Disgwylir i’r Etholiadau Ewropeaidd gael eu cynnal ar ddydd Iau, 23 Mai ac fel arfer, rydym yn eich annog chi i bleidleisio.
Os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio dylech dderbyn gwybodaeth bleidleisio yn yr ychydig wythnosau nesaf. Os nad ydych wedi cofrestru ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn yr etholiadau hyn nac unrhyw etholiadau eraill.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Mae’n cymryd tua 5 munud i gofrestru ac mae gennych tan 7 Mai i wneud hyn. Gallwch gofrestru yma.
Byddwch angen eich dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol felly gwnewch yn siŵr eu bod o fewn cyrraedd cyn cofrestru. Os na allwch ddod o hyd i’ch rhif yswiriant gwladol, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau Cyllid a Thollau EM yma, 0300 200 3502.
Dywedodd I ân Bancroft, Swyddog Canlyniadau Lleol: “Mae’n bwysig fod pobl yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad ac nad ydynt yn colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol ar gael i roi cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr. Peidiwch â thybio eich bod wedi cofrestru i bleidleisio oherwydd eich bod yn talu pethau eraill fel Treth y Cyngor. Os nad ydych yn siŵr ffoniwch neu anfonwch e-bost i’r manylion cyswllt uchod”.
Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael ar wefan Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Cymru yma.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB