Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i roi help llaw a helpwch i blannu coed ym Marchwiel!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Advanced manufacturing
Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dewch i roi help llaw a helpwch i blannu coed ym Marchwiel!
ArallPobl a lle

Dewch i roi help llaw a helpwch i blannu coed ym Marchwiel!

Diweddarwyd diwethaf: 2024/11/06 at 4:54 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Person yn palu’r ddaear wrth blannu coeden
RHANNU

Ydych chi eisiau helpu’r amgylchedd, bod yn actif yn yr awyr agored a chwrdd ag eraill yn y gymuned wrth wneud hyn? Byddwch yn wirfoddolwr am y diwrnod a dewch draws i Ddiwrnod Plannu Coed ym Marchwiail ar ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd 2024.

Cynnwys
CefndirAr y diwrnodMan cyfarfod / cyfarwyddiadauRhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordebEisiau helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol?

Cefndir

Cefnogir y digwyddiad gan Gronfa Coed mewn Argyfwng Coed Cadw.

Bydd yn helpu tuag at ein nodau fel rhan o Addewid Coetir Wrecsam (sy’n amlinellu ein hymrwymiad i gynyddu gorchudd canopi coed, a gwarchod y coetir presennol ar draws y fwrdeistref sirol).

Mae Marchwiail wedi’i nodi fel ardal â gorchudd canopi isel. Mae’r gorchudd canopi presennol yn 14.3% gyda’r targed cyffredinol ar gyfer Wrecsam yn 20%.

Bydd cynllun plannu coed yn cael ei gynnal ar dir y tu ôl i Gilgant Marcella.

Ar y diwrnod

Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, o 10am – 4pm (mae croeso i chi aros cyhyd ag y dymunwch).

Os ydych yn aros dros amser cinio dewch â’ch pecyn bwyd a diod eich hunain. Darperir diodydd poeth a bisgedi. Hefyd, nid oes toiledau ar y safle, felly cynlluniwch ymlaen llaw (toiledau cyhoeddus agosaf yn nhafarn The Red Lion).

Rhaid i blant ddod gydag oedolyn, mae plannu coed yn addas ar gyfer yr holl deulu, ond bydd plant ifanc angen cymorth oedolyn wrth balu tyllau.

Darperir yr holl offer ac mae menyg ar gael i’w defnyddio. Gwisgwch ddillad cynnes sy’n addas i’r tywydd ac esgidiau glaw neu esgidiau cryfion!

Byddwn ar y safle rhwng 10-4pm ond mae croeso i chi aros cyhyd ag y dymunwch.

Man cyfarfod / cyfarwyddiadau

Byddwn yn cyfarfod yn y maes parcio oddi ar The Ridgeway, LL13 0SB. Y lleoliad what3words yw
balanced.testy.prevents
(mae what3words yn darparu ‘cod’ yr union leoliad lle nad yw cyfeiriadau stryd yn ddigon cywir).

Teithio o Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam:

  • Cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan i Ffordd Bangor A525.
  • Wrth i chi ddod i mewn i Farchwiail, trowch i’r dde ar y stad dai, enw stryd: The Ridgeway.
  • Wrth i’r stryd lwybro i’r chwith, trowch i lawr y lôn gul ar yr ochr dde, i’r maes parcio.

Teithio o Hightown:

  • Ewch ar hyd yr A525 Ffordd Bangor gan ddod i mewn i bentref Marchwiail.
  • Trowch i’r dde i’r Ridgeway.
  • Wrth i’r stryd lwybro i’r chwith, trowch i lawr y lôn gul ar yr ochr dde, i’r maes parcio.

Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb

Os hoffech gysylltu i wirfoddoli neu wneud sylw am y cynllun plannu coed cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk.

Eisiau helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol?

Rydym yn galw ar fusnesau, unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolion a hoffai helpu i blannu coed gyda Chyngor Wrecsam, i gysylltu â ni, gan y bydd mwy o gyfleoedd trwy gydol y gaeaf i bobl gymryd rhan.

Cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Gwirfoddolwch i gynorthwyo ceidwad yn Nyfroedd Alun!

TAGGED: Gwirfoddoli, volunteering
Rhannu
Erthygl flaenorol Offer garddio gan gynnwys cribiniau a rhawiau Gwirfoddolwch i gynorthwyo ceidwad yn Nyfroedd Alun!
Erthygl nesaf Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam! Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Advanced manufacturing
Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg Chwefror 2, 2026
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Ionawr 30, 2026
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau Ionawr 30, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio

Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English