Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Woody’s Lodge yn cynnig Sesiwn Galw Heibio Newydd i Gyn-filwyr i gael Cefnogaeth a Meithrin Cyfeillgarwch yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Woody’s Lodge yn cynnig Sesiwn Galw Heibio Newydd i Gyn-filwyr i gael Cefnogaeth a Meithrin Cyfeillgarwch yn Wrecsam
Pobl a lleArall

Woody’s Lodge yn cynnig Sesiwn Galw Heibio Newydd i Gyn-filwyr i gael Cefnogaeth a Meithrin Cyfeillgarwch yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2023/08/22 at 10:06 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Cup of tea
RHANNU

Bydd Sesiwn Galw Heibio nesaf i Gyn Filwyr yn digwydd ddydd Sadwrn 26 Awst yn y Neuadd Goffa yn Wrecsam o 10am tan hanner dydd.

Os ydych chi wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, galwch heibio i gael sgwrs a phaned!

Bydd gan gyn-filwyr yn ardal Wrecsam le newydd yn fuan i gael cefnogaeth, meithrin cyfeillgarwch, a dod o hyd i adnoddau sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion.

Ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf 2023, bydd Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Wrecsam, yn dechrau am 10am tan 12 hanner dydd; a dydd Sadwrn olaf pob mis ar ôl hynny.

Nod y fenter hon yw meithrin synnwyr o gymuned ymhlith Cyn-filwyr, gan roi lle diogel iddyn nhw rannu profiadau, cysylltu â Chyn-filwyr eraill, a manteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cefnogi os oes angen iddyn nhw wneud hynny.

Mae’r Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr wedi’i threfnu gan Woody’s Lodge a Chyngor Wrecsam, ynghyd â chydweithrediad sefydliadau lleol, yn cynnwys cymdeithasau cyn-filwyr, grwpiau cefnogi a phartneriaid cymunedol. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi cydnabod pwysigrwydd creu amgylchedd cefnogol lle gall Cyn-filwyr ddod at ei gilydd, cyfnewid straeon, gofyn am arweiniad a mynd at adnoddau i wella eu lles.

Yn ystod y sesiwn galw heibio, bydd gan Gyn-filwyr gyfle i gael paned, sgwrs a chysylltu â chyfoedion sydd â phrofiadau cyffredin. Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau cefnogi lleol yno hefyd a fydd yn rhoi manylion y gwasanaethau cefnogi y maen nhw’n eu cynnig, os bydd angen.

“Gan gydnabod yr heriau unigryw y mae Cyn-filwyr yn eu hwynebu, yr ydym ni wedi dod at ein gilydd i sefydlu’r sesiwn galw heibio hon fel canolbwynt cefnogi,” dywedodd Graham Jones, Cyn-filwr a Phrif Swyddog Gweithredol Woody’s Lodge. “Ein nod ni yw creu amgylchedd croesawgar lle gall Cyn-filwyr feithrin cyfeillgarwch, gofyn am gefnogaeth a chysylltu ag adnoddau a fydd yn cyfrannu at eu lles yn gyffredinol ac yr ydym ni’n dymuno diolch i Gyngor Wrecsam am eu cefnogaeth â’r fenter hon.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Wrecsam: “Mae trosglwyddo o wasanaeth gweithredol i fywyd bob dydd yn gallu bod yn heriol iawn, felly mae’n gwbl hanfodol bod Cyn-filwyr yn cael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae Wrecsam yn falch iawn o’i gysylltiadau â’r Lluoedd Arfog, ac yr ydym ni fel cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cyn-filwyr.

“Rydym ni wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o’r fenter ardderchog hon ac y byddem ni’n annog pobl i sôn amdani a rhoi gwybod i Gyn-filwyr am y sesiynau galw heibio newydd. Os ydych chi wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, galwch heibio i gael sgwrs a phaned.”

Bydd y Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr yn cael ei chynnal yn y Neuadd Goffa, sydd wedi’i lleoli wrth ymyl maes parcio Byd Dŵr Wrecsam. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10am ac yn parhau tan 12 hanner dydd. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Mae’r digwyddiad hwn ar gael i bob Cyn-filwr, waeth beth fo’u cangen gwasanaeth, oedran neu hyd eu gwasanaeth.

Mae croeso hefyd i ffrindiau ac aelodau o deulu’r Cyn-filwyr sydd â diddordeb mewn cefnogi a dysgu rhagor am yr adnoddau sydd ar gael, ddod i’r digwyddiad.

I gael rhagor o wybodaeth am y Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr yn Wrecsam, cysylltwch â Graham Jones.

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf
Erthygl nesaf Penygelli School Ysgol Penygelli yn falch o adroddiad arolygu cadarnhaol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Pobl a lle

Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol

Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Arall

Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo

Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
Arall

12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!

Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English