Yn barod i ddechrau ar antur newydd yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol mewn Awdurdod Lleol sydd yn tyfu?
Rydym ni’n dymuno recriwtio nifer o bobl talentog sydd yn angerddol am gefnogi pobl eraill ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy eu gwaith.
Yng Nghyngor Wrecsam, gallwn gynnig ichi:
- Ddiwylliant cefnogol, yn cynnwys arweinyddiaeth gref.
- Llwythi achosion sydd yn cefnogi cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.
- Tîm rheoli sydd yn meithrin gweithwyr.
- Diwylliant o ddysgu a datblygu.
- Pecynnau adleoli cystadleuol ar gyfer yr ymgeiswyr cywir.
Yn barod i gychwyn arni? Tarwch olwg ar y swyddi hyn…
Gweithiwr Cymdeithasol – Plant sy’n Derbyn Gofal
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol – Plant sy’n Derbyn Gofal
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol




