Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn rhan o gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau a Phrydain yn ei Blodau eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Byddwch yn rhan o gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau a Phrydain yn ei Blodau eleni
Y cyngorPobl a lle

Byddwch yn rhan o gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau a Phrydain yn ei Blodau eleni

Diweddarwyd diwethaf: Mai 1, 2024 4:57 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wales in Bloom
RHANNU

Ar ôl llwyddiant Wrecsam yn 2003 yn ennill Aur yn y Gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau mae’r tîm nawr yn paratoi ar gyfer 2024.  Rydym nid yn unig yn cystadlu yn y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau ond rydym hefyd wedi ein gwahodd i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Prydain yn ei Blodau yn erbyn Llundain a Dundee.

Eleni bydd y daith yn galw mewn sawl lleoliad a gerddi gan gynnwys Amlosgfa Wrecsam, Canolfan Ailgylchu Wrecsam, Gardd Furiog Erlas, Ysgol Uwchradd Rhosnesni a Chanol Dinas Wrecsam.

Y darn mwyaf o’r ddwy gystadleuaeth yw ymgysylltu â’r gymuned.   Rydym yn gofyn i drigolion a grwpiau cymunedol ar y llwybr am eu cymorth gyda hyn.  Y llynedd roedd grwpiau yn codi sbwriel, cystadlaethau garddio, plannu ardaloedd a basgedi crog i wella eu hardal. 

Nod y cystadlaethau yw gwneud Wrecsam yn ecogyfeillgar trwy ddileu graffiti, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a hyrwyddo plannu cynaliadwy ac arddangosfeydd blodau i wneud Wrecsam yn le harddach i fyw ac ymweld.

Cyfleoedd i fusnesau noddi Cymru yn ei Blodau

Rydym bob amser yn ceisio canfod ffyrdd o helpu i gefnogi ymgyrchoedd ac un ffordd yw trwy ein cyfleoedd i fusnesau noddi planwyr.  Bydd bob noddwr yn cael eu henw ar blannwr am flwyddyn a byddant yn cael eu cydnabod mewn cyhoeddusrwydd Cymru yn ei Blodau sy’n gyfle hysbysebu gwych i’ch busnes yn ogystal â gwella’r amgylchedd yn Wrecsam.

Rydym hefyd eisiau cynnwys busnesau lleol a thafarndai, felly rydym yn cynnal cystadleuaeth flodau am ddim i holl siopau, sefydliadau a thafarndai canol y ddinas o fewn y fwrdeistref. O blanwyr blodau hardd i fasgedi crog unigryw, mae croeso i bopeth yn y gystadleuaeth. Bydd hyn yn helpu i greu dathliad o liw a chreadigrwydd o fewn canol y dref, gyda phawb sy’n cystadlu yn cael tystysgrif neu wobr.

Dros y misoedd nesaf byddwn yn cynnal digwyddiadau gwahanol megis rhoi hadau am ddim, llwybrau plant o amgylch Canol y Ddinas, diwrnodau i wirfoddolwyr, rhoi compost am ddim a llawer mwy.  Edrychwch ar dudalen Facebook y Cyngor am fwy o wybodaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Roedd y fwrdeistref sirol yn edrych yn wych o ran lliw y llynedd a bu i fusnesau a chymunedau helpu i gyflawni hynny trwy fod yn frwdfrydig a chreadigol gyda’u harddangosfeydd.

“Rydym eisiau ailadrodd ein llwyddiant eleni ac rydym yn annog pawb i gymryd rhan sut bynnag y gallant.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Bydd ein staff Amgylchedd yn brysur unwaith eto eleni i wneud ein mannau agored yn rhywle i bawb fod yn falch ohonynt ac i fwynhau treulio amser ynddynt.

“Mae cymaint o ffyrdd y gallwn i gyd gymryd rhan o godi sbwriel i osod basgedi crog i wneud i’n cymunedau edrych a theimlo’n groesawgar ac yn lliwgar.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gydag Ymgyrch Prydain yn ei Blodau a Chymru yn ei Blodau neu mewn noddi cylchfan neu blannwr cysylltwch â Nicola Ellis ar 01978 729638 neu e-bost  nicola.ellis@wrexham.gov.uk.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day

Rhannu
Erthygl flaenorol New Horizons Gorwelion Newydd yn derbyn adroddiad clodwiw gan Estyn
Erthygl nesaf Transforming Towns Buddsoddiad o dros £6 miliwn yng nghanol dinas Wrecsam gan Gyllid Trawsnewid Trefi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English