Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’n Ddiwrnod Atal Gwastraff Bwyd ar Ebrill 29 – dysgwch sut y gallwch chi gymryd rhan…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Mae’n Ddiwrnod Atal Gwastraff Bwyd ar Ebrill 29 – dysgwch sut y gallwch chi gymryd rhan…
Datgarboneiddio Wrecsam

Mae’n Ddiwrnod Atal Gwastraff Bwyd ar Ebrill 29 – dysgwch sut y gallwch chi gymryd rhan…

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 28, 2026 4:42 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Food waste
RHANNU

Bydd y degfed Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd blynyddol yn digwydd ddydd Mercher, Ebrill 29 – y diwrnod gweithredu unigol mwyaf yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd byd-eang.

Cynnwys
  • Awgrymiadau Defnyddiol
  • Ailgylchu gwastraff bwyd yn Wrecsam
    • Beth sy’n mynd yn eich cadi bwyd?
    • Dysgwch garu’ch gweddillion bwyd
    • Archebwch gadi newydd yn hawdd ar-lein
    • Cadwch eich cadi’n ffres
    • Defnyddiwch ein leininau cadis am ddim

Mae’r diwrnod yn ein hatgoffa pam ei bod yn bwysig atal bwyd rhag cael ei wastraffu’n ddiangen. Mae rhai ffeithiau am wastraff bwyd byd-eang yn cynnwys:

  • Mae 33% o’r holl fwyd a gynhyrchir yn cael ei wastraffu bob blwyddyn
  • Mae bron i 50% o’r holl ffrwythau a llysiau a gynhyrchir yn cael eu gwastraffu bob blwyddyn, sy’n cyfateb i tua 3.7 triliwn o afalau
  • Pe bai 25% o’r bwyd sy’n cael ei golli neu ei wastraffu ar hyn o bryd yn cael ei arbed, byddai’n ddigon i fwydo 870 miliwn o bobl lwglyd

Mae rhai awgrymiadau defnyddiol i frwydro yn erbyn gwastraff bwyd wedi’u rhoi at ei gilydd, felly dewch i ni edrych arnyn nhw…

Awgrymiadau Defnyddiol

Cynlluniwch ymlaen llaw a pheidiwch â gorbrynu!

  • Defnyddiwch yr hyn sydd yn eich oergell a’ch pantri
  • Cynlluniwch eich prydau bwyd
  • Gwnewch restr cyn i chi siopa

Mae’r rhewgell yn grêt!

  • Coginiwch mewn swp a rhewi’r dognau
  • Rhewch fara a gweddillion bwyd eraill
  • Labelwch eitemau gyda’r dyddiad a’u defnyddio mewn trefn

Defnyddiwch eich doniau creadigol!

  • Arbrofwch gyda’r hyn sydd gennych chi yn yr oergell
  • Ceisiwch stwnshio neu wneud frittatas lliwgar o weddillion bwyd
  • Defnyddiwch ambell ddarn o lysiau i wneud cawliau iach

Ailgylchu gwastraff bwyd yn Wrecsam

Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd? Os felly, ydych chi’n ailgylchu popeth y gallwch chi?

Yn Wrecsam, rydyn ni’n amcangyfrif bod llai na hanner y trigolion yn ailgylchu eu gwastraff bwyd ac mae’r gweddill yn mynd i’n biniau sbwriel. Er mwyn chwarae ein rhan mae angen i ni wneud yn llawer gwell.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Yn anffodus, yn Wrecsam, rydyn ni’n gweld llawer gormod o wastraff bwyd, ac nid yw llawer ohono yn cael ei ailgylchu gan drigolion. Rydyn ni’n gofyn i bobl feddwl am y newidiadau bach y gallan nhw eu gwneud i’w harferion bob dydd. Mae gwneud y mwyaf o’r bwyd rydych chi’n ei brynu yn gwneud gwahaniaeth mawr, a gall helpu i arbed arian i chi yn ogystal â diogelu’r amgylchedd.”

Beth sy’n mynd yn eich cadi bwyd?

Os ydych chi eisiau cael eich atgoffa o’r pethau y dylech chi fod yn eu rhoi yn eich cadi, yna rydych chi wedi dod i’r lle iawn.

Yn ogystal â phopeth y byddwch chi eisoes yn gwybod amdano, edrychwch ar y rhestr hon sy’n nodi rhai o’r bwydydd nad ydych chi o reidrwydd yn meddwl amdanyn nhw, fel:

• Bwydydd sydd wedi mynd yn hen

• Esgyrn a charcasau

• Plisg wyau

• Crwyn bananas (a chrwyn eraill)

• Calonnau afalau

• Gronynnau coffi

• Bwydydd amrwd

• Bwydydd sydd wedi llwydo

• Gweddillion oddi ar y plât

• Prydau parod heb eu bwyta

• Bwyd cyflym (e.e. sglodion a pizzas)

• Pysgod cregyn

Pethau nad ydyn ni am i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd yw hylifau (fel olew neu laeth), deunydd pecynnu, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.

Dysgwch garu’ch gweddillion bwyd

Mae caru’ch gweddillion bwyd yn golygu coginio’n glyfar a sicrhau bod bwyd yn mynd ymhellach! Mae gwastraff bwyd yn ffurfio tua chwarter y bin sbwriel ar gyfartaledd yng Nghymru, a gallai’r rhan fwyaf ohono fod wedi cael ei fwyta.

Cymerwch olwg ar y blog hwn sydd â rhai awgrymiadau a ryseitiau defnyddiol oherwydd (rhaid cyfaddef) nid yw taflu bwyd da i’r bin yn gwneud synnwyr.

Archebwch gadi newydd yn hawdd ar-lein

Rydyn ni’n cynnig cadi newydd am ddim, felly os nad oes gan eich cartref gadi cegin neu gadi ymyl ffordd, peidiwch â phoeni – ewch ati i archebu un newydd.

Gallwch ofyn am gadi bwyd newydd yn hawdd ar ein gwefan, lle gallwch chi hefyd archebu blychau ailgylchu newydd os oes eu hangen arnoch.

Cadwch eich cadi’n ffres

Mae’n haws nag ydych chi’n meddwl i gadw’ch cadi bwyd yn ffres. Rhowch gynnig ar rai o’r pethau hyn:

  • Gwagiwch y leinin yn amlach mewn tywydd cynhesach
  • Taenwch rywfaint o soda pobi yng ngwaelod y cadi
  • Sychwch unrhyw ddiferion yn syth
  • Cadwch y cadi cegin allan o olau haul uniongyrchol
  • Glanhewch/diheintiwch y cadi yn rheolaidd
  • Ac yn bwysig iawn, cadwch y caead ar gau

Defnyddiwch ein leininau cadis am ddim

Gallwch gael ein leininau cadis am ddim trwy glymu leinin gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch chi gasglu’r leininau cadis am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) mewn amrywiaeth o leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleusterau, swyddfeydd ystâd, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu. Cliciwch yma i weld y rhestr lawn.

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i www.wrecsam.gov.uk/services/biniau-ac-ailgylchu

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd caiff fy miniau eu casglu? Gwiriwch eich diwrnod casglu a chofrestrwch am negeseuon atgoffa.

TAGGED:ailgulchubiniaubinsfood wastegwastraffgwastraff bwydrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Mis Ebrill wedi'i ddynodi fel Mis y Plentyn Milwrol Mis Ebrill wedi’i ddynodi fel Mis y Plentyn Milwrol
Erthygl nesaf Y Groves: Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer safle ysgol ddiangen Y Groves: Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer safle ysgol ddiangen

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Be Mighty Recycle - festivals. Let's take recycling on tour.
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

7 o ffefrynnau’r ŵyl sy’n barod am barti yn bell ar ôl y gân olaf

Gorffennaf 31, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English