Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwyliwch: Pa gefnogaeth ydych chi’n ei chael gan Gofalwyr Ifanc WCD?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Gwyliwch: Pa gefnogaeth ydych chi’n ei chael gan Gofalwyr Ifanc WCD?
Fideo

Gwyliwch: Pa gefnogaeth ydych chi’n ei chael gan Gofalwyr Ifanc WCD?

Diweddarwyd diwethaf: 2024/11/28 at 2:08 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Yn dilyn Diwrnod Hawliau Gofalwyr, gofynnom i ofalwyr ifanc yn Wrecsam am y gefnogaeth maen nhw’n ei chael gan Gofalwyr Ifanc WCD.

Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.

Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.

Trawsgrifiad

Gofalwyr Ifanc 1: Dwi’n cael llwyth o wahanol fathau o gefnogaeth, maen nhw wedi fy helpu’n emosiynol drwy ddwy flynedd eithaf anodd.

Roeddwn i’n arfer cael sesiynau un i un i ddelio efo beth oedd yn digwydd, ond dwi hefyd yn helpu drwy wirfoddoli ac fe roddon nhw’r cyfle imi wneud beth roeddwn i eisiau ei wneud, achos mae gen i ddiddordeb mewn gofal plant beth bynnag ac fe hoffwn i fod yn weithiwr ieuenctid.

Maen nhw wedi cefnogi fy mhenderfyniad i a helpu pob cam o’r ffordd.

Gofalwyr Ifanc 2: Gofal seibiant ydi llawer ohono, mae pethau wedi newid ers pan oeddwn i’n iau, pan oedd o’n fater o fynd i grŵp, lliwio lluniau, cael sgwrs â phawb, ond erbyn heddiw mae’n ymwneud mwy â mynd ar dripiau, achos mi fyddai’n well gen i beidio eistedd yn llonydd a lliwio.

Rydw i newydd ddod yn ôl o Ddenmarc, a oedd yn lot o hwyl, achos mod i’n oedolyn ifanc sy’n gofalu erbyn hyn – ond dim ers rhyw lawer.

Sesiynau un i un ydyn nhw fel arfer – dwi’n gweithio’n unigol efo Lisa neu Leanne gan ei bod hi’n llawer haws siarad efo nhw ar eu pen eu hunain, yn lle rhannu newyddion ynghanol grŵp, a tydw i ddim yn mwynhau grwpiau cymaint â hynny mwyach.

Gofalwyr Ifanc 3: Maen nhw’n helpu’n bennaf drwy roi gwybod i bobl ei bod nhw’n ofalwyr ifanc, ond mi fyddai’n trio gwrando arnyn nhw bob amser a gneud fy ngorau.

Gofalwyr Ifanc 4: Maen nhw’n fy nghefnogi drwy roi cyfle imi gwrdd â phobl newydd – i fedru troi at bobl eraill sy’n mynd drwy’r un profiad â fi.

Maen nhw’n helpu pryd bynnag y gallant drwy ddarparu seibiannau byr.

Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

TAGGED: carers, Gofalwyr Ifanc, young carers
Rhannu
Erthygl flaenorol Green garden waste bin Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Erthygl nesaf Schools Cyfnod Ymgynghori ysgolion Parc Acton, Ysgol Wat’s Dyke, Ysgol Lon Barcwr ac Ysgol Cae’r Gwenyn yn fyw o ddydd Llun 02/12/24

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Eisteddfod Wrecsam 2025!
DigwyddiadauFideo

Eisteddfod Wrecsam 2025!

Awst 5, 2025
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
FideoPobl a lle

GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…

Gorffennaf 18, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English