Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gorffennaf Di-Blastig – dewiswch wrthod!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gorffennaf Di-Blastig – dewiswch wrthod!
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Gorffennaf Di-Blastig – dewiswch wrthod!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 14, 2026 12:42 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Refill bottle - Plastic Free July
RHANNU

Gorffennaf Di-Blastig yw’r mudiad byd-eang sy’n helpu miliynau o bobl i leihau gwastraff plastig drwy ddewisiadau syml, bob dydd.

Cynnwys
  • Mae’r siop ailddefnyddio’n rhoi bywyd newydd i’ch deunyddiau plastig
  • Ailgylchu plastig yn Wrecsam
  • Beth nad ydw i’n gallu eu hailgylchu ar ymyl y palmant?
  • A ydw i’n gallu ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd?

Ydych chi’n barod i fod yn rhan o’r ateb i lygredd plastig? Os byddwch chi’n dewis gwrthod plastigau untro, byddwch chi’n helpu i greu strydoedd, cefnforoedd a chymunedau glanach.

Mae dewis gwrthod plastigau untro ym mis Gorffennaf (a thu hwnt!) yn arwain yn aml at ddarganfod dewisiadau amgen gwych a all ddod yn arferion newydd am byth.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i leihau eich defnydd o blastig:

  • Defnyddio neu fenthyg cwpan goffi y gellir ei hailddefnyddio, neu beth am fwyta i mewn yn eich caffi lleol?
  • Ceisiwch ddod o hyd i opsiynau di-blastig wrth brynu ffrwythau a llysiau (prynwch ffrwythau a llysiau rhydd lle bo modd)
  • Defnyddiwch eich bagiau siopa eich hunan y gellir eu hailddefnyddio
  • Dewch â photel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio yn hytrach na phrynu rhai plastig
  • Osgowch yr hambyrddau plastig a ddefnyddir ar gyfer cig, pysgod ac eitemau deli 
  • Ailddefnyddiwch gynwysyddion bocsys bwyd
  • Ceisiwch ddefnyddio pecynnau bwyd y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na ffilm blastig
  • Defnyddiwch far sebon yn hytrach na sebon hylif
  • Rhowch gynnig ar gynnyrch di-blastig yn eich cartref – er enghraifft, sbyngau glanhau a chwistrellwyr glanhau y gellir eu hail-lenwi

Gallwch ddysgu mwy a chymryd rhan drwy ymweld â gwefan Gorffennaf di-blastig.

Mae’r siop ailddefnyddio’n rhoi bywyd newydd i’ch deunyddiau plastig

Os ydych chi’n bwriadu gwaredu eitemau plastig fel dodrefn gardd neu deganau, a’u bod nhw mewn cyflwr da, yna beth am eu rhoi i’r siop ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn…yn ogystal ag ailgylchu’r eitemau, mi fyddwch chi hefyd yn helpu elusen leol.

Hosbis Tŷ’r Eos sy’n rhedeg y siop a gallwch gyfrannu yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam. Mae ardal wedi’i neilltuo ar gyfer pobl sy’n dymuno gadael eitemau ym mhob un ohonynt…os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd, gofynnwch i un o’n cynorthwywyr a fydd yn hapus i’ch helpu.

Ailgylchu plastig yn Wrecsam

A wyddoch chi y gallwch ailgylchu POB potel blastig a PHOB mathau o hambyrddau bwyd plastig, potiau plastig a thybiau plastig ar ochr y ffordd yn Wrecsam? Dylai dilyn hyn eich cadw chi ar y trywydd cywir.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae angen i bob un ohonom wneud ein gorau glas i wneud yn siŵr bod unrhyw blastigau rydyn ni’n eu defnyddio yn cael eu hailgylchu. Yn Wrecsam, mae modd ailgylchu llawer o wahanol gynwysyddion plastig, ac mae’n bwysig iawn bod yn ymwybodol o hyn. Er mwyn helpu ein trigolion i ddeall ailgylchu plastig ychydig yn gliriach, rydyn ni’n mynd i roi enghreifftiau o’r mathau o eitemau cartref nodweddiadol y gellir eu hailgylchu.”

Ond, i’ch helpu chi i ddeall hyn ychydig yn well, dyma ychydig o enghreifftiau o’r eitemau arferol o’r cartref sy’n gallu cael eu hailgylchu. Sef:

  • Potiau iogwrt
  • Tybiau menyn/margarin
  • Tybiau prydau parod
  • Poteli siampŵ
  • Poteli gel cawod
  • Poteli cynnyrch glanhau cegin/ystafell ymolchi (yn cynnwys rhai chwistrellu)
  • Basgedi ffrwythau (ond nid y ffilm na’r papur swigod)
  • Y bocsys clir mae bwyd Tsieineaidd/Indiaidd yn aml yn dod ynddyn nhw
  • Poteli ysgytlaeth
  • Hambyrddau cig
  • Tybiau hufen iâ
  • Tybiau siocled mawr (Quality Street, Celebrations ac ati)

Ond gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n lân, heb unrhyw weddillion bwyd na diod ynddyn nhw cyn i chi eu rhoi yn y cynwysyddion ailgylchu.

Beth nad ydw i’n gallu eu hailgylchu ar ymyl y palmant?

Y pethau mwyaf cyffredin y mae pobl yn ceisio eu hailgylchu nad oes modd eu hailgylchu ar hyn o bryd ar ymyl y palmant yw bagiau bwyd plastig o bob math, bagiau cario plastig, cling ffilm, plastig swigod a phecynnau creision. Gellir ailgylchu rhai o’r eitemau hyn yn lleoliadau blaen siop rhai archfarchnadoedd.

Yn ogystal â’r eitemau uchod, ni allwn dderbyn eitemau polystyren, plastigion caled (gellir ailgylchu’r rhain yn ein canolfannau ailgylchu) teganau, bocsys Tupperware, pecynnau fferins, tiwbiau past dannedd, raseli plastig, neu becynnau reis y gellir eu rhoi yn y ficrodon.

A ydw i’n gallu ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd?

Nid oes modd ailgylchu deunyddiau plastig o’r ardd, megis potiau planhigion, ar ymyl y palmant ar hyn o bryd, ond gallwch eu hailgylchu yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

2 ffordd hawdd o gael gafael ar ein leinin cadi bwyd am ddim – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchu
Rhannu
Erthygl flaenorol Safonau Masnach yn sicrhau gorchmynion cau yn erbyn dau safle manwerthu yn Wrecsam Safonau Masnach yn sicrhau gorchmynion cau yn erbyn dau safle manwerthu yn Wrecsam
Erthygl nesaf Mae gwaith cymdeithasol yn gwneud y gwahaniaeth... Gweithiwr Cymdeithasol cymwys?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English