Yn gynharach eleni, gofynnom am eich barn ar sut y gellir gwella’r ddarpariaeth ar gyfer beicio a cherdded yn Wrecsam. Rydym bellach wedi ystyried yr holl sylwadau yn ofalus ac wedi cyfuno’r farn gyhoeddus hon â gwybodaeth berthnasol arall i lunio drafft o’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) sy’n barod i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
Rydym am ddarparu rhwydwaith i Wrecsam sy’n galluogi cerdded, defnyddio cymhorthion symudedd (fel cadeiriau olwyn) a beicio i ddod y ffordd fwyaf naturiol a normal o deithio ar gyfer teithiau lleol. A thrwy wneud hynny, hyrwyddo iechyd a lles pawb a gwneud ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw ynddynt.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau ar gyfer cerdded, beicio a defnyddwyr cymhorthion symudedd yn rheolaidd. Cymeradwywyd ein map presennol gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac mae’n bryd nawr adlewyrchu’r newidiadau a’r gwelliannau a wnaed dros y bedair blynedd diwethaf.
Rydym yn adolygu ac yn mireinio’r Map Rhwydwaith i gynnwys:
• Llwybrau Presennol: Dyma lwybrau sy’n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio cymhorthion symudedd (neu’r tri).
• Llwybrau’r Dyfodol: Dyma lwybrau arfaethedig nad ydynt yn bodoli eto, sydd angen gwelliannau i fodloni’r safonau gofynnol, neu sydd angen awdit er mwyn sicrhau eu bod yn pasio.
Cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol rhwng 2 Ebrill ac 18 Mai, yn ogystal â nifer o sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb mewn ardaloedd lleol lle gofynnom am eich mewnbwn ar sut i wella llwybrau cerdded a beicio yn eich ardal.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i deithio’n ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hyderus ar draws Wrecsam.”
Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cynharach ac a rannodd eu barn. Mae’r adborth hwnnw wedi helpu i lunio’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig, ac rydym nawr eisiau i drigolion, cymunedau a sefydliadau lleol edrych eto a dweud eu dweud.”
Pwrpas hyn yw creu rhwydwaith sy’n cefnogi ffyrdd iachach o fyw, sy’n gwella teithiau lleol ac sy’n helpu i wneud Wrecsam yn lle mwy cysylltiedig a gwell i fyw.”
Mae’r sylwadau a’r awgrymiadau wedi’u hadolygu, ac mae mapiau wedi’u paratoi ar gyfer ymgynghoriad statudol 12 wythnos. Bydd hwn yn rhedeg rhwng 29 Mehefin a 22 Medi 2026. Cyflwynir y map diwygiedig i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026.
Gofynnwn yn garedig i chi edrych ar y map a rhoi eich barn.




