Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy o batrolau yng nghanol dinas Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mwy o batrolau yng nghanol dinas Wrecsam
Y cyngorBusnes ac addysg

Mwy o batrolau yng nghanol dinas Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Medi 9, 2024 10:15 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Tourism
RHANNU

Gyda nifer cynyddol o ymwelwyr yng nghanol y ddinas, rydym ni wrthi’n hyfforddi swyddogion diogelwch er mwyn bod yn weledol a rhoi sicrwydd i ymwelwyr ac i orfodi’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol.

Cynnwys
  • Ymysg rhai o amodau’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus mae:
  • “Amser prysur yn Wrecsam”

Ymysg rhai o amodau’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus mae:

  • Gwahardd unigolion rhag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yng nghanol y ddinas, neu fod â chynhwysydd agored o alcohol yn eu meddiant.
  • Gofyn i unigolion ildio neu gael gwared ar unrhyw beth ym meddiant yr unigolyn y mae lle i gredu sydd yn alcohol neu’n gynhwysydd ar gyfer alcohol.
  • Gwahardd unigolion rhag ymddwyn mewn modd sydd yn debygol o achosi aflonyddwch, ofn, niwsans neu bryder i bobl eraill.

“Amser prysur yn Wrecsam”

Meddai’r Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol: “Mae hi’n mynd i fod yn amser prysur yn Wrecsam wrth i ni barhau i gael niferoedd uwch o ymwelwyr ac mae hi’n bwysig bod pawb yn teimlo’n ddiogel wrth iddynt grwydro canol y ddinas.

“Fe fydd y patrolau cynyddol yma’n cyd-fynd ag adnoddau presennol Heddlu Wrecsam sydd yn patrolio canol y ddinas yn rheolaidd.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, “Ar ôl gwrando ar adborth gan fusnesau canol y ddinas, rydw i’n falch ein bod yn cyflwyno patrolau gwelededd uchel fel y rhain.  Rydym ni yma i gefnogi pawb a sicrhau eu bod nhw’n mwynhau eu profiad yng nghanol y ddinas.”

Dywedodd Arolygydd Canol y Ddinas, Heidi Stokes, “Nid yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas yn cael ei groesawu. Mae’r patrolau cynyddol gan CBSW i orfodi Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus y Cyngor sydd eisoes ar waith yn gam gwych tuag at fynd i’r afael â’r mater.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i gefnogi ein cydweithwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn sicrhau bod canol y ddinas yn lle croesawgar a diogel i fyw, i weithio ac i ymweld ag o.

Daeth y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i rym ar 7 Medi.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd

Rhannu
Erthygl flaenorol Dynes yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau Dewch o hyd i gwrs am ddim yn ystod Wythnos Addysg Oedolion!
Erthygl nesaf Gresford Digwyddiadau i gofio Trychineb Pwll Glo Gresffordd 1934

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English