Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig arbennig sy’n fforddiadwy ac mewn cyflwr gwych?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig arbennig sy’n fforddiadwy ac mewn cyflwr gwych?
Y cyngorPobl a lle

Ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig arbennig sy’n fforddiadwy ac mewn cyflwr gwych?

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2023 12:00 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Reuse shop Christmas Recycling
RHANNU

Peidiwch â phoeni, rydym yn gwybod am y lle perffaith i ddod o hyd iddo, ac fe gewch y fantais ychwanegol o gefnogi elusen leol pan fyddwch yn prynu.

Cynnwys
  • Os oes angen help arnoch i lenwi’ch hosanau Nadolig…
  • Ydych chi am wella’ch ffitrwydd yn 2024?
  • Ail-roddwch eich anrhegion di-eisiau
  • Cyfrannwch drwy gydol y flwyddyn
  • Oriau agor

Gallwch ddod o hyd i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane! Mae llawer o bobl yn ei hadnabod fel ogof Aladdin (er fod ogof Sion Corn yn fwy priodol ar hyn o bryd).

Wrth i’r Nadolig nesáu mae llawer o bethau yn y siop ailddefnyddio y gallech eu prynu i ledaenu hwyl yr ŵyl.

Os oes angen help arnoch i lenwi’ch hosanau Nadolig…

Bydd y siop ailddefnyddio yn siŵr o fedru’ch helpu. Os ydych yn ystyried prynu teledu, ewch draw i gael cipolwg… fel arfer mae llwyth o rai o feintiau amrywiol ar gael.

Ac os ydych yn ansicr ynglŷn â phrynu teledu wedi’i ddefnyddio, cofiwch bod pob eitem yn cael eu glanhau a’u bod yn cael profion diogelwch cyn iddyn nhw gael eu gwerthu 🙂

Ond os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig yn llai, fel arfer mae detholiad o eitemau fel setiau rhodd, teganau, gemau cyfrifiadurol, gemau bwrdd ac addurniadau hyfryd ar gael i lenwi’ch hosanau Nadolig.

Ydych chi am wella’ch ffitrwydd yn 2024?

Adduned Blwyddyn Newydd poblogaidd yw cadw’n heini a lle da i ddechrau gwneud hyn bob amser yw beicio.

Oes angen beic arnoch chi? Dyma’r lle i chi!

Mae dewis helaeth iawn o feiciau ar gael yn y siop ailddefnyddio. O feiciau plant i feiciau oedolion, beth bynnag yr ydych yn chwilio amdano rydych yn siŵr o ddod o hyd iddo yn y siop ailddefnyddio 🙂

Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn hoffi cael beic yn anrheg Nadolig mewn gwirionedd. Mae pob beic yn cael eu storio y tu allan i’r siop felly gallwch gael cipolwg arnynt a’u gwirio cyn prynu felly dewch draw i weld.

Ail-roddwch eich anrhegion di-eisiau

Mae pawb wedi derbyn anrheg Nadolig di-eisiau rywbryd yn eu bywydau 🙂

Ond nid yw’r ffaith nad yw’r anrheg at eich dant chi yn golygu nad yw’n berffaith i rywun arall. Mae ail-anrhegu yn golygu rhoi’ch anrhegion di-eisiau i bobl eraill a byddai’r siop ailddefnyddio yn ddiolchgar iawn pe baech yn ystyried rhoi’r eitemau hyn iddyn nhw.

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Cyfrannwch drwy gydol y flwyddyn

Gallwch gyfrannu i’r siop ailddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, felly ym mis Ionawr, os nad ydych eisiau cadw eich coeden artiffisial neu addurniadau tan y flwyddyn ganlynol, bydd y siop yn hapus i’w cymryd nhw.

Bydd y siop yn cadw’r eitemau ac yn eu gwerthu nhw’r flwyddyn ganlynol. Byddent yn hapus i dderbyn cyfraniadau hyn yn oed tu allan i’r tymor.

Oriau agor

Mae’r siop ailddefnyddio ar agor yn ddyddiol rhwng 9am – 5pm, ond bydd yn cau ar gyfer y Nadolig ar ddydd Gwener, Rhagfyr 22. Ystyriwch hyn os ydych yn cynllunio galw heibio.

Yna bydd y siop yn ail-agor yn y flwyddyn newydd ar ddydd Mawrth, 2 Ionawr.

Cofiwch wirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau wrth i ni agosáu at y Nadolig – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:christmasnadolig
Rhannu
Erthygl flaenorol Housing Adolygu’r Gostyngiad Person Sengl (Treth y Cyngor)
Erthygl nesaf Recycling Ymweld â’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English