Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 8, 2024 1:32 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam
RHANNU

Erthygl gwadd – Menter Iaith Fflint a Wrecsam

Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam yn un o’r pethau mwyaf cyffroes a phoblogaidd yn nghalendr digwyddiadau Wrecsam, ac eto eleni bydd llu o ysgolion, mudiadau, sefydliadau ac unigolion yn heidio i ganol y ddinas i ddathlu’r achlysur arbennig hwn ar ddydd Gwener, Mawrth 1af 2024.

Bydd yr orymdaith yn ymgynnull o flaen Neuadd y Dref (Llwyn Isaf) am12.45pm cyn cychwyn yn brydlon am 1.00pm dan arweiniad Band Cambria, gan deithio drwy’r dref cyn gorffen ar Sgwâr y Frenhines.  Yna bydd cyfle i bawb cyd-ganu’r Anthem Genedlaethol a Chalon Lân dan arweiniad Andy Hickie.

Dyma estyn gwahoddiad cynnes ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Menter Iaith Fflint a Wrecsam i bawb ymuno â’r bwrlwm.

Dywedodd y Cyng. Andy Williams, Maer Wrecsam:

“Gyda’r ddwy flynedd nesaf yn argoeli i fod yn gyfnod cyffroes iawn gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar y gorwel, braf yw gallu dathlu diwylliant Cymru unwaith eto gyda’r orymdaith flynyddol odidog hon.”

Eleni hefyd, am y tro cyntaf, bydd y dathliadau yn parhau yn Nhŷ Pawb am 4pm, felly dewch draw i’r ardal fwyd i fwynhau adloniant byw gan Megan Lee a Meinir Gwilym, stondinau gyda chynnyrch o Gymru a sesiwn grefft i deuluoedd.

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu Dydd ein Nawddsant, felly defnyddiwch #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, wrth rannu lluniau neu ddilyn y digwyddiad drwy gydol y dydd.Dylai pawb sy â diddordeb mewn ymuno yn yr orymdaith gysylltu â Maiwenn Berry ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol The Guildhall, Wrexham Cymeradwywyd newidiadau arfaethedig i brisiau prydau ysgolion uwchradd a sesiynau chwarae ysgolion cynradd
Erthygl nesaf ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English