Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ychydig o bethau a all fynd yn eich cadi bwyd adeg y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Ychydig o bethau a all fynd yn eich cadi bwyd adeg y Nadolig
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Ychydig o bethau a all fynd yn eich cadi bwyd adeg y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2025 9:55 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Chestnuts Food Waste Recycling
RHANNU

Rydyn ni bob amser yn ceisio ailgylchu cymaint ag y gallwn, ac mae ailgylchu gwastraff bwyd yn rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr yn Wrecsam.

Cynnwys
  • Esgyrn twrci
  • Bwyd amrwd, bwyd wedi llwydo a chrafu’ch plat
  • Plisgyn, croen a chraidd ffrwythau a llysiau
  • Bwyd Cyflym
  • Yr holl stwff arall
  • Rydym ni’n cynnig bagiau bin bwyd am ddim

A dros y Nadolig, bydd llawer ohonom yn delio â chyfaint mwy o fwyd nac unrhyw adeg arall o’r flwyddyn.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Felly, mae’n debyg fod hwn yn amser da i atgoffa’n hunain beth fedrwn ni ei ailgylchu yn ein cadi bwyd yn tydi? Pawb yn cytuno? Iawn ta, beth am sôn am rai o’r pethau y byddai eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn.

Esgyrn twrci

Nid esgyrn twrci yn unig chwaith, gellir ailgylchu esgyrn a charcasau pob cig fel gwastraff bwyd…a chofiwch, mae eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, ond nid felly eich gwastraff cyffredinol. Felly os na fyddwch yn ailgylchu’r pethau hyn byddent yn eistedd, yn pydru yn eich bin am ychydig wythnosau. Does neb eisiau bin drewllyd…yn arbennig dros y Nadolig.

Oes gennych chi sbarion twrci neu gigoedd eraill? Gallech chi geisio coginio gyda’ch sbarion…meddyliwch am risottos, cyris, cawl a lobsgows. Eisiau ychydig o ysbrydoliaeth? Mae gan wefan Love Food Hate Waste syniadau gwych ar gyfer ryseitiau!

Gallwch ailgylchu cig wedi’i goginio yn eich cadi, ond ceisiwch osgoi gwastraff a achosir drwy brynu gormod.

Bwyd amrwd, bwyd wedi llwydo a chrafu’ch plat

Er gwaethaf ein hymdrechion, bydd un eitem bob hyn a hyn yn mynd yn sownd yng nghefn yr oergell ac yn mynd heibio ei ddyddiad ‘defnyddiwch erbyn’.

Pan fo hyn yn digwydd, dylem bob amser droi at ein cadi. Os yw’n gig amrwd, gall fynd i mewn i’ch cadi. Os yw’n rhywbeth sydd wedi llwydo, gall fynd i’ch cadi hefyd. Rydym yn gwybod ein bod yn ailadrodd ein hunain, ond mae eich cadi’n cael ei wagio bob blwyddyn…bin drewllyd…ydach chi’n deall beth sydd gennon ni?

Arfer da arall i chi drwy gydol y flwyddyn yw crafu eich plât i mewn i’ch cadi bwyd os oes gennych chi unrhyw sbarion.

Plisgyn, croen a chraidd ffrwythau a llysiau

Gellir ailgylchu plisgyn fel gwastraff bwyd. Felly os ydych chi’n mwynhau cnau castan neu unrhyw gnau dros y Nadolig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu’r plisgyn yn eich cadi. Gellir ailgylchu plisgyn llai Nadoligaidd, fel plisgyn wy.

Gellir ailgylchu crwyn llysiau a ffrwythau ynghyd â chraidd afal. Gallwch hefyd ailgylchu unrhyw ffrwythau a llysiau heb eu bwyta, ysgewyll a’r cyfan.

Bwyd Cyflym

Efallai y bydd diwrnod neu ddau dros y Nadolig pan na fydd neb yn teimlo fel coginio. Ar y dyddiau hyn, efallai y byddwch yn archebu bwyd tecawê, ond cofiwch ei bod yn dal yn bosibl ailgylchu sglodion heb eu bwyta a sbarion pitsa.

Yr holl stwff arall

Mae hefyd yr holl stwff arall na ddylech ei anghofio sy’n gallu mynd i’ch cadi bwyd, fel:

• Bagiau te
• Coffi mân
• Pysgod cregyn
• Prydau parod heb eu bwyta
• Cyllyll a ffyrc pren

Rydym ni’n cynnig bagiau bin bwyd am ddim

Gallwch barhau i gael eich bagiau bin bwyd am ddim drwy glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleus, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu. Cliciwch yma i weld y rhestr gyflawn. (Cofiwch wirio eu horiau agor dros y Nadolig.)

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae’n siŵr y bydd gennych fwy o wastraff bwyd yn ystod y Nadolig nag sydd gennych fel arfer, gyda chroen llysiau ac esgyrn ychwanegol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu hailgylchu yn eich cadi cegin. Ceisiwch ddefnyddio unrhyw weddillion na ellir eu bwyta’n ddiogel yn ddiweddarach, ac ailgylchwch y gweddill.”

Reit, rŵan fod gennym ni’r holl wybodaeth…beth am i bawb gymryd rhan a gweithredu’r Nadolig hwn.

Casgliadau biniau dros gyfnod yr ŵyl – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgychubwydfoodfood wastegwastraff bwydrecycling
Rhannu
Erthygl flaenorol 10 awgrym am ddiogelwch a hylendid bwyd dros Nadolig 10 awgrym am ddiogelwch a hylendid bwyd dros Nadolig
Erthygl nesaf Pupils with Santa and the Castell Howell Foods Christmas truck Siôn Corn yn ymweld yn gynnar â disgyblion ffodus o Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English