Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Safonau Masnach yn sicrhau gorchmynion cau yn erbyn dau safle manwerthu yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Safonau Masnach yn sicrhau gorchmynion cau yn erbyn dau safle manwerthu yn Wrecsam
Y cyngor

Safonau Masnach yn sicrhau gorchmynion cau yn erbyn dau safle manwerthu yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 14, 2026 12:27 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Safonau Masnach yn sicrhau gorchmynion cau yn erbyn dau safle manwerthu yn Wrecsam
RHANNU

Mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i gael rhagor o Orchmynion Cau yn erbyn dau safle manwerthu yn Wrecsam fel rhan o ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â gwerthu cynhyrchion tybaco a fêpio anghyfreithlon ac amharu ar weithgaredd troseddol cysylltiedig.

Mae’r Gorchmynion Cau, a roddwyd ddoe gan y Llys Ynadon, yn ymwneud â:

  • Simba’s Shop, Stryt y Brenin, Wrecsam
  • Brook Street Superstore, Glan yr Afon, Wrecsam

Mae’r weithred yn dilyn cyfres o ymchwiliadau a gweithgareddau gorfodi a gynhaliwyd gan Safonau Masnach Wrecsam, gan weithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau partner eraill.

Mae Gorchmynion Cau yn fesur gorfodi sylweddol a ddefnyddir i atal gweithgaredd troseddol neu wrthgymdeithasol parhaus sy’n gysylltiedig â safleoedd. Mae’r gorchmynion yn gwahardd mynediad i’r busnesau a’u bwriad yw amddiffyn cymunedau lleol tra bod ymchwiliadau pellach yn parhau.

Mae gwerthu cynhyrchion tybaco a fêpio anghyfreithlon yn aml yn gysylltiedig â throseddu cyfundrefnol ehangach. Mae’r cynhyrchion hyn yn aml yn cael eu gwerthu y tu allan i’r fframwaith rheoleiddio cyfreithiol, gan osgoi trethi a rheolaethau diogelwch, wrth danseilio busnesau dilys sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.

Mae Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddefnyddio’r ystod lawn o bwerau sydd ar gael i amharu ar fasnachu anghyfreithlon, cael gwared ar gynhyrchion anghyfreithlon a diogelu defnyddwyr.

Datganiad gan y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol ac Diogelu’r Cyhoedd:

“Mae’r Gorchmynion Cau hyn yn dangos ein penderfyniad i fynd i’r afael â busnesau sy’n masnachu’n anghyfreithlon a’r niwed sylweddol y mae’n ei achosi i’n cymunedau.

“Mae’r fasnach dybaco anghyfreithlon yn aml yn gysylltiedig â rhwydweithiau troseddol ehangach, gan amddifadu’r pwrs cyhoeddus o refeniw mawr ei angen a gwneud cynhyrchion tybaco yn fwy hygyrch i bobl ifanc.

“Hoffwn ddiolch i swyddogion Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru am eu hymrwymiad parhaus a’u gwaith mewn partneriaeth i geisio dod â’r materion hyn gerbron y llys.

“Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi cadarn lle bynnag y nodir tystiolaeth o fasnachu anghyfreithlon.”

Roedd y ceisiadau llwyddiannus yn ganlyniad i weithio’n agos mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru. Trwy rannu cudd-wybodaeth a chydlynu gweithgaredd gorfodi, mae asiantaethau yn gallu targedu’n effeithiol y rhai sy’n elwa o werthu nwyddau anghyfreithlon a’r gweithgaredd troseddol cysylltiedig.

Mae’r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol cyfreithlon a sicrhau amgylchedd masnachu teg a diogel i drigolion ac ymwelwyr.

Rhoi gwybod am werthiannau anghyfreithlon

Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu cynhyrchion tybaco neu fêpio anghyfreithlon i roi gwybod i Safonau Masnach Wrecsam drwy e-bost.

Fel arall, gellir gwneud adroddiadau yn ddienw drwy wefan ymgyrch Dim Esgus. Byth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dog Fouling Perchnogion cŵn – helpwch i gadw Wrecsam yn lân
Erthygl nesaf Refill bottle - Plastic Free July Gorffennaf Di-Blastig – dewiswch wrthod!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English