Gwahoddir teuluoedd i sboncio i mewn i’r Pasg ym mis Ebrill ar gyfer dychweliad Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam, a gynhelir yn Nhŷ Pawb ddydd Iau, 2 Ebrill, rhwng 11.00AM a 2.00PM.
Mae’r llwybr, sydd am ddim, yn cynnig ffordd syml, yn llawn hwyl, i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd yn ystod gwyliau’r Pasg a gweld canol y ddinas ac ymgysylltu â busnesau lleol ar hyd y ffordd.
Ar ôl casglu taflen y llwybr o Dŷ Pawb, gall y cyfranogwyr fynd allan i ganol y ddinas i ddod o hyd i gyfres o gwningod y Pasg sy’n cael eu harddangos mewn ffenestri siopau. Yn ogystal â dod o hyd i’r cwningod, bydd angen i’r plant nodi enw pob cwningen hefyd.
Ar ôl iddyn nhw ddod o hyd iddyn nhw i gyd, gallant ddefnyddio’r enwau i gwblhau chwilair ar thema’r Pasg cyn dychwelyd i Dŷ Pawb i gasglu gwobr o ŵy Pasg.
Yn ogystal â chymryd rhan yn y llwybr, bydd teuluoedd hefyd yn gallu mwynhau crefftau’r Pasg am ddim yn Nhŷ Pawb drwy gydol y digwyddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros Fusnes, yr Economi a Thwristiaeth: “Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam yn ffordd hyfryd o groesawu teuluoedd i ganol y ddinas dros y Pasg tra hefyd yn annog pobl i dreulio amser yn gweld yr hyn sydd gan ein busnesau lleol i’w gynnig.
Mae’n ddigwyddiad sydd yn hwyl, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch, sy’n dod â rhywbeth ychwanegol i’r ddinas i blant a theuluoedd ei fwynhau.”
Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam yn parhau i fod yn rhan boblogaidd o galendr y Pasg, gan gynnig gweithgaredd hamddenol sydd yn addas i deuluoedd yng nghanol y ddinas, sydd yn annog pobl i weld Wrecsam mewn ffordd ddifyr a phleserus.
Gall teuluoedd gasglu taflen y llwybr o Dŷ Pawb ar y diwrnod ac ymuno ar unrhyw adeg rhwng 11am a 2pm.

