Mae Cyngor Wrecsam yn falch o gyhoeddi bod eu prosiect dulliau adeiladu modern a thai cynaliadwy cyntaf bellach wedi’i gwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan.
Mae’r datblygiad arloesol hwn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am dai ynni-effeithlon, un ystafell wely, o ansawdd uchel.
Mae’r prosiect wedi’i gwblhau mewn cydweithrediad â Gareth Morris Construction (GMC) o Sir Wrecsam.
Mae’r adeilad yn cynnwys bloc o fflatiau deulawr sy’n cynnwys chwe fflat un ystafell wely.

Bydd y fflatiau hyn yn cynnig cartrefi hirdymor hir ar gyfer preswylwyr sengl neu gyplau, yn unol â Pholisi Dyrannu Cyngor Wrecsam a’r galw presennol am y mathau hyn o gartrefi.
Mae’r cartrefi gwyrdd hyn yn rhoi blaenoriaeth i greu llai o allyriadau carbon na chartrefi a adeiladwyd o dan y Rheoliadau Adeiladu presennol ac yn cynnwys technoleg newydd pan ddaw i wresogi, systemau dŵr poeth a lleihau gwastraff gwres, fydd yn lleihau’r ôl troed carbon ac yn arbed arian o bosibl i ddeiliaid contract.
Ymhlith y systemau ynni-effeithlon sydd wedi’u gosod mae pympiau gwres ffynhonnell aer, sy’n gallu cynhyrchu dwy i bedair gwaith yn fwy o ynni gwres na’r trydan maen nhw’n ei ddefnyddio, sy’n cynnig potensial sylweddol ar gyfer costau ynni is.
Er mwyn dangos ymroddiad y Cyngor i gynaliadwyedd ymhellach, mae paneli solar wedi’u gosod i helpu i leihau allbwn carbon.
Yn ogystal, mae’r cartrefi hyn yn cynnwys systemau Awyru Mecanyddol gydag Adfer Gwres (MVHR), sy’n cynnal ansawdd aer dan do da tra’n arbed ynni a chefnogi byw’n ecogyfeillgar.
Bydd y safle’n darparu 9 lle parcio fydd yn caniatáu i breswylwyr ac ymwelwyr gael cyfleusterau parcio hygyrch.
Ynghyd â gardd gymunedol i’r holl breswylwyr ac ymwelwyr ei mwynhau.








Dywedodd Dylan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr, Gareth Morris Construction, “Rydym yn falch iawn o fod wedi cyflawni’r prosiect dylunio ac adeiladu hwn yn llwyddiannus ar gyfer ein cleient, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddarparu chwe fflat o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r angen am dai lleol drwy ddefnyddio safle tir llwyd.
“Trwy gydol y broses adeiladu, rydym wedi cyflawni buddion cymdeithasol ac economaidd sydd wedi rhoi manteision gwirioneddol i’r gymuned leol. Mae’r systemau cynaliadwy arloesol yr ydym wedi’u gosod yn y cartrefi hyn yn rhoi buddion ecogyfeillgar, gan gynnwys gwres a phŵer rhatach i’r preswylwyr.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Mae cwblhau’r prosiect hwn yn gam sylweddol yn ein hymrwymiad i adeiladu cartrefi ynni-effeithlon yn y dyfodol, trwy ddefnyddio dulliau adeiladu arloesol a systemau ecogyfeillgar.
“Mae ein datblygiad diweddaraf yn darparu fflatiau un ystafell wely o ansawdd uchel sy’n diwallu gofynion tai presennol, sydd yn gwbl addas i bobl sengl a chyplau. Edrychwn ymlaen at y preswylwyr yn symud i’w cartrefi cyn bo hir. Mae hyn yn rhan o’n rhaglen fuddsoddi i adeiladu cartrefi newydd yn Wrecsam.”
Croesawodd y Cynghorydd Steve ‘Joe’ Jones dros Pant a Thre Ioan y gwaith o gwblhau’r datblygiad newydd sbon hwn yn Heol Offa hefyd. Dywedodd, “Rwy’n falch iawn o weld y fflatiau newydd hyn yn cael eu cwblhau yma yn Nhre Ioan.
“Maen nhw’n edrych yn wych ac mae’n foment falch i’n cymuned. Mae hon yn garreg filltir go iawn – ac yn un fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i bobl leol. Mae’r cartrefi eisoes wedi cael canmoliaeth gan breswylwyr lleol ac ymwelwyr am eu dyluniad modern…”