Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE yn Bresennol yng Nghynhadledd Genedlaethol Freedom Leisure gan Gyflwyno Gwobrau i Ganolfannau Hamdden Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE yn Bresennol yng Nghynhadledd Genedlaethol Freedom Leisure gan Gyflwyno Gwobrau i Ganolfannau Hamdden Wrecsam
Pobl a lleArall

Y Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE yn Bresennol yng Nghynhadledd Genedlaethol Freedom Leisure gan Gyflwyno Gwobrau i Ganolfannau Hamdden Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 15, 2024 1:58 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Freedom Leisure
RHANNU

Roedd Freedom Leisure, un o brif ymddiriedolaethau hamdden elusennol nid-er-elw y DU, sy’n rheoli dros 120 o leoliadau hamdden a diwylliannol ar ran partneriaid cleient ledled Cymru a Lloegr, wrth eu bodd o groesawu’r Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE i’w Gynhadledd Genedlaethol yn ddiweddar, ble wnaeth Wrecsam gipio dwy wobr fawreddog!

Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd cydnabyddiaeth a dathliad o gydweithwyr am eu cyfraniadau a chyflawniadau pwysig. Anrhydeddodd Freedom Leisure y timau hyn am eu hymroddiad, creadigrwydd ac ymrwymiad diwyro wrth wasanaethu eu cymunedau drwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gwerth cymdeithasol a gwasanaethau hamdden a diwylliannol o ansawdd.

Gwnaeth ardal Wrecsam ddal gafael ar ei choron “Partneriaeth y Flwyddyn” sy’n cynnwys y Byd Dŵr, Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans, Canolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun, a Stadiwm Queensway. Hefyd, cipiodd Gwyn Evans yr acolâd o’r “Ganolfan Sydd Wedi Gwella Fwyaf” yng Nghymru a Gogledd Lloegr.  

Dywedodd Andy Harris, Rheolwr Rhanbarthol dros Gymru a Gogledd Lloegr: “Rydym ni wrth ein boddau o dderbyn y gwobrau hyn ar ran Freedom Leisure. Gwnaeth partneriaeth Freedom Leisure Wrecsam gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddechrau yn 2016, ac mae cyfranogiad blynyddol ar draws ein canolfannau hamdden yn Wrecsam wedi cynyddu gan 25%, gyda thros 1 miliwn o ymweliadau y llynedd. Rydym ni’n hynod o falch o’r gwasanaeth Iechyd a Llesiant yr ydym yn ei gynnig, sydd wedi cael ei gefnogi drwy raglenni buddsoddi cyfalaf helaeth, gyda chanolbwynt clir bod ein cydweithwyr yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd.

Dywedodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson, sef y prif siaradwr a chyflwynydd y gwobrau:

“Noson fendigedig o ddathlu. Mae’r sector yn gwneud pethau mor gadarnhaol i fywydau pobl. Mae ysbryd tîm grêt i’w weld yn disgleirio drwodd.”

Dywedodd Ivan Horsfall Turner, Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure

Y canlynol am y digwyddiad: “Rydym ni’n hynod o falch o’r gwaith anhygoel y mae ein timau o gydweithwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i hyrwyddo iechyd a llesiant oddi fewn i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae’r Gynhadledd Genedlaethol yn rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd, dathlu ein llwyddiannau ac archwilio llwybrau newydd i gyfoethogi bywydau unigolion a theuluoedd ymhellach a llunio llwybr at ddyfodol hyd yn oed gwell wrth faethu iechyd a llesiant cymunedol.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Canolfannau Hamdden Freedom Leisure yng Nghymru yn Cymryd Camau Breision Tuag Effeithlonrwydd Ynni Gwell

Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Ambassadors Dros 30 o Fyfyrwyr Coleg Cambria yn dathlu dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam!
Erthygl nesaf Doctor Cymraeg Os ydych chi’n dysgu Cymraeg bydd hyn o ddiddordeb i chi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English