A oes gan eich busnes chi syniadau gwych i helpu pobl gyda phroblemau cyhyrysgerbydol a/neu iechyd meddwl aros mewn gwaith?
Os felly, gallai’r gronfa newydd hon gan y Llywodraeth fod o ddefnydd…
Ar 16 Gorffennaf 2018, fe lansiodd Uned Gwaith ac Iechyd y Llywodraeth y Gronfa Herio. Ei bwriad yw profi dulliau newydd sy’n helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gyhyrysgerbydol i aros mewn gwaith.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Mae £4.2 miliwn ar gael a bydd prosiectau ar fynd o fis Hydref 2018 tan fis Chwefror 2020.
Mae’r cyllid ar gael am gyfnod cyfyngedig ac mae’n cynnwys cymorth i bobl sydd mewn perygl o golli eu swydd drwy salwch ac i’r rhai sydd eisoes ddim yn y gwaith oherwydd iechyd gwael.
Y peth gwych am y cyllid hwn yw nad oes unrhyw syniadau o flaen llaw ynglŷn â beth sy’n gweithio a beth allai weithio… felly dewch â’ch syniadau.
Croesewir ceisiadau gan gyflogwyr, elusennau, mentrau cymdeithasol, awdurdodau lleol, cyrff iechyd ac eraill.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 17 Ebrill am 5pm. Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN