Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc

Diweddarwyd diwethaf: Mai 11, 2018 11:09 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc
RHANNU

Ymunodd grŵp o bobl ifanc o ddau brosiect lleol a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) â’i gilydd ddydd Mercher 9 Mai i ddathlu diwrnod yr UE ynn Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Cynnwys
  •  Dathliadau ar draws Ewrop
  •  Cefnogaeth Un-i-Un

Roedd y diwrnod yn cynnwys ystod eang o weithgareddau llawn hwyl ar draeth Talacre, cinio yng Nghanolfan Ieuenctid Treffynnon ac ymweliad i Gastell y Fflint i gloi. Lluniwyd y digwyddiad gyda thema ‘Blwyddyn y Môr’ Llywodraeth Cymru mewn golwg, yn ogystal ag arddangos beth sy’n wych am ‘Treftadaeth Ddiwylliannol’ Cymru i gyd-fynd gyda’r thema ar draws Ewrop ar gyfer dathliadau Diwrnod Ewrop eleni.

 

Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc

Dywedodd Karen Whitney-Lang, Rheolwr Rhaglen Prosiectau TRAC ac ADTRAC ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, a threfnydd y digwyddiad: “Mae’r ddau brosiect wedi elwa o gyfanswm 900 o bobl rhwng 11 a 24 mlwydd oed ers lansio TRAC ym mis Ebrill 2016 ac ADTRAC ym mis Ionawr eleni. Mae’r staff a’r bobl ifanc a aeth i ddigwyddiad heddiw yn cynrychioli llwyddiant y prosiect hyd yn hyn, ac mae’n wych fod pawb wedi cofleidio’r diwrnod. Rydym yn falch iawn o arddangos effeithiau cadarnhaol buddsoddiad Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gynnwys mewn cystadleuaeth Diwrnod UE ADTRAC 16-24 ac rydym i gyd yn croesi ein bysedd y bydd y wobr yn dod i Ogledd Ddwyrain Cymru, er bod cystadleuaeth gref gan ein cydweithwyr mewn siroedd cyfagos”.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

 Dathliadau ar draws Ewrop

Cynhelir Diwrnod Ewrop bob blwyddyn ym mis Mai, ac mae’n dathlu heddwch ac undod yn Ewrop. Mae’r dyddiad yn nodi pen-blwydd ‘datganiad Schuman’. Mewn araith ym Mharis yn 1950, nododd Robert Schuman, gweinidog tramor Ffrainc ar y pryd, ei syniad am fath newydd o gydweithio gwleidyddol yn Ewrop, a fyddai’n gwneud y syniad o ryfel rhwng cenhedloedd yn un amhosibl ei ddychmygu. Mae cynnig Schuman yn cael ei ystyried fel dechrau, beth sydd nawr yn cael ei alw’n Undeb Ewropeaidd. Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn dathliadau ar draws Ewrop i nodi Diwrnod Ewrop ac i godi ymwybyddiaeth o’r UE.

I ddathlu gyda’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a ariennir gan ESF, gweithiodd aelodau o dimau TRAC a ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Groundwork Gogledd Cymru i gynnal ystod eang o weithgareddau llawn hwyl, o hedfan barcud a chodi cestyll tywod i ras sbrowts Brwsel a llwy ar y traeth!

Rhoddodd gyfle i bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiectau i fwynhau diwrnod llawn hwyl a chael cefnogaeth lles gan eu Mentoriaid Ymgysylltu Ieuenctid i fagu eu hyder a’u hunan-barch. I rhai o’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan, dyma eu profiad gyntaf o ymweld â thraeth a chastell, a rhoddodd y diwrnod gyfle iddynt i fwynhau rhai o safleoedd lleol Gogledd Ddwyrain Cymru.

 Cefnogaeth Un-i-Un

Mae prosiectau TRAC ac ADTRAC yn cael eu noddi’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnig cefnogaeth bersonol i bobl ifanc rhwng 11 a 24 mlwydd oed, i ddymchwel rhwystrau a’u helpu i ymgysylltu â’u haddysg neu i fynd ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant.

Cewch wybod mwy am y prosiect ADTRAC neu cysylltwch â thîm ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint ar ADTRAC@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion ynghylch y broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau yn ogystal â hunan-atgyfeiriadau.

Cewch wybod mwy am y prosiect TRAC neu cysylltwch dros e-bost ar TRAC@wrexham.co.uk.

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i fwynhau FOCUS Wales yn Tŷ Pawb... Dewch i fwynhau FOCUS Wales yn Tŷ Pawb…
Erthygl nesaf Dyma ni! Dewch draw i'r HWB ar gyfer FOCUS Wales Dyma ni! Dewch draw i’r HWB ar gyfer FOCUS Wales

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English