Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod o Godi arian a Hwyl wrth i Fyd Dŵr Wrecsam “Gwacian”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Diwrnod o Godi arian a Hwyl wrth i Fyd Dŵr Wrecsam “Gwacian”
Pobl a lle

Diwrnod o Godi arian a Hwyl wrth i Fyd Dŵr Wrecsam “Gwacian”

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 5, 2024 1:25 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Duck Race
RHANNU

Erthygl Gwadd Byd Dŵr Wrecsam

Roedd yr atyniad poblogaidd yn Wrecsam, Byd Dŵr, sy’n cael ei redeg gan Freedom Leisure wrth ei bodd i gynnal ‘Diwrnod Hwyl i’r Teulu’ ar 24 Chwefror, pan lwyddwyd i godi llawer o arian ar gyfer un o elusennau pwysig y DU.

Daeth cwsmeriaid a chydweithwyr ynghyd ar gyfer diwrnod llawn gweithgareddau, gyda ‘Ras Hwyaid’ i gychwyn yr hwyl! Hwyliodd 100 o hwyaid i lawr sleid ddŵr y Byd Dŵr, sy’n mesur 65 metr o hyd, gyda hwyaden rhif 5 yn ennill teitl y ‘Pencampwr’!

Ymhlith gweithgareddau teuluol eraill oedd ar gael i’r cannodd o bobl oedd yn bresennol ar y diwrnod oedd ‘Bore Coffi’, a ‘Splash-a-thon’ oedd yn cynnig llwyth o weithgareddau hwyl yn y dŵr.

Yn ogystal, gofynnwyd i gwsmeriaid roi eu harian locer at yr achos, a derbyniwyd rhoddion trwy gydol y dydd, gan godi cyfanswm o £306.37 ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon, sy’n parhau i ymchwilio i glefydau’r galon a chlefydau cylchredol.

Trwy gydol mis Chwefror mae’r Byd Dŵr wedi cefnogi ‘Mis y Galon’ Sefydliad Prydeinig y Galon trwy annog cwsmeriaid a staff i ‘wisgo rhywbeth coch’ ac mae plant wedi ychwanegu ychydig o liw i’r caffi a’r dderbynfa trwy arddangos eu gweithiau celf, yn sgil cyflwyno cystadleuaeth lliwio hynod boblogaidd – mae’r holl weithiau creadigol i’w gweld yn y Byd Dŵr.

Yn ôl Felicity Griffiths, Rheolwr Cyffredinol Byd Dŵr: “Cawsom bleser enfawr wrth gymryd rhan ym ‘Mis y Galon’ Sefydliad Prydeinig y Galon. Creodd yr hwyaid llwyth o hwyl ar y ffliwm, a deifio i’r dŵr cyflym wedyn.  Roedd hi mor hyfryd derbyn ac arddangos y negeseuon o gariad yn ffenestri’r dderbynfa i bawb eu gweld. Ac rydym yn hapus iawn ein bod wedi codi arian hollbwysig ar gyfer Sefydliad Prydeinig y galon trwy’r rhoddiion a’r bore coffi.”

Dywed Victoria Waters, Rheolwr Partneriaethau a Chyfranogiad Nofio Cymru: “Dymuna bawb yn Nofio Cymru longyfarch tîm Byd Dŵr Wrecsam a phawb oedd yn rhan o’u gweithgareddau codi arian. Rydym yn falch iawn i fod yn bartner Sefydliad Prydeinig y Galon yn ystod y mis ar gyfer Her Nofio 60, felly pleser o’r mwyaf yw gweld ein partneriaid Freedom Leisure yn galluogi’r gymuned i ddod ynghyd, bod yn weithgar yn y dŵr a chodi arian hollbwysig ar gyfer y Sefydliad.”

Diwrnod o Godi arian a Hwyl wrth i Fyd Dŵr Wrecsam “Gwacian”
Diwrnod o Godi arian a Hwyl wrth i Fyd Dŵr Wrecsam “Gwacian”
Diwrnod o Godi arian a Hwyl wrth i Fyd Dŵr Wrecsam “Gwacian”

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth

Foster Wales - become a foster carer

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Galeri lluniau: Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Yr Helfa FAWR Wyau Pasg! Yr Helfa FAWR Wyau Pasg!
Erthygl nesaf Check your bin day Welsh Gwiriwch pa ddiwrnod y mae eich biniau yn cael eu casglu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich casgliadau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English