Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiadau hanner tymor yn llyfrgelloedd Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Digwyddiadau hanner tymor yn llyfrgelloedd Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Digwyddiadau hanner tymor yn llyfrgelloedd Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 24, 2025 10:20 am
Rhannu
Darllen 4 funud
View of the entrance to the Wrexham library
RHANNU

Mae yna lu o weithgareddau i ddiddanu eich pobl ifanc yr hanner tymor hwn diolch i’n llyfrgelloedd lleol.

Cynnwys
  • Beth yw’r stori?
  • Dysgu gyda Lego
  • Siop Gyfnewid
  • Cymerwch ran

Beth yw’r stori?

Mae croeso i rieni a gofalwyr ddod â’u plant bach i’r sesiynau Amser Stori ac Odli wythnosol sy’n cael eu cynnal ar draws y llyfrgelloedd.

Does dim angen archebu ac maen nhw’n hollol rad ac am ddim! Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cymryd rhan yn y digwyddiadau hwyliog a hamddenol hyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r dyddiadau isod fel nad ydych yn colli allan.

  • 28 Hydref – 2.15 pm: Llyfrgell Brynteg, Y Ganolfan Goffa
  • 30 Hydref – 11 am: Llyfrgell Wrecsam, canol y ddinas
  • 30 Hydref – 2.15 pm: Llyfrgell y Waun, Lôn y Capel

Dysgu gyda Lego

Mae gennym y digwyddiad perffaith i bobl ifanc sy’n hoff o Lego. Bob wythnos, mae ein llyfrgelloedd yn agor eu drysau i feddyliau ifanc creadigol wrth iddynt gynnal Clybiau Lego lleol.

Mae’n ffordd wych i blant ryngweithio ag eraill ac mae’n annog sgiliau cadarnhaol fel gwaith tîm a datrys problemau wrth gael llawer o hwyl ar hyd y ffordd.

Mae’r Clwb Lego yn rhad ac am ddim a does dim angen i chi gadw lle ymlaen llaw, dim ond dod draw a gadael i’r dychymyg lifo. Mae dyddiadau’r clwb dros hanner tymor wedi’u rhestru isod.

  • 28 Hydref – 3 pm: Llyfrgell y Waun, Lôn y Capel
  • 29 Hydref – 3.15 pm: Llyfrgell Cefn Mawr, Lôn Plas Kynaston
  • 1 Tachwedd – 11 am: Llyfrgell Brynteg, Y Ganolfan Goffa

Siop Gyfnewid

Yn galw ar bawb sy’n casglu sticeri a chardiau cyfnewid! Mae llyfrgell Gwersyllt yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim i blant 16 oed ac iau sy’n awyddus i gwblhau eu casgliadau.

Os oes gennych unrhyw sticeri neu gardiau yr hoffech eu cyfnewid gyda chasglwyr eraill, mae yna bolisi “cymryd un, gadael un” i’ch helpu i wneud eich setiau’n gyflawn.

Gallwch ymuno yn yr hwyl ddydd Iau 23 Hydref am 3.30 pm yn llyfrgell Gwersyllt ar Second Avenue. Ni chaniateir i oedolion gyfnewid.

Cymerwch ran

Mae llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau yn gyson, felly beth am weld beth sydd gan eich llyfrgell leol ar eich cyfer chi? Mae yna ddigwyddiadau wythnosol i bawb o bob oedran, o blant i oedolion. Gallwch chwilio am ein catalog ar-lein neu galwch heibio i’ch llyfrgell leol.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid:  “Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn ymfalchïo mewn cynnal gweithgareddau gwych i’n cymunedau. Rwy’n gobeithio y bydd rhieni a gofalwyr yn manteisio i’r eithaf ar y digwyddiadau gwych sydd i ddod yr hanner tymor hwn. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y rhai ifanc yn cael eu diddanu ac mae’n gyfle hyfryd iddyn nhw wneud ffrindiau ac atgofion newydd.”

Rhannu
Erthygl flaenorol St David's Day Dydd Gŵyl Dewi 2026 i fod y “mwyaf cofiadwy eto” meddai’r Prif Weinidog
Erthygl nesaf Wrecsam v oxford Wrecsam v Dinas Caerdydd – gyrru i mewn i Wrecsam? Darllenwch ymlaen…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English