Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Busnes ac addysg

Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 6, 2026 9:35 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Ysgol Clywedog wedi'i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
RHANNU

Mae Ysgol Clywedog wedi cael ei thynnu oddi ar y rhestr mesurau arbennig yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn.

Mae’r adroddiad yn cydnabod y gwelliannau sylweddol sydd wedi’u gwneud yn yr ysgol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’n tynnu sylw at effaith gadarnhaol arweinwyr, athrawon a llywodraethwyr ar ddiwylliant, addysgu a dysgu’r ysgol. 

Nododd arolygwyr fod y disgyblion yn ymddwyn yn aeddfed ac yn synhwyrol yn yr ysgol, yn cyrraedd gwersi yn brydlon ac yn mynd ati’n ddi-oed i weithio.  Fe wnaethon nhw hefyd dynnu sylw at agwedd gadarnhaol disgyblion at ddysgu, eu hymddygiad parchus tuag at eraill a’u parodrwydd i gymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth. 

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg, “Mae hyn yn newyddion gwych i gymuned Ysgol Clywedog. Mae tynnu’r ysgol o’r rhestr mesurau arbennig yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr, ac mae’n adlewyrchu ymroddiad y pennaeth, staff, llywodraethwyr, disgyblion, a theuluoedd.”

“Er bod hyn yn amlwg wedi bod yn ymdrech tîm, rwy’n credu y dylid cydnabod effaith newidiadau diweddar o ran arweiniad yr ysgol, ac mae’r adroddiad yn  canmol arweinyddiaeth y Pennaeth, Simon Ellis, a ddechreuodd yn ei swydd  ym mis Medi 2024 ar ôl 13 mlynedd fel Pennaeth Ysgol Maelor.”

Dywedodd Simon Ellis “Rwy’n falch iawn bod y gwelliannau rydyn ni wedi’u gwneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael eu cydnabod.   Mae gweld eu gwaith caled yn cael ei gydnabod yn hwb mawr i bawb yn yr ysgol.    Ond un garreg filltir yw hon ar ein taith i wella, mae yna lawer o bethau cadarnhaol wedi digwydd ond mae llwybr clir ar gyfer meysydd sydd angen eu gwella o hyd, ac fe gallwn ni nawr ganolbwyntio ar wneud ysgol dda yn un wych.”

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod gan athrawon ddisgwyliadau uchel priodol, a’u bod yn cynnig cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion ddatblygu eu geirfa pwnc-benodol. Disgrifiwyd llywodraethwyr fel cefnogwyr cryf i’r ysgol, gyda dealltwriaeth gadarn o’i chryfderau a’i meysydd i’w datblygu.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynghorau yn croesawu cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw ysgolion ac yn ailadrodd pryderon ynghylch cyllid ADY Cynghorau yn croesawu cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw ysgolion ac yn ailadrodd pryderon ynghylch cyllid ADY
Erthygl nesaf Cerdded a beicio yn Wrecsam – rhowch eich barn Cerdded a beicio yn Wrecsam – rhowch eich barn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English