Rhagwelir y bydd tymereddau uchel eithriadol yn parhau am y dyddiau nesaf, Felly, byddwn yn dechrau casglu biniau ychydig yn gynnar ddydd Llun a dydd Mawrth i helpu ein timau i osgoi rhan boethaf y dydd.
Rhowch eich biniau neu’ch ailgylchu allan yn gynnar (yn ddelfrydol y noson cynt), fel bod popeth yn barod i’w gasglu erbyn 6am.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Amgylchedd: “Disgwylir i’r tywydd poeth barhau yr wythnos nesaf, a bydd y mesurau cynnar hyn yn helpu ein timau.
“Byddwn yn cadw llygad ar y rhagolwg tywydd, ac os bydd hi’n parhau’n boeth, efallai y bydd angen i ni barhau i gasglu’n gynnar am weddill yr wythnos nesaf; fodd bynnag, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb.”



