Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathlu treftadaeth leol yng Nghornel Clip Llyfrgell Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dathlu treftadaeth leol yng Nghornel Clip Llyfrgell Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Dathlu treftadaeth leol yng Nghornel Clip Llyfrgell Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 30, 2026 1:44 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dathlu treftadaeth leol yng Nghornel Clip Llyfrgell Wrecsam
RHANNU

Mae Cornel Clip Llyfrgell Wrecsam yn rhoi mynediad i ymwelwyr at gasgliad unigryw o hanes darlledu a ffilm Cymru.

Yn rhan o brosiect Archif Ddarlledu Cymru dan arweiniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae Corneli Clip yn galluogi pobl i ddarganfod amrywiaeth eang o eitemau ffilm, fideo a sain wedi’u digido o bob cwr o Gymru.

Mae peth o gynnwys Clip Cymru ar gael ar-lein, ac ychydig dros 1000 o glipiau ar gael i’w mwynhau gartref, dim ond mewn lleoliadau Corneli Clip, fel un Llyfrgell Wrecsam, mae modd gweld yr archif ehangach. 

Mae’r casgliad yn cynnwys dros 400,000 o eitemau radio a theledu yn dyddio’n ôl i’r 1930au, ochr yn ochr â ffilmiau hanesyddol o’r cyfnod 1898 ymlaen. 

Dywedodd y Cynghorydd Beverley-Parry Jones, yr Aelod Arweiniol â Chyfrifoldeb dros Lyfrgelloedd “Rydyn ni’n falch iawn o weld y Gornel Clip ar gael yn Llyfrgell Wrecsam. Mae’n rhoi cyfle i bobl ddarganfod a mwynhau rhan ddiddorol o hanes Cymru yma yn eu llyfrgell leol ac yn helpu i ddod â’n treftadaeth yn fyw i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, yr Aelod Arweiniol â Chyfrifoldeb dros Archifau a Chofnodion “Mae’r Gornel Clip newydd yn ychwanegiad i’w groesawu i Lyfrgell Wrecsam. Bydd yn helpu i gadw a rhannu deunydd archif pwysig, ac yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod mwy am hanes darlledu Cymru a lle Wrecsam ynddo.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Gornel Clip ar gael ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

I gael mynediad at y cynnwys i gyd, bydd angen i ymwelwyr gofrestru am ddim ar gyfer tocyn darllenwyr y Llyfrgell Genedlaethol. Gellir gwneud hyn gartref ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, neu yn ystod eich ymweliad â’r llyfrgell. 

Mae’r Gornel Clip ar y llawr cyntaf, ac mae lifft ar gael.

Gallwch ddefnyddio’r Gornel Clip am ddim yn ystod oriau agor Llyfrgell Wrecsam, dydd Llun i ddydd Gwener 9am-6pm a dydd Sadwrn 9am-4pm, heb fod angen cadw lle.

Cynghorir grwpiau i drafod dyddiadau, amseroedd a gofynion gyda’r llyfrgell yn gyntaf os hoffent ymweld â’r gornel Clip. 

Gellir cysylltu â Llyfrgell Wrecsam drwy e-bost ar library@wrexham.gov.uk neu dros y ffôn ar 01978292090.

Rhannu
Erthygl flaenorol EURO dan 19 yn dod i Wrecsam yr haf hwn EURO dan 19 yn dod i Wrecsam yr haf hwn
Erthygl nesaf Ailddiffinio effaith ddiwylliannol: Daw'r sector celfyddydau a diwylliant ynghyd i gefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029 Ailddiffinio effaith ddiwylliannol: Daw’r sector celfyddydau a diwylliant ynghyd i gefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English