Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Datgelu cyfrinachau hanesyddol marchnad Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Datgelu cyfrinachau hanesyddol marchnad Wrecsam
Y cyngorBusnes ac addysg

Datgelu cyfrinachau hanesyddol marchnad Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2024/03/18 at 9:20 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Market
RHANNU

Mae cyfrinachau hanesyddol Marchnad Gigyddion Wrecsam wedi cael eu datgelu yn ystod prosiect adfywio sylweddol – a bydd rhai nodweddion gwreiddiol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith ailwampio.

Dechreuwyd y gwaith o ailwampio’r ddau adeilad yn yr haf, gyda SWG Construction yn arwain y prosiect ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dywedodd Josh Coleman, Cyfarwyddwr Masnachol SWG Construction, fod y gwaith yn mynd yn dda, a bod nifer o nodweddion diddorol wedi cael eu datgelu.

“Rydym wedi bod yn gwneud cynnydd da, ac mae’r gwaith mecanyddol a thrydanol bron â chael eu cwblhau ym Marchnad y Cigyddion, ynghyd â’r gwaith o osod waliau styd a nenfydau newydd ar gyfer y stondinau” meddai.

“Mae pibellau a systemau draenio dan ddaear wedi cael eu gosod yn barod i wasanaethu’r stondinau marchnad newydd, yn ogystal â sgaffaldiau er mwyn atgyweirio’r cerrig a’r simnai.

“Yn ystod gwaith cloddio ym Marchnad y Cigyddion, darganfu’r archeolegwyr wal a gafodd ei gofnodi cyn ôl-lenwi, yn ogystal â blaen hen siopau hanesyddol amrywiol a oedd wedi cael eu gorchuddio.

“Mae’r rhain bellach yn cael eu hymgorffori yn y gwaith o ailwampio blaen y siopau newydd.  Mae grisiau cerrig gwreiddiol hefyd wedi cael eu dadelfennu yn arwain i’r ystafell fawog ar y llawr cyntaf.  Bydd y nodweddion hyn yn cael eu gadael a bydd modd eu gweld unwaith y bydd y farchnad yn ailagor.”

Ychwanegodd: “Mae estyll y stondinau ym Marchnad y Cigyddion yn cael eu gosod ar hyn o bryd a bydd y waliau a’r nenfydau’n cael eu plastro yn yr wythnosau nesaf.  Mae seiri maen arbenigol yn atgyweirio’r wyneb a’r simnai ar ddrychiad y Stryt Fawr.

“Yn y Farchnad Gyffredinol, rydym bellach yn addurno ac yn gosod estyll dur a phren.  Mae pethau wir yn dechrau siapio a bydd y marchnadoedd yn edrych yn wych pan fyddant yn ailagor.”

Mae’r marchnadoedd yn rhan hanfodol o orffennol a phresennol Wrecsam

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adferiad Cyngor Wrecsam:  “Mae Wrecsam ar frig y don ar hyn o bryd diolch i gynnydd yn ei phroffil byd-eang, ac yn croesawu mwy a mwy o ymwelwyr o bob cwr o’r byd.  Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r ddinas.

“Felly, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i feithrin a buddsoddi yn y lleoliadau pwysig hyn yng nghanol y dref.  Mae’r marchnadoedd yn rhan hanfodol o orffennol a phresennol Wrecsam, a byddant yn parhau i fod yr un mor bwysig i’r dyfodol.

“Mae SWG Construction yn gwneud cynnydd da â’r gwaith ailwampio, ac edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn cael ei gwblhau’n nes ymlaen eleni.”

Mae’r adeiladau Gradd II y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion yn cael eu hailwampio fel rhan o Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam a gaiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru – Cronfa Trawsnewid Trefi, a Rhaglen Gyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Cefnogwch fusnesau Wrecsam gydag ap newydd!

Market
Market
Market
Market
Market
Market
Market
Market

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Market
Market
Market
Market
Market
Market
Rhannu
Erthygl flaenorol ‘Dewis beth fyddwch yn ei ddefnyddio’ yn ystod Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd - Bydd Wych. Ailgylcha ‘Dewis beth fyddwch yn ei ddefnyddio’ yn ystod Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha
Erthygl nesaf Bydd y Ffair Fwyd yn dychwelyd i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ym mis Mawrth 2024! Bydd y Ffair Fwyd yn dychwelyd i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ym mis Mawrth 2024!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
funding
Busnes ac addysg

Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi

Awst 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English