Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn cwblhau trydedd rownd o waith adnewyddu ar Dai Lloches
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor Wrecsam yn cwblhau trydedd rownd o waith adnewyddu ar Dai Lloches
Y cyngorPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn cwblhau trydedd rownd o waith adnewyddu ar Dai Lloches

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 24, 2025 3:10 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Exterior refurbishment of Maes y Capel
RHANNU

Mae Adran Tai Cyngor Wrecsam nawr wedi cwblhau tair rownd o welliannau mawr i’w stoc Tai Gwarchod. Y diweddaraf i’w gwblhau yw Maes y Capel yng Nghoed-poeth.

Bydd Maes y Capel yn darparu 18 o gartrefi newydd eu hadnewyddu ar gyfer deiliaid contractau sy’n dychwelyd a rhai newydd.

Mae’r gwaith adnewyddu’n darparu cyfleusterau byw’n annibynnol wedi’u moderneiddio i bobl dros 60 oed.

Mae Maes y Capel yn dilyn llwyddiant gwaith adnewyddu blaenorol a gwblhawyd yn Llai a Rhos, mewn cydweithrediad â Read Construction. 

Yn yr un modd â’r gwaith blaenorol nod y gwaith adnewyddu hwn oedd gwella maint a hygyrchedd y fflatiau i sicrhau’r cysur mwyaf, tra’n parhau i ddarparu cartrefi cynnes ac ynni-effeithlon. I wneud hynny, mae ffenestri gwydr triphlyg a phympiau gwres ffynhonnell aer wedi’u gosod. 

Mae’r gwaith wedi blaenoriaethu creu ardal gymunedol sydd ar gael i bob deiliad contract at ddibenion cymdeithasu, gan geisio cynorthwyo gyda lles y deiliaid contractau a lleihau lefelau unigrwydd. 

Cyngor Wrecsam yn cwblhau trydedd rownd o waith adnewyddu ar Dai Lloches
Refurbishment Kitchen
Cyngor Wrecsam yn cwblhau trydedd rownd o waith adnewyddu ar Dai Lloches

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi cwblhau gwaith adnewyddu pellach ar ein stoc Tai Gwarchod.

“Bydd cwblhau Maes y Capel yn rhoi cartref newydd ei adnewyddu i ddeiliaid contractau sy’n dychwelyd a rhai newydd, a fydd yn annog byw’n annibynnol ochr yn ochr ag ysbryd cymunedol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at symud i’n gwaith adnewyddu nesaf yn Wisteria Court a byddwn yn parhau i’ch diweddaru drwy gydol y broses.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Anthony Wedlake ar ran Coedpoeth, “Rwyf i, fel y rhan fwyaf o drigolion Coedpoeth, wedi gwylio’r gwaith adnewyddu gyda diddordeb. Nawr ei fod wedi’i gwblhau, gallwn ei edmygu â balchder.

“Ar ôl ymweld â chartref yn y Rhos a adnewyddwyd yn flaenorol, gallaf sicrhau trigolion ei fod yn edrych gystal ar y tu mewn ag y mae ar y tu allan. Rwy’n dymuno pob hapusrwydd i’r preswylwyr sy’n dychwelyd a’r preswylwyr newydd yn eu cartref newydd.”

Meddai’r Cynghorydd Krista Childs ar ran Coed-poeth, “Mae’r tu allan i adeilad Maes y Capel wedi’i weddnewid yn llwyr ar ôl gwaith adnewyddu gan Read Construction, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwelliannau y tu mewn i’r adeilad yn fuan iawn.

“Rwy’n gwybod bod llawer o breswylwyr hefyd yn gyffrous am y gwelliannau newydd i’w llety a fydd yn gwneud y cyfleuster hwn yn amgylchedd llawer mwy cyfforddus.”

Beth nesaf i’r prosiect Adnewyddu Tai Gwarchod?

Er bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar Faes y Capel, mae gwaith adnewyddu pellach hefyd wedi dechrau yn Wisteria Court.

Mae gwaith yn Wisteria Court yn dal i ddatblygu’n dda. Mae’r gwaith mewnol yn symud ymlaen, gan fod y fflatiau wedi’u ffurfio a’u plastro’n barod ar gyfer y camau nesaf.  Mae’r tu allan i’r adeilad yn datblygu yn unol a’r cynllun, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r prosiect hwn.

Adeiladwyd Wisteria Court ar ddechrau’r 1980au, ac roedd yn cynnwys 26 o fflatiau. Felly, nod Cyngor Wrecsam yw addasu’r hen adeilad hwn yn amgylchedd modern a chroesawgar. 

Ydych chi erioed wedi ystyried byw mewn Tai Gwarchod?

Os hoffech gael eich ystyried am Lety Gwarchod, neu os ydych chi’n nabod rhywun y gallai hyn fod yn addas iddynt, llenwch ffurflen gais ar-lein neu ymwelwch â’ch swyddfa ystâd leol.

TAGGED:wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Erlyniad am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Stop Dros Dro Erlyniad am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Stop Dros Dro
Erthygl nesaf Dewch i gwrdd â'r cwmni o Wrecsam y tu ôl i raglen deledu ddiweddaraf y BBC Dewch i gwrdd â’r cwmni o Wrecsam y tu ôl i raglen deledu ddiweddaraf y BBC

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English