Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
park and ride
Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â'r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â’r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2024/02/13 at 11:45 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Tiny Forests
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i sicrhau bron i £160,000 o gyllid i greu Coetiroedd Bach ar bedwar safle ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae Coetiroedd Bach yn goetiroedd brodorol trwchus, sy’n tyfu’n gyflym, tua’r un maint â chwrt tennis.  Nid yn unig mae’r coetiroedd hyn yn gartrefi gwych i loÿnnod byw, adar, gwenyn a bywyd gwyllt arall, gall pobl hefyd gysylltu â natur ynddynt, a dysgu amdano.

Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ar ran Llywodraeth Cymru.

Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam

Dyfarnwyd £159,930 i gyd a rŵan byddwn yn gweithio gyda Chwmni Buddiannau Cymunedol WoodsWork CIC, sy’n adnabyddus am eu gwaith gyda chymunedau lleol i ddarparu a gwarchod mannau gwyrdd i genedlaethau’r dyfodol, i sefydlu pedwar safle. 

Mae’r gwaith wedi dechrau ar y safle cyntaf yn Ysgol Bro Alun a bydd y gwaith ar y tri safle arall arfaethedig yn dilyn, a bwriedir plannu ynddynt yn yr hydref. 

Yn y safleoedd, bydd byrddau gwybodaeth ac arwyddion i goetiroedd lleol eraill a mannau ar gyfer natur. Byddwn hefyd yn creu amgylched dysgu cymunedol ac yn cynnwys pobl sydd â diddordeb fel ‘dinasyddion sy’n wyddonwyr’ fel bod mwy o bobl yn y gymuned yn gofalu am y coed. 

Bydd WoodsWork CIC yn gweithio’n agos gyda’n cymunedau i ddatblygu cronfa sgiliau’r gymuned leol a sicrhau cynaliadwyedd i’r dyfodol, yn ogystal â chynnal sesiynau gwyddoniaeth i ddinasyddion pan fydd y safleoedd yn cael eu creu a’u datblygu.

Drwy ymgysylltu, bydd pecyn i ysgolion yn cael ei ddatblygu fel y gall ysgolion lleol barhau â’r sesiynau gwyddoniaeth i ddinasyddion a’u hymgorffori i’r cwricwlwm.

Bydd yr holl ddeunyddiau a gwybodaeth yn ddwyieithog. Byddwn yn ymgysylltu â’r ysgolion cyfrwng Cymraeg i helpu i ddatblygu’r pecynnau addysg fel y gallwn eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd:  “Rydym yn falch iawn bod cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y pedwar safle, fydd o fudd i lawer o bobl yn Wrecsam. Fel rhan o’r prosiectau Cymunedau Carbon Isel ehangach, gallwn rannu ein dysg a dangos sut y gall y coetiroedd bach hyn ailgysylltu pobl â natur a darparu holl fanteision llefydd mwy i natur.”

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym wedi cyffroi i allu dangos beth ellir ei gyflawni â darnau llai a chyfyngedig o dir. Mae gennym barciau gwledig gwych yn Wrecsam, ond bydd Coetiroedd Bach yn cynnig rhywbeth newydd a gwahanol. Bydd pobl yn cael mwynhau’r llefydd, yn ogystal â dysgu am fywyd gwyllt a threftadaeth coetiroedd.”

Meddai WoodsWork CIC: “Mae WoodsWork CIC yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda CBSW i blannu pedwar o Goetiroedd Bach, a bydd pob yn un cynnwys ardal ysgol y goedwig. Yn ogystal â phlannu a meithrin y coed, mae’r cysyniad Coetiroedd Bach yn canolbwyntio ar addysg am y byd naturiol, newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd mannau gwyrdd i les, ac mae’r cyfan yn cyd-fynd â nodau ac amcanion ein sefydliad.

“Bydd y Coetiroedd Bach yn ased gwerthfawr i ysgolion a chymunedau lleol ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.”

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Helpwch i leihau carbon yn eich cymuned

Ydych chi’n teimlo’n angerddol am faterion yn ymwneud â’r hinsawdd? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn a chadarnhaol yn eich cymuned? Rydym yn chwilio am bobl i weithio gyda ni i alluogi byw â llai o garbon mewn cymunedau yn Wrecsam. Os ydych yn credu y gallwch ein helpu ac os ydych yn barod i wneud gwahaniaeth, anfonwch e-bost at decarbonisation@wrexham.gov.uk

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid – ydych chi’n paratoi ar gyfer mis Ebrill? – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Darganfod hanes pêl-droed Cymru yn Wrecsam - cyhoeddi teithiau newydd yng nghanol y ddinas Darganfod hanes pêl-droed Cymru yn Wrecsam – cyhoeddi teithiau newydd yng nghanol y ddinas
Erthygl nesaf Thank you Diolch am gynorthwyo i lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Chwefror 27, 2026
park and ride
Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 23, 2026
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 23, 2026
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â'r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AoS, yn ymweld â’r Hyb Creadigol newydd yn Wrecsam
Busnes ac addysg Chwefror 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
park and ride
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio

Chwefror 23, 2026
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!

Chwefror 23, 2026
Voices make change
Pobl a lle

11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid

Chwefror 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English