‘Bwyta’n Well, Arbed Mwy!’
Mae’r Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lansio rhaglen newydd o weithdai bwyta’n iach.
Pwrpas y gweithdai am ddim yw cefnogi trigolion i wella maeth, hyder wrth goginio, a lles cyffredinol.
Oes modd i’ch sefydliad gynnal gweithdy am ddim?
Mae lleoliadau cymunedol, ysgolion a chlybiau ledled y sir yn cael eu gwahodd i gynnal y sesiynau hyn i’w haelodau rhwng Gorffennaf 2026 a Chwefror 2027.
Y bwriad yw sicrhau bod y gweithdai’n agored i bob grŵp oedran (felly nid oes terfynau oedran, cyn belled â bod plant yng nghwmni oedolyn) a bydd maint grwpiau ar gyfer pob sesiwn rhwng 6 a 12 o bobl.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, cadeirydd y gweithgor aelodau a swyddogion ar gyfer costau byw: “Bydd y fenter wych hon yn dod â sesiynau yn uniongyrchol i leoliadau cymunedol, gan wneud addysg maeth yn fwy hygyrch i drigolion a all wedyn ddefnyddio’r wybodaeth honno yn eu bywydau o ddydd i ddydd.”
Wedi’i hariannu gan Bartneriaeth Bwyd Wrecsam
Mae Partneriaeth Bwyd Wrecsam yn ariannu’r rhaglen, sy’n golygu y gellir ei chyflwyno heb unrhyw gost i westeiwyr neu gyfranogwyr.
Gyda phwysau parhaus costau byw, mae llawer o drigolion yn chwilio am ffyrdd ymarferol o ymestyn eu cyllidebau bwyd heb gyfaddawdu ar iechyd.
Nod y gweithdai sydd wedi’u creu yw helpu pobl i arbed arian wrth fwyta’n well; gan gynnig awgrymiadau realistig, fforddiadwy ar gyfer cynllunio a gwneud prydau bob dydd.
Beth fydd yn digwydd yn y gweithdai?
Mae’r rhaglen yn cynnwys dau fath o weithdai:
- Gweithdy Maeth 1 awr – sesiwn ddifyr, addysgiadol gydag awgrymiadau a chyngor ar gyfer bwyta’n iach ar gyllideb.
- Sesiwn Goginio Ymarferol 2.5 awr – dosbarth ymarferol lle bydd Deietegwyr Cymunedol y GIG yn tywys cyfranogwyr i baratoi prydau syml, maethlon, cost isel
Bydd pawb sy’n cymryd rhan mewn gweithdy hefyd yn cael bag siopa a llyfr ryseitiau am ddim, i’w helpu nhw i barhau i goginio’n iach gartref.
Addasrwydd lleoliad
Os nad oes gan eich lleoliad gegin lawn i’w defnyddio, peidiwch â phoeni! Bydd angen cyfleusterau golchi dwylo a golchi llestri addas ar y tîm (hefyd byddai mynediad at oergell yn fantais ychwanegol), ond bydd yn darparu unrhyw offer sydd ei angen.
Cysylltwch â ni
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cynnal sesiwn am ddim, cysylltwch â ni drwy e-bostio BCU.NutritionSkillsForLifeEast@wales.nhs.uk
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Cynllun grantiau bach Partneriaeth Bwyd Wrecsam ar agor ar gyfer ceisiadau





