Mae yna lu o weithgareddau i ddiddanu eich pobl ifanc yr hanner tymor hwn diolch i’n llyfrgelloedd lleol.
Beth yw’r stori?
Mae croeso i rieni a gofalwyr ddod â’u plant bach i’r sesiynau Amser Stori ac Odli wythnosol sy’n cael eu cynnal ar draws y llyfrgelloedd.
Does dim angen archebu ac maen nhw’n hollol rad ac am ddim! Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cymryd rhan yn y digwyddiadau hwyliog a hamddenol hyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r dyddiadau isod fel nad ydych yn colli allan.
- 28 Hydref – 2.15 p.m. – Llyfrgell Brynteg, Y Ganolfan Goffa
- 30 Hydref – 11 a.m. – Llyfrgell Wrecsam, canol y ddinas
- 30 Hydref – 2.15 p.m. – Llyfrgell y Waun, Lôn y Capel
Dysgu gyda Lego
Mae gennym y digwyddiad perffaith i bobl ifanc sy’n hoff o Lego. Bob wythnos, mae ein llyfrgelloedd yn agor eu drysau i feddyliau ifanc creadigol wrth iddynt gynnal Clybiau Lego lleol.
Mae’n ffordd wych i blant ryngweithio ag eraill ac mae’n annog sgiliau cadarnhaol fel gwaith tîm a datrys problemau wrth gael llawer o hwyl ar hyd y ffordd.
Mae’r Clwb Lego yn rhad ac am ddim a does dim angen i chi gadw lle ymlaen llaw, dim ond dod draw a gadael i’r dychymyg lifo. Mae dyddiadau’r clwb dros hanner tymor wedi’u rhestru isod.
- 28 Hydref – 3 p.m. – Llyfrgell y Waun, Lôn y Capel
- 29 Hydref – 3.15 p.m. – Llyfrgell Cefn Mawr, Lôn Plas Kynaston
- 1 Tachwedd – 11 a.m. – Llyfrgell Brynteg, Y Ganolfan Goffa
Siop Gyfnewid
Yn galw ar bawb sy’n casglu sticeri a chardiau cyfnewid! Mae llyfrgell Gwersyllt yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim i blant 16 oed ac iau sy’n awyddus i gwblhau eu casgliadau.
Os oes gennych unrhyw sticeri neu gardiau yr hoffech eu cyfnewid gyda chasglwyr eraill, mae yna bolisi “cymryd un, gadael un” i’ch helpu i wneud eich setiau’n gyflawn.
Gallwch ymuno yn yr hwyl ddydd Iau 23 Hydref am 3.30 p.m. yn llyfrgell Gwersyllt ar Second Avenue. Ni chaniateir i oedolion gyfnewid.
Cymerwch ran
Mae llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau yn gyson, felly beth am weld beth sydd gan eich llyfrgell leol ar eich cyfer chi? Mae yna ddigwyddiadau wythnosol i bawb o bob oedran, o blant i oedolion.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid: “Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn ymfalchïo mewn cynnal gweithgareddau gwych i’n cymunedau. Rwy’n gobeithio y bydd rhieni a gofalwyr yn manteisio i’r eithaf ar y digwyddiadau gwych sydd i ddod yr hanner tymor hwn. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y rhai ifanc yn cael eu diddanu ac mae’n gyfle hyfryd iddyn nhw wneud ffrindiau ac atgofion newydd.”