Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A bydded goleuadau!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > A bydded goleuadau!
Busnes ac addysgY cyngor

A bydded goleuadau!

Diweddarwyd diwethaf: 2019/07/24 at 12:13 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
A bydded goleuadau!
RHANNU

Nid yw tywydd yr haf yn rhy ddrwg ar hyn o bryd!

Ond- er nad ydym eisiau swnio’n negyddol! – ni fydd yn hir cyn iddi ddechrau tywyllu eto.

Gyda hynny mewn golwg, roeddem eisiau rhannu newyddion da i’r holl glybiau pêl-droed lefel cymunedol, clybiau ieuenctid a thimau llai sydd eisiau dal ati i chwarae ar ôl machlud yr haul.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Ydych chi’n rhan o un o’r grwpiau hyn? Os felly, darllenwch y canlynol…

Llifoleuadau newydd ar gyfer cae Clywedog

Mae’n debyg y byddech yn gwybod am y gwaith a wnaed yn ein canolfannau hamdden a gweithgareddau, ochr yn ochr â’n partneriaid Freedom Leisure.

Ond ynghyd â gwella’r canolfannau, rydym hefyd wedi buddsoddi mewn gwelliannau i’r cyfleusterau aml-ddefnydd sy’n cael eu darparu gan Freedom Leisure mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol – ynghyd â chaeau ar safleoedd ysgol.

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn wrth ein gwaith ym mis Awst yn gosod colofnau llifoleuadau newydd ar y cae bob tywydd yn Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun – gan olygu y gall y cae gynnal gemau a hyfforddiant fin nos, hyd yn oed ar ôl i nosweithiau’r hydref gyrraedd.

Rydym yn awr yn derbyn archebion ar gyfer unrhyw hyfforddiant a gemau gyda llifoleuadau yn dechrau o’r 1 Medi.

Ar gyfer y clybiau sydd ymhellach oddi wrth y safle, mae modd archebu’r caeau 3G gyda llifoleuadau yn y Waun, Morgan Llwyd a Queensway.

I archebu, cysylltwch â’ch canolfan hamdden a gweithgareddau agosaf.

Archebwch yn awr

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Er ei bod ychydig yn gynnar i ni ddechrau hyrwyddo pêl-droed gyda llifoleuadau, mae nifer o archebion eisoes wedi’n cyrraedd ar gyfer gemau a hyfforddiant gyda llifoleuadau ar y cae bob tywydd yn Ysgol Clywedog, a gwyddwn y bydd mwy o alw wrth i’r hydref agosáu.

“Bydd y llifoleuadau newydd yn eu lle o’r 1 Medi, felly dylai clybiau a grwpiau chwaraeon archebu yn awr”.

Gellir archebu drwy gysylltu â:

  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun: 01691 778 666
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog 01978 262 787 neu 01978 369540 (Gwyn Evans)
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Morgan Llwyd  01978 314 693
  • Stadiwm Queensway: 01978 355 826

Fel arall, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy wefan Freedom Leisure.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/english/education/school_uniform_grant.htm “] APPLY FOR A PUPIL DEVELOPMENT GRANT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Uchafbwynt Diwedd Tymor ar gyfer Sioeau Cerddoriaeth Fyw Uchafbwynt Diwedd Tymor ar gyfer Sioeau Cerddoriaeth Fyw
Erthygl nesaf Wrexham Ydyn ni’n amddiffyn eich arian? (darllenwch ymlaen i gael yr ateb)

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 15, 2025
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor Medi 15, 2025
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

foster wales
Pobl a lleY cyngor

Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?

Medi 15, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y cyngor

Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd

Medi 11, 2025
Ty Pawb
Pobl a lleY cyngor

Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m

Medi 11, 2025
Wrexham Guildhall
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf

Medi 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English