Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 19, 2026 2:14 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Old Library exterior
Read construction Wrexham old library.
RHANNU

Mae gwaith adfer yr Hen Lyfrgell wedi derbyn canmoliaeth yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam…

Fe wnaeth dydd Gwener 14 Tachwedd, 2025, nodi dechrau pennod newydd ar gyfer adeilad yr Hen Lyfrgell, sydd wedi’i leoli yng Nghanol Wrecsam.

Agorwyd y llyfrgell am y tro cyntaf ddydd Gwener 15 Chwefror 1907 gan Faeres Wrecsam ar y pryd, Mrs Edward Hughes, a Syr Foster H.E. Cunliffe. Ar gost o £4,300, cafodd y llyfrgell ei thalu amdani gan y dyngarwr Albanaidd-Americanaidd Andrew Carnegie a’i hadeiladu ar ddarn o dir a roddwyd gan Gyngor Wrecsam.

Gwasanaethodd yr adeilad fel llyfrgell tan ddechrau’r 1970au pan gafodd ei disodli gan y llyfrgell newydd yn Llwyn Isaf. Tan yn ddiweddar, roedd yr adeilad yn gwasanaethu fel canolfan i adran TG y Cyngor.

Ym mis Ebrill 2024, cyhoeddwyd y byddai’r Hen Lyfrgell yn cael ei hadnewyddu’n sylweddol ac yn cael ei datblygu’n hyb creadigol.

Mae cyllid grant gan Gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi galluogi Cyngor Wrecsam i drawsnewid yr adeilad hanesyddol hwn, sydd wedi’i danddefnyddio tan nawr, yn hyb creadigol ffyniannus a fydd o fudd i’r ddinas, a sicrhau ei fod yn cyfrannu tuag at wireddu gweledigaeth ac amcanion strategol y ddinas a’r rhanbarth.

Wrexham Old Library exterior
Read Construction
Wrexham Old Library refurbished bright and airy office space
Read Construction
Wrexham Old Library Entrance
Read Construction

Gweledigaeth CBSW oedd creu hyb hyblyg, ynni-effeithlon, creadigol sy’n cyfuno diwylliant, technoleg a chynaliadwyedd dan arweiniad sefydliadau, entrepreneuriaid a busnesau pwrpasol o sector y diwydiannau creadigol. 

Yn ystod y gwaith adnewyddu, cafwyd sawl darganfyddiad diddorol gan gynnwys mosaig a oedd wedi cael ei guddio ers degawdau lawer.

Wrth sôn am y ganmoliaeth, dywedodd llefarydd ar ran Gwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam fod y gwaith gwerth miliynau o bunnoedd o drawsnewid Hen Lyfrgell Carnegie yn cynrychioli cynllun cadwraeth ac adfywio blaenllaw, gan droi adeilad rhestredig gradd II gwag yn ganolfan ffyniannus ar gyfer sector y diwydiannau creadigol.

Mae’n brosiect uchelgeisiol sydd wedi cyfuno cadwraeth treftadaeth, ymgysylltu â’r gymuned, a dylunio blaengar yn ofalus, gan sicrhau bod etifeddiaeth yr adeilad yn cael ei diogelu wrth sicrhau ei ddyfodol hirdymor.

Wrexham Old Library compact hotspot spaces
Read Construction
Wrexham Old Library glass cafe area
Read Construction
Wrexham Old Library ceiling structure
Read Construction

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae Gwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam yn cydnabod y gwaith caled y tu ôl i’r llenni nid yn unig o ran diogelu ein hadeiladau hanesyddol ond hefyd o ran sicrhau bod yr adeiladau hyn yn cael effaith a rôl bwysig mewn bywyd cymunedol am genedlaethau i ddod.

Ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn heb gyllid sylweddol gan Lywodraethau’r DU a Chymru a diolch yn arbennig i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn ogystal â’r sylw diflino i fanylion gan ein swyddogion a’n partneriaid allanol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Fly Tipping Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Erthygl nesaf Rhos library Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English