Wrexham

Fel gydag unrhyw sefydliad mawr arall, rhaid i Gyngor Wrecsam ddiogelu ei hun yn erbyn twyll.

Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y gwiriadau a’r gweithdrefnau cywir ar waith gennym i atal dwyn, twyll a llwgrwobrwyo – mae angen i ni sicrhau y caiff arian trethdalwyr ei reoli a’i gyfrifo amdano yn iawn.

Felly, a yw’r gwiriadau cywir ar waith gan y cyngor?

Dyma’r cwestiwn y bydd ein Pwyllgor Archwilio yn gofyn pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22.

Brwydro twyll

Ni fydd y cyngor yn goddef twyll o unrhyw fath – boed yn cael ei gyflawni gan weithiwr, cynghorwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr neu unrhyw un arall.

A byddwn bob amser yn ceisio erlyn twyllwyr, neu gymryd camau disgyblu neu fesurau eraill i adennill colledion.

Bydd y Pwyllgor Archwilio yn edrych ar yr hyn rydym wedi bod yn gwneud i atal a mynd i’r afael â thwyll dros y flwyddyn ddiwethaf, a sut y byddwn yn dal i reoli’r risgiau.

Jerry O’Keeffe sy’n cadeirio’r pwyllgor. Nid yw’n gynghorydd nac yn weithiwr, ond yn hytrach yn aelod annibynnol o’r cyhoedd.

Dywed: “Yn ogystal â dwyn cyllid prin y cyngor ar gyfer gwasanaethau, gall twyll a llygredd hefyd niweidio ysbryd a thanseilio hyder mewn cyrff cyhoeddus.

“Nid oes tystiolaeth fod twyll yn broblem fawr yng Nghyngor Wrecsam, ond mae’r perygl yn uchel yn genedlaethol, felly mae’n hanfodol ein bod yn parhau i reoli’r perygl hwnnw.”

Bydd hefyd gofyn i’r pwyllgor gymeradwyo Datganiad Cyfrifon Blynyddol y cyngor a hefyd, i ystyried ble dylai’r pwyllgor hoelio ei sylw yn y dyfodol.

Dewch i’r cyfarfod

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd, felly beth am fynd draw os gewch chi gyfle?

Dywed Mr O’Keeffe: “Mae’r Pwyllgor yn archwilio materion difrifol, ond nid yw’r cyfarfodydd yn frawychus nac yn orffurfiol. Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol.”

Oes gennych chi ddiddordeb? Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau yma, 25 Gorffennaf, yn Neuadd y Dref, Wrecsam. Bydd yn dechrau am 4pm.

Cymerwch olwg ar y rhaglen ar wefan y cyngor.

Os ydych am roi sylw ar unrhyw un o’r materion a thrafodwyd yn yr erthygl hon, gallwch gysylltu â Mr O’Keeffe ar chair.audit@wrexham.gov.uk