Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhaglen gyffrous ar y gweill ar gyfer Gŵyl Geiriau Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhaglen gyffrous ar y gweill ar gyfer Gŵyl Geiriau Wrecsam
Y cyngor

Rhaglen gyffrous ar y gweill ar gyfer Gŵyl Geiriau Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 4, 2023 10:14 am
Rhannu
Darllen 4 funud
carnival of words 2023
RHANNU

Mae rhaglen llawn adloniant yn cael ei threfnu ar gyfer un o brif wyliau llenyddol Cymru. Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam wedi dod yn ddigwyddiad sefydlog yn y calendr llenyddol yng Nghymru a’r gororau gan atynnu nifer eang o awduron adnabyddus.  Cynhelir gŵyl 2023 rhwng 22-29 Ebrill ac mae sawl awdur adnabyddus eisoes wedi cytuno i ymddangos mewn lleoliadau lleol.

Bydd Erica James a Lucy Diamond, awduron poblogaidd y Sunday Times, ymysg prif awduron gŵyl 2023, sydd wedi gwerthu dros 7 miliwn o lyfrau ledled y byd rhyngddynt. Mae darllenwyr llyfrau Erica James wrth eu boddau â’r perthnasoedd hyfryd, y straeon pwerus yn emosiynol a’r lleoliadau atgofus a geir yn ei gwaith. Mae The Best Days of Our Lives, y nofel ddiweddaraf i’w chyhoeddi gan Lucy Diamond, yn nofel llawn caredigrwydd, gobaith a chalonogol am deulu, colled a chariad.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Bydd yr Ŵyl yn falch o groesawu Sophie Pavelle, y cyfathrebydd gwyddoniaeth anturus a’r awdur, sydd wedi ennill enw da rhagorol ar draws y sector cadwraeth.  Daw Sophie o hyd i ffyrdd creadigol o ddweud stori, ychwanegu elfennau cyfoes at y genre hanes natur, fel sydd i’w weld mewn llyfr diweddar ganddi Forget Me Not:  Finding the Forgotten Species of Climate Change Britain.

Cynhelir noson ffuglen hanesyddol arbennig ar gyfer ail-fyw “Vikings and the Last Kingdom” a fydd yn cynnwys yr awduron adnabyddus Matthew Harffy (The Bernicia Chronicles) ac Angus Donald (cyfresiThe Outlaw Chronicles a The Fire Born ). Yn ôl y sôn, mae’r trefnwyr yn cadw un digwyddiad arbennig yn gyfrinach, sy’n cynnwys Bernard Cornwell, yr awdur adnabyddus yn rhyngwladol (Sharpe a The Last Kingdom)!

Mae llyfrau Mike Gayle yn cynnwys pobl gyffredin sy’n troi’n eithriadol. Ers ei lwyddiant gyda My Legendary Girlfriend, mae Mike wedi ysgrifennu 12 llyfr yn y genre llenyddiaeth llefnyn (lad lit).

Bydd modd i’r rhai sy’n hoff o ffuglen drosedd gwrdd â Conrad Jones, awdur trosedd cyfareddol (Anglesey Murderers) a Tim Weaver (David Raker, ymchwiliwr pobl sydd ar goll), meistr medrus y newidiadau anrhagweladwy mewn lleoliad. Bydd y noson Dirgelwch Llofruddiaeth yn cynnwys sgript a ysgrifennwyd gan Ann Cleves (Shetland).

Bydd barddoniaeth yn cael ei chynrychioli’n dda gan Aled Lewis Evans, y bardd lleol, a fydd yn rhannu darlleniadau o farddoniaeth Saesneg a’r Viva Voce hynod boblogaidd i feirdd lleol. Bydd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, hefyd yn gwneud ymddangosiad arbennig.

Bydd Meinir Pierce Jones, awdur adnabyddus yn Gymraeg, yn siarad am Capten, y llyfr a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2022.

Bydd cyfle i lenorion lleol a darpar awduron fynychu digwyddiad am ddim i gwrdd ag awduron, beirdd, blogwyr, newyddiadurwyr a chyfansoddwyr lleol a chymryd rhan mewn sesiynau panel gweithredol yn ystod y Carwsél Ysgrifenwyr.

Estynnir croeso cynnes i deuluoedd i ddigwyddiad Straeon i’r Teulu am ddim yn Llyfrgell Wrecsam, Ddydd Sadwrn 22 Ebrill.

Dywedodd Dylan Hughes, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “mae’r ŵyl yn dychwelyd eleni’n llawn bwrlwm, gyda rhaglen gyffrous ac amrywiol o ddigwyddiadau, ac edrychwn ymlaen at gynnal wythnos wych ar gyfer darllenwyr ac unigolion lleol sy’n caru llyfrau.

Ceir y newyddion diweddaraf am Ŵyl 2023 ac ein blogiau rheolaidd ar https://wrexhamcarnivalofwords.com/cy

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Heulfan Llongyfarchiadau! Cylch Chwarae a Mwy Heulfan yn derbyn Gwobr Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru
Erthygl nesaf Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon. Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English