Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arbed amser, arbed arian – Bydd Wych. Ailgylcha.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Arbed amser, arbed arian – Bydd Wych. Ailgylcha.
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Arbed amser, arbed arian – Bydd Wych. Ailgylcha.

Diweddarwyd diwethaf: 2025/03/11 at 11:03 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Arbed amser, arbed arian – Bydd Wych. Ailgylcha.
RHANNU

Mae’r dyddiau’n ymestyn, mae’r cennin Pedr yn blodeuo, ac mae’n amser delfrydol i ddechrau o’r newydd! Y gwanwyn hwn, rydyn ni’n cefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha.

Cynnwys
Gwastraff bwydGwnewch eich prydau bwyd yn WYCH! Lleihau gwastraff a chael mwy o flasOs na alli di ei fwyta fe, AILGYLCHA FE!Gwnewch yr addewid i achub eich bwyd rhag y bin sbwriel ac ENNILLGallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwchYdych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Gwastraff bwyd

Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod na ddylai bwyd fyth fynd i’r bin sbwriel, gwastraff bwyd yw cynnwys chwarter y bin sbwriel cyffredin yn dal i fod. Ac yn syfrdanol, gallai 80% o’r bwyd hwn fod wedi cael ei fwyta, sy’n costio £84 y mis i’r cartref 4 person cyfartalog. Dyna arian (a phrydau bwyd posibl!) yn mynd yn syth i’r bin.

Mae’r gwanwyn yn amser ar gyfer dechrau o’r newydd, felly beth am roi adfywiad i’ch arferion bwyd hefyd? Drwy fanteisio i’r eithaf ar y bwyd a brynwch, ac ailgylchu’r hyn na allwch chi ei fwyta, byddwch yn arbed amser, yn lleihau gwastraff.

Gwnewch eich prydau bwyd yn WYCH! Lleihau gwastraff a chael mwy o flas

Defnyddiwch y tameidiau olaf o lysiau, cig dros ben, neu datws unig i roi hwb i brydau bwyd hawdd pan fydd amser yn brin a chithau angen pryd cyflym i chi’ch hun, eich cyd-letywyr, neu’ch teulu. Lleihau gwastraff, cael mwy o flas, a chreu prydau blasus mewn munudau. Dyma ychydig o ysbrydoliaeth:

  • Pasta un pot – Oes gennych chi lond dwrn o fadarch, ychydig o frocoli, pupurau, neu hyd yn oed gig dros ben? Taflwch nhw yn eich pasta am bryd o fwyd cynhesol, diwastraff.
  • Tosti caws epig – Rhowch wedd newydd ar y tosti caws clasurol drwy ychwanegu tameidiau dros ben o’r oergell – pethau fel ham dros ben, sbigoglys a thomatos wedi’u sleisio!
  • Pwdin iogwrt – Achubwch ffrwythau aeddfed, briwsioni teisen neu gnau ar ei ben, ac ychwanegu mêl neu jam i greu trît melys!

Os na alli di ei fwyta fe, AILGYLCHA FE!

Wrth i chi greu eich seigiau gwych, cofiwch ailgylchu’r darnau na allwch chi eu bwyta – fel crwyn banana, coesynnau a chrafion anfwytadwy, esgyrn a phlisg wyau.

Yn Wrecsam rydym yn ceisio ei gwneud hi’n hawdd i bawb ailgylchu eu gwastraff bwyd trwy ein gwasanaeth ailgylchu wythnosol, ac rydym yn cynnig cadi bwyd a leinwyr bwyd am ddim i’n holl breswylwyr. Yn anffodus, y realiti yw bod llawer o fwyd yn dal i fynd i wastraff cyffredinol ein preswylwyr, a allai fod wedi cael ei ailgylchu.

Does dim modd osgoi rhywfaint o wastraff bwyd, felly gwnewch yn siŵr fod yr holl eitemau gwahanol hyn fel plicion ac esgyrn bwyd yn cael eu hailgylchu. Gallwch gael manylion y pethau y gellir eu hailgylchu ar ein gwefan.

Gwnewch yr addewid i achub eich bwyd rhag y bin sbwriel ac ENNILL

P’un a ydych chi gartref, neu allan, mae’n bryd inni fod yn graff gyda gwastraff bwyd.

Gwnewch addewid i achub eich bwyd rhag y bin sbwriel. Fe wnewch chi arbed amser, arbed arian – ac fe allech chi ennill gwobr Gymreig flasus!

Ewch draw iCymru yn Ailgylchu i gymryd rhan.

Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle – beth am rannu eich tips arbed bwyd?

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.

Darllenwch fwy…

Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2025/26 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

TAGGED: ailgylchu, food waste, gwastraff bwyd, recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Yn ddiweddar, fe wnaeth teuluoedd sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc trwy gynnig cartrefi sefydlog a chariadus gyfarfod â Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Teuluoedd mabwysiadol yn rhannu eu profiadau gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru
Erthygl nesaf Green garden waste bin Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2025/26 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English