Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Diweddarwyd diwethaf: Medi 15, 2026 9:54 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
RHANNU

Mae gwneuthurwr gwaith coed o Wrecsam ar fin tyfu ei weithrediadau a gwella effeithlonrwydd yn dilyn cymorth drwy Raglen Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae Derwen Joinery Ltd wedi sicrhau cymorth i fuddsoddi mewn offer newydd a fydd yn helpu’r cwmni i gynyddu cynhyrchiant, gwella cywirdeb ac ehangu ei alluoedd gweithgynhyrchu.

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Wedi’i sefydlu gan y cyfarwyddwyr Jenny Roberts a Philip Roberts, mae Derwen Joinery yn cynhyrchu ffenestri, drysau, grisiau, drysau tân a chynhyrchion gwaith coed pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer prosiectau preswyl, masnachol a threftadaeth ledled y DU. Mae’r cwmni hefyd yn wneuthurwr drysau tân gydag ardystiad BM TRADA, sy’n adlewyrchu ei ymrwymiad i ansawdd a diogelwch.

Bydd y buddsoddiad yn darparu technoleg sganio digidol newydd, peiriannau gwaith coed uwch ac offer arbenigol, gan helpu’r busnes i symleiddio cynhyrchu, lleihau gwastraff ac ymgymryd â phrosiectau mwy cymhleth.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar fuddsoddiad diweddar Derwen Joinery mewn peiriant dan reolaeth cyfrifiadur 5 echel, sydd eisoes wedi helpu i foderneiddio prosesau cynhyrchu a chefnogi datblygiad y gweithlu.

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Cefnogwyd y prosiect gan Dîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a weithiodd yn agos gyda’r cwmni i gael gafael ar gyllid drwy’r Rhaglen Parth Buddsoddi.

Dywedodd Jenny Roberts, Cyfarwyddwr Derwen Joinery Ltd, “Mae’r cymorth hwn yn gam pwysig yn ein taith dwf.

Hoffem ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Rhaglen Parth Buddsoddi am gydnabod ein huchelgais a chefnogi ein buddsoddiad parhaus mewn arloesi a thwf.

Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i foderneiddio ein gweithrediadau ymhellach, gwella cynhyrchiant, ac ehangu’r amrywiaeth o brosiectau y gallwn eu cyflawni, wrth barhau i greu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a thwf cynaliadwy o’n canolfan yn Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Hoffwn ddiolch i Philip a Jenny am gymryd yr amser i’m gwahodd i safle Derwen Joinery a dangos y gweithdai i mi.

Roedd yn wych gweld sut maent wedi llwyddo i ymgorffori crefftwaith traddodiadol ond hefyd cofleidio’r defnydd o dechnolegau modern i wella ac adeiladu eu cwmni.

Gyda chymorth cyllid gan y parth buddsoddi a phrynu sganiwr digidol, bydd hyn yn sicrhau eu bod ar flaen y gad gyda thechnoleg ac yn rhoi mantais iddynt dros eu cystadleuwyr gan helpu’r cwmni i fod yn fwy cynaliadwy ac ehangu.

Rydw i’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Mae Rhaglen Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint yn cefnogi busnesau i fuddsoddi, tyfu ac arloesi, gan helpu i greu swyddi, rhoi hwb i gynhyrchiant a chryfhau sectorau allweddol ledled y rhanbarth.

I gwmni Derwen Joinery, mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn yn gam pwysig arall yn ei dwf, gan helpu i sicrhau ei ddyfodol fel gwneuthurwr blaenllaw o gynhyrchion pren pwrpasol wrth barhau i fuddsoddi mewn cynaliadwyedd, sgiliau ac arloesi o’i ganolfan yn Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Erthygl nesaf Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor
Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English