Rydym ni wedi derbyn gwybodaeth am bryderon ynghylch cŵn yn cael eu dwyn yn yr ardal. Mae’r pryderon yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn achosi poen meddwl i berchnogion cŵn a phobl ddiniwed eraill.
Rydym ni wedi edrych ar y mater ac wedi siarad efo Heddlu Gogledd Cymru i weld a oes angen poeni am hyn yn Wrecsam. Yn ôl yr heddlu, er bod ychydig o achosion o ddwyn cŵn wedi bod yn y wlad, mae troseddau o’r fath yn brin iawn yma yn Wrecsam a does dim un achos wedi’i ddwyn i sylw’r heddlu ers tro byd.
Mae’r pryderon a welir yn cael eu rhannu o lefydd amrywiol ar draws y DU, sydd wedyn yn cael eu gweld yn lleol ac yn creu dychryn. Mae llawer o’r negeseuon hyn yn dod o dde Lloegr, lle mae llond llaw o achosion wedi’u cadarnhau.
Mae nifer o’r lluniau sy’n cael eu rhannu’n lleol ar hyn o bryd yn lluniau o aelodau o’r cyhoedd yn mynd o gwmpas eu bywydau bob dydd ond, i eraill, yn edrych fel petaent yn ymddwyn yn amheus.
Ni ddylid annog rhannu lluniau o’r fath oherwydd y gall roi pobl ddiniwed mewn perygl.
Yn anffodus, oherwydd bod hyn wedi ennill momentwm, rydym ni rŵan yn gweld pobl yn gwneud castiau gan farcio waliau gyda sialc neu’n gosod ceblau clymu i achosi gofid.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Rydym ni’n gofyn am “sgwrs synhwyrol” i beidio ag achosi poen meddwl i berchnogion anifeiliaid anwes.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er ein bod ni i gyd yn poeni am ein hanifeiliaid anwes a ddim eisiau i unrhyw beth ddigwydd iddyn nhw, fe ddylem ni hefyd fod yn ymwybodol bod rhannu lluniau yn lleol yn achosi gofid i bobl ddiniwed nad ydyn nhw’n gwneud dim o’i le. Meddyliwch yn ofalus cyn i chi rannu lluniau o’r fath a chofiwch, er bod troseddau o’r fath yn bodoli, eu bod nhw’n brin iawn yma yn Wrecsam”.
Meddai Luke Hughes, Arolygydd Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru:
“Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn gwych i rannu gwybodaeth gyda’r gymuned. Fodd bynnag, er bod rhai negeseuon yn llawn bwriadau da, bydd ambell i beth rydych chi’n ei weld yn wybodaeth anghywir neu’n “newyddion ffug”.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd pob trosedd a roddir gwybod amdani o ddifrif, ac mae troseddau fel y rhai yma yn amlwg yn cynhyrfu pobl. Ond gallaf eich sicrhau nad ydi Wrecsam wedi’i heffeithio gan y ffenomenon yma a bod Heddlu Gorllewin Mersia a Chaer hefyd yn cofnodi llai o droseddau na’r ffigyrau a nodir ar gyfryngau cymdeithasol.”
Os ydych chi’n pryderu ynghylch unrhyw ddigwyddiad penodol, ffoniwch 101.
YMGEISIWCH RŴAN