Hoffem atgoffa perchnogion cŵn ledled Wrecsam i ddilyn y rheolau wrth gerdded eu cŵn a helpu i gadw mannau cyhoeddus yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb.
Rydym yn gofyn i drigolion fod yn ystyriol pan fyddant allan gyda’u hanifeiliaid anwes, yn enwedig mewn parciau, ardaloedd chwarae, ardaloedd chwaraeon ac ar briffyrdd cyhoeddus.
Mae’r mwyafrif o berchnogion cŵn yn gweithredu’n gyfrifol, ond mae nifer fach yn parhau i achosi problemau trwy ganiatáu cŵn i mewn i ardaloedd cyfyngedig, methu â’u cadw dan reolaeth, neu beidio â chlirio ar eu hôl.
Rydym yn atgoffa perchnogion cŵn:
- Dylid cadw cŵn ar dennyn wrth gerdded ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd a llwybrau troed
- Rhaid cadw cŵn ar dennyn ger canolfannau ymwelwyr y parciau gwledig ac yn y meysydd parcio, ond gellir eu gadael oddi ar dennyn mewn ardaloedd eraill, ar yr amod eu bod yn parhau i fod o dan reolaeth
- Ni chaniateir cŵn ar lawntiau bowlio, caeau chwaraeon wedi’u marcio, ardaloedd chwarae plant wedi’u ffensio, parciau sglefrio, cyrtiau tenis nac ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd
- Rhaid i berchnogion bob amser gario rhywbeth sy’n addas i godi baw cŵn a rhaid iddynt lanhau ar unwaith os yw eu ci yn gwneud baw
- Efallai y bydd swyddog awdurdodedig hefyd yn gofyn i berchnogion roi eu ci ar dennyn os yw’n achosi pryder neu nad yw o dan reolaeth briodol
- Gellir cyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig pan fydd perchnogion cŵn yn methu â dilyn y rheolau, gan gynnwys ar gyfer troseddau baw cŵn a rheoli cŵn.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn Wrecsam yn gyfrifol ac yn gwneud y peth iawn, ond yn anffodus gall lleiafrif bach gael effaith fawr ar ein cymunedau.”
“Mae baw cŵn yn annymunol, yn anhylan ac yn annheg ar drigolion, plant a phawb sy’n defnyddio ein parciau, strydoedd a mannau agored.”
“Mae’r rheolau yno i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau mannau cyhoeddus yn ddiogel. Rydym yn gofyn i berchnogion cŵn fod yn ystyriol, cadw eu cŵn o dan reolaeth, dilyn yr arwyddion a chodi’r baw ar ôl eu hanifeiliaid anwes bob amser.”
Gall trigolion helpu drwy roi gwybod am ardaloedd problemus i’r cyngor drwy Wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n caniatáu i dimau gorfodi nodi mannau trafferthus a thargedu gwaith ymwybyddiaeth a phatrolau lle mae eu hangen fwyaf.
Ychwanegodd y Cynghorydd David A Bithell, “Nid yw hyn yn ymwneud â stopio pobl rhag mwynhau teithiau cerdded gyda’u cŵn, mae’n ymwneud â sicrhau bod ein mannau cyhoeddus yn gallu cael eu mwynhau gan bawb. Cariwch fagiau, glanhewch ar ôl eich ci a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble caiff cŵn fynd.”




