Mae preswylwyr bellach yn gallu adnewyddu eu tanysgrifiad ar gyfer casgliadau gwastraff gardd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Mae’r cyfnod adnewyddu ar gyfer y flwyddyn wasanaeth nesaf bellach ar agor, felly ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd i wneud eich taliad ar-lein. Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf, a gallwch ei wneud ar adeg sy’n gyfleus i chi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru mewn digon o amser i osgoi colli unrhyw gasgliadau pan fydd y gwasanaeth yn dechrau ym mis Ebrill.
Y gost ar gyfer 2025/26 yw £35 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, ac mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Mawrth 1 Ebrill 2025 tan ddydd Mawrth 31 Mawrth 2026. Byddwn yn parhau i adolygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.
Mis Mawrth 2025 am ddim
Trwy ddechrau’r flwyddyn wasanaeth nesaf ym mis Ebrill, mae’n golygu y bydd y rheiny sy’n tanysgrifio i’n gwasanaeth gwastraff gardd presennol yn elwa o fis ychwanegol o gasgliadau am ddim.
Roedd disgwyl i’r gwasanaeth presennol ddod i ben ar 28 Chwefror, ond mae hyn wedi cael ei ymestyn ymhellach. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd presennol, bydd eich biniau gwyrdd yn parhau i gael eu casglu tan 31 Mawrth 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn falch o gadarnhau ein bod wedi penderfynu dal y pris presennol ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gyfer 2025/26 am £35. Mae hyn yn ein cadw ni fel un o’r awdurdodau lleol isaf a phris economaidd yng Nghymru a Lloegr am ein gwasanaeth gwastraff gardd. Byddwn yn annog pawb i fanteisio ar y gwasanaeth hwn a thanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwych hwn yn barod ar gyfer y gwanwyn/haf.”
Talwch ar-lein lle bo hynny’n bosibl
Y ffordd hawsaf i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd.
Gall unrhyw breswylwyr a hoffai gael ychydig o gymorth i wneud taliad ar-lein ymweld â Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu gallwch alw heibio eich swyddfa ystâd dai leol. Rhowch wybod i’n staff eich bod am dalu am eich casgliadau gwastraff gardd a byddant yn eich helpu drwy’r broses, a gallant hyd yn oed eich helpu i greu cyfeiriad e-bost os nad oes un gennych.
Gall ffrind neu berthynas danysgrifio ar-lein ar eich rhan.
Rhaid bod gennych gyfeiriad e-bost i danysgrifio ar-lein. Os nad oes un gennych, gallwch ffonio Strydlun ar 01978 298989 i dalu â cherdyn.
Dim sticeri bin
Eleni ni fyddwn yn anfon sticeri bin fel rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio ein system logistaidd i nodi eiddo sydd wedi talu am y gwasanaeth diweddaraf. Rydym yn argymell i chi arddangos eich enw neu rif eich tŷ ar eich bin gwyrdd i’w gwneud hi’n haws i ni baru’ch bin yn erbyn y manylion ar ein system.
Telerau ac Amodau
Yn flaenorol rydym wedi anfon telerau ac amodau’r gwasanaeth gwastraff gardd fel rhan o’ch pecyn sticeri biniau. Gan na fyddwn bellach yn anfon sticeri bin, ni fyddwn yn anfon copïau papur o’r telerau a’r amodau.
Yn hytrach, byddwch yn gallu gweld y rhain ar-lein neu os byddai’n well gennych, gallwch gasglu copi papur mewn person o Galw Wrecsam.
Mae gen i danysgrifiad cyfredol a ydych chi’n casglu fy ngwastraff gardd mis Mawrth?
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd presennol, bydd eich biniau gwyrdd yn parhau i gael eu casglu tan 31 Mawrth 2025.
Dydw i ddim eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gymryd fy min gwastraff gardd?
Gellir cymryd unrhyw finiau gwastraff gardd diangen i ffwrdd ar gais. Ar ôl gofyn am hyn, gall gymryd sawl wythnos i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr fod eich bin yn wag ac yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.
Efallai y byddai’n werth cadw eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os yw eich bin gwastraff gardd yn cael ei gymryd i ffwrdd a’ch bod yn newid eich meddwl yn y dyfodol, bydd tâl yn cael ei godi am un newydd.
Beth galla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?
Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Fel arall, gallech gompostio gwastraff gardd gartref. Cymerwch olwg ar ganllaw Cymru’n Ailgylchu ar ‘Sut i sefydlu compostio gartref’ sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.
Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?
Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.