Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg

Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 27, 2026 3:32 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
St Anne's
RHANNU

Ym mis Rhagfyr, ymwelodd arolygwyr Estyn ag Ysgol Gynradd Gatholig Santes Anne. Maen nhw bellach wedi derbyn eu hadroddiad ac maen nhw’n falch o rannu ei fod yn un da!

Disgrifiodd arolygwyr yr ysgol fel cymuned ddysgu hapus, frwdfrydig a chefnogol lle mae plant yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

Canmolodd yr adroddiad hefyd safon gref y darllen ac ysgrifennu ar draws yr ysgol, ynghyd â dilyniant da yng ngwaith disgyblion ac agweddau cadarnhaol at ddysgu. Tynnwyd sylw hefyd at amgylcheddau dosbarth croesawgar yr ysgol, sy’n cefnogi creadigrwydd, cydweithredu a datrys problemau yn y gwersi gorau.

Canmolodd Estyn ddarpariaeth gref yr ysgol ar gyfer y Gymraeg, gan nodi bod Cymraeg achlysurol yn cael ei chlywed yn aml a bod disgyblion yn defnyddio’r iaith yn hyderus yn eu dysgu pob dydd. Canmolwyd disgyblion hefyd am eu defnydd da o sgiliau digidol (DCF) mewn cyd-destunau ystyrlon.

Roedd y tîm arolygu yn cydnabod bod Ysgol Santes Anne yn cefnogi disgyblion ag anghenion amrywiol yn effeithiol. Nododd arolygwyr fod ymyriadau wedi’u targedu ac addysgu manwl yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd, a chanmolodd ddarpariaeth ADY a threfniadau pontio’r ysgol, yn enwedig o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Cadarnhaodd Estyn hefyd nad oedd unrhyw bryderon diogelu.

Disgrifiwyd yr arweinyddiaeth yn gadarnhaol, gydag arolygwyr yn cydnabod arweinyddiaeth effeithiol yr ysgol a chymorth cryf i staff a disgyblion, yn ogystal â disgwyliadau uchel gan uwch arweinwyr.

Mae Ysgol Santes Anne yn croesawu’r argymhellion arolygu ac mae eisoes wedi ymrwymo i wella ymhellach, yn enwedig wrth gryfhau’r ddarpariaeth mathemateg, gwella presenoldeb, sicrhau mwy o gysondeb mewn addysgu a dysgu, a mireinio prosesau hunanwerthuso.

Canmolodd Ms. Priest-Jones, pennaeth, y plant a’r staff am eu holl waith caled a’u hymrwymiad wrth gyflawni datganiad cenhadaeth yr ysgol ‘Mae goleuni Crist yn disgleirio trwy ein dysgu’. Dywedodd:  “Mae Santes Anne yn ysgol fywiog, gynhwysol a gofalgar. Mae ein staff yn ymroddedig i feithrin y plant a rhoi’r sgiliau a’r cyfleoedd iddynt ffynnu trwy eu taith ysgol gynradd. Rwy’n falch iawn bod yr arolygwyr wedi gweld y cynnydd y mae ein plant yn ei wneud ac ymroddiad y staff cyfan sy’n galluogi hyn i ddigwydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Rwy’n falch iawn bod yr holl staff a disgyblion yn Ysgol Santes Anne wedi derbyn yr adroddiad cadarnhaol hwn, sy’n dathlu gwaith caled ac ymrwymiad staff a disgyblion. Rwy’n siŵr y bydd yr ysgol hon yn parhau i ffynnu gyda’r fath ymroddiad.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w weld ar wefan Estyn.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Social care academy Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Erthygl nesaf Green garden waste bin Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English