Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun grantiau bach Partneriaeth Bwyd Wrecsam ar agor ar gyfer ceisiadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cynllun grantiau bach Partneriaeth Bwyd Wrecsam ar agor ar gyfer ceisiadau
Pobl a lleY cyngor

Cynllun grantiau bach Partneriaeth Bwyd Wrecsam ar agor ar gyfer ceisiadau

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 13, 2026 11:47 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Dangos sut i dorri ffrwythau a llysiau mewn dosbarth coginio
RHANNU

Ydych chi’n grŵp cymunedol, elusen, menter gymdeithasol neu ysgol, sy’n awyddus i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd?

Cynnwys
  • Mae grantiau o hyd at £4000 ar gael
  • Enghreifftiau o’r hyn y gallai’r grant ei gefnogi
  • Sut i wneud cais

Os felly, gallwch wneud cais am grant i’ch helpu i gyflwyno’r rhain!

Mae grantiau o hyd at £4000 ar gael

Mae Cyngor Wrecsam ar ran Partneriaeth Bwyd Wrecsam yn gweinyddu grantiau o hyd at £4000 ar gyfer prosiectau bwyd sy’n mynd i’r afael â nodau blaenoriaeth ‘Addysg, Iechyd a Maeth’ a ‘Mynediad at Fwyd Iach Fforddiadwy’.

Enghreifftiau o’r hyn y gallai’r grant ei gefnogi

Bydd ceisiadau llwyddiannus am gyllid yn dibynnu ar yr hyn y gallwch chi ei gynnig.

Er enghraifft, rydym yn chwilio am y mathau canlynol o brosiectau i’w cefnogi:

  • Dosbarthiadau coginio cymunedol — sesiynau cost isel sy’n dysgu sut i wneud prydau syml, iach gan ddefnyddio cynhwysion fforddiadwy.
  • Gweithdai lleihau gwastraff bwyd — sy’n dysgu sut i goginio mewn swp, cadw, a defnyddio gweddillion.
  • Digwyddiadau cyfnewid bwyd diwylliannol – dathlu bwydydd amrywiol wrth hyrwyddo ryseitiau iach, cost isel.
  • Partneriaethau ag awdurdodau lleol, y Bwrdd Iechyd neu sefydliadau eraill — troi mannau gwyrdd yn ardaloedd tyfu neu gynnal hybiau bwyd symudol, gan hyrwyddo mentrau bywyd iach lleol.
  • Hybiau bwyd cymunedol — mannau a lleoedd cymunedol sy’n cynnig cynnyrch ffres cost isel, dosbarthiadau coginio, a gwasanaethau cymorth bwyd
  • Prosiectau Tyfu Eich Bwyd Eich Hun – tyfu trefol, gerddi cymunedol
  • Archfarchnadoedd cymdeithasol / pantris cymunedol — cefnogi’r gwaith o sefydlu cypyrddau bwyd cymunedol, cynlluniau rhoi bwyd dros ben.
  • Siopau Symudol / Faniau Bwyd — dod â chynnyrch fforddiadwy i ystadau, pentrefi gwledig, neu ardaloedd heb lawer o siopau.
  • Cynlluniau bocsys bwyd iach — bocsys llysiau wythnosol wedi’u cyrchu gan dyfwyr lleol am brisiau is.
  • Marchnadoedd cynhyrchwyr lleol — stondinau neu farchnadoedd dros dro cost isel ar ystadau tai, mewn ysgolion, gweithleoedd neu leoliadau canol y ddinas
  • Cyfleusterau prosesu neu storio a rennir — ceginau cymunedol neu hybiau storio oer sy’n helpu tyfwyr bach i gyflenwi cynnyrch mwy fforddiadwy
  • Prosiectau mynediad at fwyd — eglwysi neu fosgiau sy’n cynnal prydau cymunedol, clybiau bwyd, pantris, neu fentrau tyfu cymunedol

Rydym yn annog sefydliadau i fod mor greadigol â phosibl. Os yw eich syniad am brosiect yn cyd-fynd â nodau’r bartneriaeth, peidiwch ag oedi cyn ei gyflwyno, hyd yn oed os nad yw wedi’i restru uchod.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, cadeirydd y gweithgor aelodau a swyddogion costau byw: “Mae hwn yn gyfle na ddylid ei golli i sefydliadau lleol. Bydd prosiectau sy’n derbyn y cyllid hwn yn helpu i roi hwb i sgiliau a mynediad at fwyd maethol cost is i lawer o drigolion, mewn amrywiaeth o ffyrdd.”

Sut i wneud cais

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau llawn ar gyfer y grant ar wefan y Cyngor.

Gellir gwneud cais o 1 Gorffennaf tan y dyddiad cau 3 Awst 2026.

Bydd angen i chi anfon e-bost at grants@wrexham.gov.uk i ofyn am ffurflen gais (a’i dychwelyd i’r un cyfeiriad).

Rhaid i’r holl brosiectau a ariennir gan grant gael eu cyflawni a’r arian gael ei wario erbyn 31 Ionawr 2027.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: grants@wrexham.gov.uk

TAGGED:grantiau
Rhannu
Erthygl flaenorol Amlygu gwaith coed Wrecsam fel arfer da ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol Amlygu gwaith coed Wrecsam fel arfer da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Erthygl nesaf Hot weather Casgliadau biniau am weddill yr wythnos hon (Gorffennaf 14-17)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English