor ar Bopeth: i ymestyn gwasanaethau yn benodol i ddarparu cyngor/cefnogaeth ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw.  Byddai hyn yn ddarostyngedig i Gytundeb Lefel Gwasanaeth 3 blynedd am £20k y flwyddyn, i’w adolygu’n flynyddol.
  • £5,000 – I ddarparu nifer o Ddigwyddiadau Amlasiantaeth Cyngor a Gwybodaeth Costau Byw’ yn y gymuned’ a darparu deunydd a gwybodaeth wedi’i argraffu.
  • £10,000 – I’w weinyddu gan yr adran dai i archwilio mentrau posibl i alluogi pobl i gael mynediad i adnoddau cymunedol lleol i helpu eu hiechyd a’u lles gyda ffocws ar y mwyaf diamddiffyn.

Bydd y £25,000 arall mewn ymateb i unrhyw flaenoriaethau a chyfleoedd pellach wrth iddynt godi.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ryan Reynolds Hawl i Ryddid Wrecsam i Rob a Ryan?
Erthygl nesaf Remembrance Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2022

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English